From Wikipedia, the free encyclopedia
Dechreuodd yr hyn a elwir gan rai y Chwyldro Jasmin neu Intifada Tiwnisia (intifada: "gwrthryfel neu chwyldro poblogaidd") neu Gwrthryfel Sidi Bouzid ar 17 Rhagfyr 2010 yn ninas Sidi Bouzid yng nghanolbarth Tiwnisia pan losgodd dyn ifanc ei hun i farwolaeth gan gychwyn cyfres o brotestiadau gan y werin. Erbyn dechrau Ionawr 2011 roedd y gwrthdystiadau yn erbyn llywodraeth yr Arlywydd Zine el-Abidine Ben Ali wedi ymledu i sawl rhan o'r wlad, yn cynnwys y brifddinas Tiwnis. Saethwyd nifer o brotestwyr gan yr heddlu (rhwng 78 a 165 o bobl gan dibynnu ar y ffynhonnell). Gwrthryfel werin dros gyfiawnder cymdeithasol, democratiaeth a hawliau dynol yw'r "Chwyldro Jasmin". Ar 14 Ionawr 2011 gorfodwyd yr arlywydd unbenaethol Zine Ben Ali i adael y wlad ac roedd y Fyddin ar y strydoedd i gadw trefn, gweithred a groesawyd gan y mwyafrif a gredai byddai'r milwyr yn eu hamddiffyn rhag yr elfennau treisgar yn yr heddlu. Ar 17 Ionawr cyhoeddwyd llywodraeth undeb cenedlaethol i baratoi at etholiad rhydd i'w gynnal cyn diwedd Mawrth. Ond roedd llawer o bobl yn anfodlon iawn am fod y llywodraeth newydd yn cynnwys sawl aelod o'r hen sefydliad ac aelodau o'r RCD, plaid Ben Ali, yn cynnwys y cyn brif weinidog Mohamed Ghannouchi a pharhaodd y protestiadau. Ar hyn o bryd mae'r sefyllfa'n ansefydlog o hyd gyda'r Fyddin yn chwarae rhan amlwg a chyrffiw nos yn weithredol.[1]
Enghraifft o'r canlynol | civil resistance |
---|---|
Dyddiad | 24 Rhagfyr 2010 |
Lladdwyd | 338 |
Rhan o | Y Gwanwyn Arabaidd |
Dechreuwyd | 18 Rhagfyr 2010 |
Daeth i ben | 14 Ionawr 2011 |
Lleoliad | Tiwnisia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daeth Zine el-Abidine Ben Ali i rym ar 7 Tachwedd 1987 pan olynodd Habib Bourguiba, Arlywydd cyntaf Tiwnisia ac arwr y rhyfel dros annibyniaeth, fel Arlywydd Tiwnisia. Cyn hynny, cafodd sawl swydd ym myddin Tiwnisia a'r gwasanaethau diogelwch cyn dod yn weinidog yn Swyddfa Cartref y wlad, yn llywodraeth y prif weinidog Rachid Sfar, ac yna daeth yn brif weinidog ei hun. Ben Ali oedd yn gyfrifol am orfodi Habib Bourguiba i "ymddeol am resymau meddygol." Coup menyg melfed oedd hyn ym marn rhai. Y tu allan i'r wlad a rhai cylchoedd diplomyddol (e.e. yr Unol Daleithiau) y farn gyffredinol yw bod Ben Ali yn unben[2], gan fod y régime Tiwnisaidd yn unbleidiol i bob pwrpas[3] sy'n cyfyngu rhyddid mynegiant[4].
