Penrhyn yn Iberia From Wikipedia, the free encyclopedia
Tiriogaeth dramor y Deyrnas Unedig sy'n cael ei hawlio gan y Deyrnas Gyfunol yw Gibraltar. Fe'i lleolir yn ne Penrhyn Iberia. Mae'n ffinio â Sbaen i'r gogledd, gyda'r ffin yn 1.2-kilometr (0.75 milltir), ac mae Culfor Gibraltar i'r de.[1] Ei arwynebedd yw 6.7 km2 (2.6 milltir sgwâr) a'i boblogaeth yw 34,003.[2] Mae Craig Gibraltar yn dominyddu'r olygfa, o bob cyfeiriad.
Arwyddair | Bathodyn Craig Gibraltar |
---|---|
Math | Tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig, dinas â phorthladd, United Nations list of non-self-governing territories, tiriogaeth ddadleuol, tref ar y ffin, un o wledydd môr y canoldir, cyrchfan i dwristiaid, dinas |
Enwyd ar ôl | Tariq ibn Ziyad |
Prifddinas | Gibraltar |
Poblogaeth | 34,003 |
Sefydlwyd | |
Anthem | God Save the King, Gibraltar Anthem |
Pennaeth llywodraeth | Fabian Picardo |
Cylchfa amser | CET |
Gefeilldref/i | Funchal, Ballymena, Singapôr |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Arwynebedd | 6.843 ±0.001 km² |
Uwch y môr | 11 metr |
Gerllaw | Môr Alboran, Bae Gibraltar, Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | Sbaen, Andalucía, yr Undeb Ewropeaidd |
Cyfesurynnau | 36.14°N 5.35°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Parliament of Gibraltar |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn y Deyrnas Unedig |
Pennaeth y wladwriaeth | Charles III |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Gibraltar |
Pennaeth y Llywodraeth | Fabian Picardo |
Arian | punt Gibraltar |
Yn strategol, mae Gibraltar yn bwysig iawn i Luoedd Arfog Prydain a cheir safle môrlu yno.
Ceir olion pwysig o'r Neanderthal yn Gibraltar, sy'n dyddio i rhwng 40,000 i 50,000 o flynyddoedd yn ôl ac ystyrir Ogof Gorham yn hynod o bwysig.[3]
Ym 1704, cymerwyd Gibraltar o Sbaen gan luoedd Prydeinig ac Iseldiraidd yn ystod 'Rhyfel Olyniaeth Sbaen'. Ildiwyd y diriogaeth i’r Deyrnas Unedig "am byth" pan arwyddwyd Cytundeb Utrecht ym 1713. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd e’n sylfaen bwysig i’r Llynges Frenhinol, gan fod y penrhyn yn rheoli’r mynediad i Fôr y Canoldir, sydd yn ddim ond 8 milltir o led yn y man culaf.
Mae'n parhau i fod yn strategol bwysig heddiw, gyda hanner llongau masnach y byd yn pasio drwy'r culfor yma.
Heddiw, mae economi Gibraltar yn seiliedig ar dwristiaeth, gamblo ar-lein, gwasanaethau ariannol a darparu tanwydd i longau cargo.[4][5][6]
Daw enw'r diriogaeth o'r enw Arabeg gwreiddiol Jabal Ţāriq (جبل طارق), sef "mynydd Tariq". Cyfeiria at y cadfridog Berber Umayyad Cadfridog Tariq ibn-Ziyad, a arweiniodd oresgyniad rhan o Iberia yn 711 gan filwyr o'r Maghreb. Cyn hynny fe'i hadnabuwyd fel Mons Calpe, un o Bileri Hercules. Heddiw gelwir Gibraltar yn "Gib" neu "y Graig" ar lafar gwlad.
Un o brif faterion llosg yn y berthynas rhwng Prydain a Sbaen yw sofraniaeth Gibraltar. Mae Sbaen yn gofyn am ddychwelyd yr ardal i'w gwlad wedi i sofraniaeth Sbaen drosti gael ei hildio yn 1713. Fodd bynnag, mae rhan fwyaf trigolion Gibraltar (Saeson, neu ddisgynyddion i Saeson) wedi gwrthod hyn.[7] Gwrthododd y pobl Gibraltar cynigion sofraniaeth sbaeneg mewn refferendwm ym 1967, a gwrthodon nhw rannu sofraniaeth rhwng y ddwy wlad mewn refferendwm arall yn 2002.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.