From Wikipedia, the free encyclopedia
Ardal ym mhrifddinas Cymru, Caerdydd yw Cyncoed. Lleolir yng ngogledd-ddwyrain y ddinas, ac mae'n un a ardaloedd cyfoethocaf Caerdydd, a Chymru yn gyffredinol, gyda rhai o brisiau tai drystaf Cymru. Mae hefyd yn amgylchynu pentref Lakeside, lle mae stryd cyfoethocaf Caerdydd ac un o'r ysgolion mwyaf poblogaidd iw cael.
Adeiladwyd yr ardal yn ystod yr 20g yn bennaf, pan oedd Caerdydd yn ehangu'n sydyn. Mae'r tai yno yn gymysgedd o dai mawr ar wahân a thai ar led-wahân llai. Mae ystadau tai modern yn amgylchynnu'r ardal erbyn hyn, ac mae nifer o'r tai gwreiddiol wedi cael eu dychwel gyda sawl tŷ newydd llai yn cael eu adeiladu ar yr hen safle.
Mae gan yr ardal ganolfan siopa bychain, nifer o eglwysi, a synagog, oherywdd bod cymuned Iddewig gweddol fawr yng Nghyncoed, ac ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae hefyd yn gartref i un o gampysau Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a neuaddau annedd Prifysgol Caerdydd.
Mae ward etholaeth Cyncoed yn sefyll o fewn ffiniau etholaeth seneddol Canol Caerdydd. Mae'n cael ei ffinio gan Llanisien i'r gogledd-orllewin; Llys-faen i'r gogledd; Pentwyn i'r dwyrain; Pen-y-lan a Phlasnewydd i'r de; a'r Mynydd Bychan i'r gorllewin.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Cyncoed (pob oed) (11,148) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cyncoed) (1,324) | 12.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cyncoed) (7089) | 63.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Cyncoed) (1,557) | 36.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.