Ers blynyddoedd mae'r sefyllfa economaidd yn Nhiwnisia wedi gwaethygu ac mae diffyg gwaith a chyfleuon wedi creu tensiynau ac anghydfod. Yn ogystal, mae'r galwadau am ryddid gwleidyddol wedi cynyddu. Cadarnheuwyd y cyhuddiadau o lwgrwobrwyaeth a "dwyn cyfoeth y wlad" a leisir yn erbyn Ben Ali, ei wraig Leïla, eu teulu estynedig ac eraill cysylltiedig â nhw gan adroddiadau cyfrinachol gan ddiplomyddion Americanaidd a geir yn y ceblau "Cablegate" y dechreuodd WikiLeaks eu rhyddhau yn Rhagfyr 2010. Gwaharddwyd WikiLeaks a phapurau tramor sy'n cynnwys y datgeliadau ond er gwaethaf hynny ymledodd y newyddion yn Nhiwnisia a chredir bod hyn yn ffactor arall yn yr intifada. Galwodd un cebl lwgrwobwryaeth yn "cancer that is spreading spurred on by the corrupt practices of President Ben Ali and his extended family," gyda chebl arall yn dweud fod y broblem ar ei gwaethaf yn rhengoedd uchaf y llywodraeth.[5]
Ar 18 Rhagfyr 2010, cafwyd protestiadau mawr yn ninas Sidi Bouzid, prifddinas y dalaith o'r un enw, ar ôl i Mohamed Bouazizi, ddyn ifanc gyda gradd prifysgol a geisiai ennill ei fywiolaeth drwy werthu llysiau o gert llaw, roi ei hun ar dân yn y stryd ar ôl i'r heddlu ei atal a chymryd ei gert i ffwrdd am nad oedd ganddo drwydded swyddogol.[6] Mae Sidi Bouzid, fel llawer o leoedd yn Nhiwnisia, yn dioddef lefel diweithdra uchel, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, yn cynnwys nifer gyda chymwysterau coleg a phrifysgol. Ymledodd yr anghydfod i dref fechan Menzel Bouzayane, 60 km i'r de o Sidi Bouzid, lle cafwyd gwrthdaro ar raddfa eang rhwng protestwyr a'r heddlu a'r lluoedd diogelwch. Lladdwyd un o'r protestwyr.[7]
Erbyn diwedd Rhagfyr 2010 roedd y gwrthdystio wedi ymledu i rannau eraill o Diwnisia, yn cynnwys Tiwnis, Sfax, El Kef a sawl dinas a thref arall, ac roedd grwpiau ac unigolion sy'n gwrthwynebu llywodraeth Zine Ben Ali yn cyfeirio at y digwyddiadau hyn fel "intifada" yn erbyn y llywodraeth yn enw democratiaeth, gwaith a hawliau dynol.[8]
Ar 24 Rhagfyr, saethwyd y protestwr Mohamed Ammari yn farw yn Bouziane, un o faesdrefi Tiwnis. Cafodd eraill eu hanafu, yn cynnwys Chawki Belhoussine El Hadri, a fu farw o'i anafiadau ar 30 Rhagfyr.[9]
Mewn darllediad teledu arlywyddol a ddarlledwyd ar 28 Rhagfyr, rhybuddiodd yr Arlywydd Zine Ben Ali y byddai protestiadau pellach yn cael eu "cosbi'n llym".[10] Ar yr un diwrnod, adroddwyd fod 300 o gyfreithwyr wedi cynnal protest heddychlon yn Nhiwnis; arestwyd dau o'r cyfreithwyr ar ôl i'r protest gael ei dorri i fyny, yn cynnwys Me Abderraouf Ayadi, llywydd y Parti du congrès pour la république; digwyddodd hynny tu allan i gartref Ayadi.[11] Cafwyd adroddiadau am yr awdurdodau yn rhwystro protest gan undebau llafur yn Gafsa, de canolbarth Tiwnisia. Yn Nhiwnis roedd rhai protestwyr yn galw ar Ben Ali i adael y wlad.[10]
Ar 30 Rhagfyr, torrwyd protest i fyny gan yr heddlu ym Monastir, heb helynt, ond defnyddiwyd grym i dorri i fyny protestiadau yn Sbikha a Chebba. Bu protest sylweddol yn Nhiwnis hefyd.[12] Cafwyd protestiadau eto ar 31 Rhagfyr ac yn Nhiwnis a dinasoedd eraill cynhaliodd cyfreithwyr brotestiadau yn dilyn galwad gan y Conseil national de l'Ordre des avocats de Tunisie (Ffederasiwn Genedlaethol Cyfreithwyr Tiwnisia). Adroddodd Mokhtar Trifi, llywydd Cynghrair Hawliau Dynol Tiwnisia, fod cyfreithwyr ar draws y wlad wedi cael "cweir ffyrnig" gan yr heddlu.[9] Datgelwyd yn ddiweddarach fod cyfreithwyr yn Nhiwnis, Grombalia, Sousse, Monastir, Mahdia, Gafsa a Jendouba wedi cael "eu hymlid, eu taro a'u sarhau" gan yr heddlu; torwyd trwyn un cyfreithiwr a chafodd un arall "anaf difrifol i'w llygad".[13]
