pentref yn Sir y Fflint From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yng nghymuned Llanfynydd, Sir y Fflint, Cymru, yw Ffrith[1][2] ( ynganiad ). Saif yn ne'r sir, ar Afon Cegidog, tua hanner ffordd rhwng Yr Wyddgrug i'r gogledd a Wrecsam i'r de. Y pentref agosaf yw Llanfynydd, filltir i'r gogledd, a cheir Brymbo ychydig o filltiroedd i'r de. Rhed ffordd y B5101 trwy'r pentref. Daeth maint ac arwyddocâd y pentref yn fwy oherwydd glofeydd a chwareli yn ystod y 19eg ganrif, ac adeiladwyd Rheilffordd Wrecsam a’r Mwynglawdd. Caewyd y rheilffordd ym 1952.[3]
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0901°N 3.0691°W |
Cod OS | SJ285553 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jack Sargeant (Llafur) |
AS/au y DU | Mark Tami (Llafur) |
Mynycha plant iau'r pentref Ysgol Gynradd Terrig, Treuddyn.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jack Sargeant (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Mark Tami (Llafur).[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.