Ymhlith y protestiadau ar 01 neu 02 Ionawr bu rhai yn Gabes[14] a Zarzis[15] a Sousse; defnyddiodd yr heddlu nwy dagrau a thrais yn erbyn y protestwyr yn Sousse a bu anafiadau.[16] Erbyn 3 Ionawr roedd adroddiadau am brotestiadau tramor i gefnogi protestwyr Tiwnisia yn Amman (Gwlad Iorddonen), Beirut (Libanus)a dinasoedd eraill yn y byd Arabaidd. Roedd pobl yn sôn fod "diwedd teyrnasiad Ben Ali yn dod" a disgrifwyd yr intifada fel "a true grass-roots uprising that cuts across class and regional lines" yn y cylchgrawn Foreign Policy.[17]
Cafwyd galwad am streic cyffredinol i ddechrau ar 3 Ionawr, 18fed diwrnod y protesiadau, y diwrnod yr oedd myfyrwyr yn dychwelyd i ysgolion a cholegau.[18] Bu myfyrwyr yn protestio mewn ysgolion uwchradd mewn sawl tref, yn cynnwys cannoedd o bobl ifanc yng Ngholeg Addysg Uwch Grombalia (lycée de Grombalia), rhwng Tiwnis a Nabeul; trôdd y protest yn derfysg a thorrwyd nifer o ffenestri gan y myfyrwyr oedd yn gwaeddu sloganau yn erbyn y llywodraeth.[19] Yn diweddarach yn y dydd cafwyd adroddiadau am wrthdaro ar y strydoedd yn Kasserine, Thala[20], Sfax ac Oum El Araies (Moularès); adroddwyd fod yr heddlu yn defnyddio nwy yn erbyn myfyrwyr yn protestio yn Thala i dorri i fyny'r protest heddychlon. Ond cafwyd protest heb helynt yn Sidi Bouzid, man cychwyn yr intifada.[21]
Hefyd ar 3 Ionawr, cafwyd cadarnhad bod ffederasiwn cyfreithwyr Tiwnisia am gynnal streic ar 6 Ionawr a fyddai'n effeithio ar bob llys barn yn y wlad. Dynodwyd 6 Ionawr yn Ddiwrnod Cefnogaeth Ryngwladol hefyd (gweler isod).[22]
Ar 5 Ionawr cafwyd adroddiadau o Thala bod y lluoedd diogelwch yn torri i mewn i gartrefi nifer o bobl ac yn eu harestio. Roedd protestwyr wedi rhoi ar dân swyddfa'r blaid lywodraethol, pencadlys y llywodraeth leol, yr orsaf heddlu a sawl car heddlu. Roedd yr helynt wedi dechrau ar 03 Ionawr. Parhaodd dros nos. Arestiwyd sawl undebwr llafur a'u cymryd i bencaldys yr heddlu cudd yn Nhiwnis; adroddwyd eu bod yn cael eu harteithio yno. Ar 4 Ionawr roedd nifer o heddweision eraill wedi cyrraedd Thala o Sousse a Mahdia. Torrwyd cyflenwad trydan y dref, efallai am fod y protestiadau'n digwydd gyda'r nos yn bennaf.[23][24] Adroddwyd fod y fyddin ar y strydoedd yn Thala a bod dau brotestwyr wedi'u lladd.[25]
Hefyd ar 5 Ionawr, adroddwyd fod yr heddlu yn ymosod ar Adran y Dynoliaethau, Prifysgol Sousse i geisio atal protest gan y myfyrwyr yno. Bu protest gan gyfreithwyr ac undebwyr llafur yn Sfax.[25] Adroddwyd am brotestiadau gan fwyngloddwyr yn Redeyef, ger Gafsa, a bu protestio yn Kebili hefyd.[25] Yn Ariana, un o faesdrefi Tiwnis, rhoddodd dyn ifanc diwaith ei hun ar dân yn y stryd mewn protest (hunanlosgiad Mohamed Bouazizi a sbardunodd brotestiadau Sidi Bouzid, man cychwyn y protestiadau). Ar yr un diwrnod, postwyd fideo o gynhebrwng Mohamed Bouazizi (5 Ionawr) gyda channoedd o bobl mewn ceir, tryciau a bysus yn dilyn cerbyd yr arch gan waeddi sloganau.[26] Bu protest yn Ben Arous, un o faesdrefi Tiwnis, a drefnwyd gan undebau llafur.[27] Bu protest mawr yn Kasserine.[28]
Am 0630 y bore ar 06 Ionawr arestiwyd y blogger adnabyddus "Hamadi Kaloutcha" (ffugenw), sy'n weithgar ar Facebook yn bennaf, gan heddlu mewn dillad sifil. Daeth hanner dwsin o'r heddlu i gartref y blogiwr. Ni ddangoswyd warant. Cipwyd "Kaloutcha" a chymerwyd ei gyfrifiadur. Ymddengys fod hyn yn deillio o hacio cyfrifon Facebook gan yr awdurdodau (gweler isod).[29] Adroddwyd hefyd fod y rapiwr adnabyddus "El General", sydd wedi postio rapiau protest ar y we, wedi cael ei arestio gan yr heddlu cudd.[29] Ar Twitter roedd sôn am ymgyrchwyr rhyngrwyd eraill a oedd wedi'u harestio neu wedi "diflannu", y rhan fwyaf ohonynt yn weithgar ar Facebook, gyda pobl yn apelio am wybodaeth amdanynt. Cafwyd cadarnhad fod Slim Amamou ("Slim404"), un o flogwyr mwyaf adnabyddus Tiwnisia, wedi cael ei arestio am 1330. Roedd eisoes wedi rhybuddio bod yr heddlu cudd yn gwylio ei gartref. Trwy ddilyn ei alwad ffôn olaf, darganfuwyd iddo wneud hynny yn adeilad y Ministère de l'intérieur ar Avenue Habib Bourguiba, Tiwnis.[30]
Cafwyd streic cyffredinol cenedlaethol gan gyfreithwyr Tiwnisia dros hawliau dynol ac yn erbyn "trais yr awdurdodau", gyda "rhai miloedd", sef tua 95% o gyfreithwyr Tiwnisia, wedi cymryd rhan a draws y wlad.[13] Yn Nhiwnis, llafarganodd rhai cannoedd o gyfreithwyr yn gwisgo eu gwisgoedd llys ffurfiol sloganau yn galw am ryddid mewn protest yn y Palais de Justice. Roedd nifer o heddlu yn eu gwylio ond ni fu helynt.[13][31] Bu gwrthdaro rhwng protestwyr a'r heddlu ym Mhrifysgol Sousse eto, gyda'r heddlu'n defnyddio nwy dagrau.[32]
Cafwyd adroddiadau am brotestiadau gan filoedd o fyfyrwyr mewn sawl coleg addysg uwch. Bu protest mawr yng ngholeg (lycée) Haffouz ger Kairouan.[33] Bu cannoedd yn protestio yng Ngholeg Tala Hussein ym Megrine, Tiwnis.[34] Cafwyd protestiadau eraill mewn colegau yn Kelibia[35] ac yn Sfax.[36] Cynhaliwyd rali mawr yn ninas Sousse.[37]
Ar wefan Al-Nawaat adroddwyd fod "ffynhonnell ddibynadwy" yn dweud bod pennaeth byddin Tiwnisia, Rachid Ammar, wedi rhoi gorchymyn i'w swyddogion "i beidio cymryd rhan yng ngormes yr heddlu". Cafwyd adroddiadau answyddogol gan flogwyr ac eraill am wrthdaro ffyrnig yn Kasserine gyda'r heddlu'n colli rheolaeth ac yn rhedeg yn brin o nwy dagrau a bwledi rwber. Disgrifwyd y sefyllfa ym Maktar (talaith Siliana) fel "gwrthryfel agored" a bod adeiladau'r llywodraeth ar dân.
Bu rali a gwrthdystiad a drefnwyd gan gyngres yr undeb llafur (UGGT) yn Sgwar Muhammad Ali, Tiwnis.[38]
Cafwyd adroddiadau am brotestiadau a gwrthdaro yn sawl rhan o ganolbarth Tiwnisia. Yn Kasserine, parhaodd y gwrthdaro dros nos. Cyn y wawr, llosgwyd adeiladau'n perthyn i'r llywodraeth gan brotestwyr yn chwifio baner Tiwnisia.[39] Yn Haidra, ymosododd dorf ar bencadlys yr heddlu. Daeth adroddiadau fod y fyddin yn symud i mewn a bod cyrffiw wedi'i osod. Gosododd y Fyddin rwystrau weiren bigog o gwmpas y dref. Gyda'r nos cafwyd adroddiadau fod y Fyddin a'r heddlu yn saethu at brotestwyr. Yn ddiweddarach adroddwyd fod Byddin Tiwnisia wedi symud i mewn i ran sylweddol o ganolbarth Tiwnisia a dywedwyd bod milwyr arfog a cherbydau milwrol i'w gweld ar y strydoedd yn Thala, Siliana, Makthar, Hafouz a Sidi Bouzid, yn ogystal â Kasserine. Saethwyd protestwyr yn Thala a bu farw o leiaf un person. Saethwyd bachgen 13 oed yn Fériana, talaith Kasserine, a bu farw o'i anaf.
Parhaodd helyntion dros nos mewn sawl tref a dinas yn y canolbarth. Roedd y darlun yn aneglur. Mewn adroddiad gan AFP lladdwyd o leiaf 20 o bobl (08-09 Ionawr) ac roedd disgwyl i'r ffigwr gynyddu gan fod "nifer fawr o bobl gydag anafiadau difrifol."[40] Dywedodd ffynhonnell yn yr undebau llafur fod 35 o bobl wedi'u lladd yn Thala, Kasserine a Regueb.[40] Cyhoeddodd un o arweinwyr y Parti Démocratique Progressiste (yr wrthblaid swyddogol), Ahmed Nejib Chebbi, fod o leiaf 20 wedi'u saethu'n farw ers dydd Sadwrn 08 Ionawr yn Kasserine a Thala a galwodd ar yr arlywydd Ben Ali i orchymyn "cadoediad ar unwaith". Ychwanegodd "Maen nhw wedi saethu at orymdeithau cynhebrwng (y rhai a laddwyd yn Kasserine a Thala)".[40] Ar sianel deledu France 24 adroddwyd fod hyd at 35 o bobl wedi'u lladd gan yr heddlu. Cydnabyddodd llywodraeth Tiwnisia fod 8 wedi marw.
Yn ystod y pnawn cafwyd adroddiadau answyddogol am "wrthdaro ffyrnig" rhwng protestwyr a'r heddlu yn Hafouz, Siliana, Thala, Kasserine, Goubeli, Makthar, Oum El Araies, Jebiniana, a Sidi Bouzid. Adroddwyd fod yr heddlu yn saethu ar brotestwyr yn Sousse, ail ddinas Tiwnisia, a bod un wedi'i ladd. Cynyddodd nifer y lladdedig a'r anafiedig yn ystod y prynhawn. Cafwyd adroddiad gan ffynhonnell sy'n gwrthwynebu Ben Ali fod dros 50 o bobl wedi'u lladd dros y penwythnos, yn bendodol yn Thala (16), Kasserine (22), Meknassi (2), Fériana (1) a Regueb (8), yn yr hyn a alwyd yn "gyflafanau" gan yr heddlu ac unedau diogelwch arbennig.[41][42]
Bu rhagor o wrthdaro gyda'r nos. Roedd saethu yn Kasserine, Tala a Sbeitla yn nhalaith Kasserin. Dywedwyd fod "pobl Kasserine yn ofni cyflafan". Cafwyd adroddiadau answyddogol bod ymladd "mor ddrwg ag yn Kasserine" yn digwydd yn ninas El Kef, cryn dipyn i'r gogledd o ganolbwynt yr helyntion. Llosgwyd coleg, archfarchnad Monoprix a siop. Bu saethu. Bu protestio a gwrthdaro yn Jendouba hefyd.
Bu protest mawr ond heb helynt yn Sfax[43] a rali a drefnwyd gan yr undebau llafur yn Nhiwnis.[44]
Yn Siliana, adroddwyd bod y milwyr wedi rhybuddio'r heddlu i beidio saethu protestwyt. Diswyddwyd y Cadfridog Ammar, pennaeth Byddin Tiwnisia, gan yr arlywydd Ben Ali "am wrthod gorchymyn i'w filwyr saethu ar brotestwyr". Cafodd pennaeth y gwasanaeth gwybodaeth filwrol ei benodi yn ei le.
Cafwyd adroddiadau yn ystod y dydd am brotestiadau a gwrthdaro yn Nhiwnis, Sousse, Hafouz, Regueb, Monastir, Hergla, Meknassi, Jendouba, El Kef, Thala, Kasserine, Sfax, Bizerte a lleoedd eraill, sef bron y cyfan o ganolbarth a gogledd Tiwnisia. Rhoddwyd gorchymyn i bob ysgol, coleg a phrifysgol gau am gyfnod amhenodol ac i bob caffi yn Nhiwnis gau ar ôl 2200, a hynny tan ddydd Gwener.[45] Dywedodd yr Undeb Ewropeaidd ei bod yn "gresynu'r drais".[45] Mewn darllediad teledu dywedodd yr arlywydd Zine Ben Ali ei fod am roi arian tuag at greu gwaith ond rhybuddiodd "ni fydd trais yn cael ei ddioddef" a galwodd y protestwyr yn "derfysgwyr".[45] Cafwyd fideo o un ddinas o brotestwyr yn llosgi poster anferth o Ben Ali yn y stryd. Cyhoddwyd galwadau yn erfyn ar y gymuned ryngwladol i ymyrryd ac i rewi cyfrifon banc tramor Ben Ali a'i deulu estynedig.
Ymledodd y protestiadau a'r gwrthdaro i ran helaeth gogledd-orllewin Tiwnisia. Yn oriau mân y bore bu gwrthdaro sylweddol yn Jendouba ac El Kef. Lladdwyd tri yn Jendouba rhwng yr hwyr 09 Ionawr a'r bore. Erbyn y prynhawn roedd adroddiadau answyddogol yn dweud bod "nifer o danau'n llosgi yn y ddinas a bod y protestwyr wedi gorfodi'r heddlu i gilio." Ychydig cyn hanner nos cafwyd adroddiad answyddogol am "ddigwyddiadau gwaedlyd" yn Jendouba gyda "nifer fawr" o adeiladau swyddogol yn llosgi a "llawer o fwledi". Yn Bizerte bu pobl ifanc a myfyrwyr yn protestion a rhoddwyd ceir yr heddlu ar dân.[46] Yn ninas fechan Tabarka, yn y gogledd eithaf, bu gwrthdystio ar y stryd gan nifer o bobl, yn cynnwys plant ysgol uwchradd.
Cafwyd sawl protest yn y brifddinas Twinis gyda miloedd o fyfyrwyr ac eraill yn cymryd rhan. Adroddwyd fod nwy dagrau'n cael ei ddefnyddio, e.e. yn erbyn myfyrywr Prifysgol Mansa, Tiwnis, lle saethwyd bomiau nwy dagrau i mewn i stafellodd llaw o fyfyrwyr yn cynnal protest heddychlon. Cafwyd gwrthdaro eang yn Kebili. Bu miloedd o fyfyrwyr ysgol ac eraill yn protestio yn Nabeul a'r cylch. Bu protest arall gan fyfyrwyr yn Zaghouan a rwystrwyd gan yr heddlu.
Adroddwyd fod y sefyllfa yn Kasserine, Thala a Haffouz "yn ddramatig". Gwnaeth ysbyty Kasserine apêl genedlaethol am waed i drin "y nifer fawr o bobl a anafwyd"; yn ôl rhai adroddiadau roedd dros 35 o gyrff yno. Yn Thala dywedodd cyfreithwraig ifanc ei bod "wedi cyfrif cyrff 11 o bobl; disgrifiodd y sefyllfa yn y ddinas "fel uffern".[47] Yn Regueb dywedwyd fod y Fyddin yn amddiffyn y protestwyr o ymosodiadau gan yr heddlu. Cafwyd adroddiadau answyddogol bod y Fyddin "yn cicio'r heddlu allan o Kasserine". Ond roedd adroddiad arall yn dweud bod cyfreithwyr lleol dan warchae gan yr heddlu yn y llys, bod "mwg dros y ddinas gyfan" a bod yr heddlu "yn saethu at bawb". Bu protest mawr yn Gafsa yn y prynhawn a gyda'r nos adroddwyd fod "gwrthdaro gwaedlyd" yno. Yn Sousse bu gwrthdaro eto yn ardaloedd Er-Riadh ac ardal y brifysgol[48] a dywedywd bod dau westy ar dân: yn ôl un adroddiad answyddogol roedd milwyr wedi diosg eu hiwniformau ac wedi ymuno â'r protestwyr.
Cyhoeddodd yr UGTT, Cyngres Undebau Llafur Tiwnisia, streic cyffredinol i ddechrau cyn hir. Cafwyd adroddiadau fod cyrffiw yn dechrau yn Nhiwnis o 1900 ymlaen. Yng nghanol Tiwnis, torrwyd i fyny protest heddychlon gan rai cannoedd o artistiaid, cynhyrchwyr ac actorion blaenllaw yn dreisgar gan yr heddlu.[49]
Parhaodd y protestiadau ar draws y wlad, yn cynnwys sawl rhan o Diwnis (Ariana, Cité Zitoun, Manouba, maesdref Ibn khaldoun, Mohamedia, Bab Jedid), Béja, Sousse, Sfax, Jendouba, Bizerte, Gafsa a Tajerouine. Cadarnheuwyd fod dros 50 o bobl wedi'u lladd yn ninas Kasserine yn unig rhwng dydd Gwener a dydd Llun, gyda 19 wedi'u lladd ar ddydd Llun.[50][51] Cafwyd adroddiadau am saethwyr yr heddlu yn tanio ar bobl o doau, bod nwy a phetrol yn rhedeg allan, a'r ffyrdd o gwmpas y ddinas wedi'u cau. Adroddwyd bod yr heddlu wedi lladd dyn a gwraig henoed mewn cynhebrwng. Yn Gafsa roedd nifer o rwystrau dros y ffyrdd a osodwyd gan y lluoedd diogelwch, gorsaf heddlu wedi cael ei llosgi, gwrthdaro ffyrnig yn ardaloedd Gsar a Haynour, a'r maes awyr wedi'i gau. Yn Nhiwnis roedd yr awyrgylch yn llawn tyndra. Ymosododd yr heddlu "yn ffyrnig" ar sawl protest yn cynnwys un heddychlon gan artistiaid yng nghanol y ddinas ac un arall gan gyfreithwyr.[52] Yn Sousse bu gwrthdaro rhwng yr heddlu a phrotestwyr gydag adroddiadau am losgi gorsaf heddlu yn ardal Bir Chobbek ac am saethu ac anafiadau yn ardal Er-Riadh. Adroddwyd y bu protestiadau mawr yn Nabeul.
Gyda'r nos cafwyd yr adroddiadau cyntaf bod milwyr a cherbydau milwrol i'w gweld ym maesdrefi Tiwnis. Cyhoeddwyd cyrffiw yn y ddinas gan yr heddlu a glywyd yn gorchymyn hynny trwy seinyddion yn y strydoedd, e.e. yn Manouba. Yn y cyfamser bu gwrthdaro rhwng protestwyr a'r heddlu yn y maesdrefi, e.e. yn ardaloedd Bardo, Ettadhamen, El Manar ac El Omran. Ymddengys fod 12 neu ragor wedi'u lladd yn yr helyntion hynny. Erbyn oriau mân y bore roedd y Fyddin i'w gweld yng nghanol Tiwnis.
Cafodd dinas Tiwnis noson o ansicrwydd a thensiynau mawr. Cylchredai sibrydion fod coup milwrol yn digwydd neu wedi digwydd yn barod. Daeth y newyddion fod aelodau o deulu Zine Ben Ali, yn cynnwys merch Ben Ali a Sakhr el Materi, wedi hedfan i Montreal, Canada, lle mae ganddynt eiddo. Roedd hyn yn tueddu i gadarnhau'r sibrydion am coup a chredodd lawer fod dyddiau régime Ben Ali ar ben. Ond nid felly y bu. Roedd disgwyl am gyhoeddiad swyddogol gan y Fyddin ar y teledu a'r radio ond soniodd newyddion y bore (0600) am yr arlywydd fel arfer, fel pe bai dim byd wedi digwydd.
Cafwyd adroddiadau am brotestiadau a gwrthdaro mewn sawl dinas a thref yn ystod y dydd, yn cynnwys Tiwnis a'i maesdrefi, Béja[53], Sousse, Hammamet Nabeul a phenrhyn Cap Bon, Gabes a Douz. Cyrhaeddodd y protestiadau yn Tunus ganol y ddinas lle saethwyd nwy dagrau at gannoedd o brotestwyr yn y Place de France, o flaen y medina.[54] Adroddwyd "prynu mewn panig" yn y siopau mawr gyda stociau o fwyd cyffredin yn isel a llawer o siopau eraill wedi cau. Roedd llawer o filwyr ar y strydoedd ond roedd y gwrthdaro rhwng yr heddlu a'r protestwyr.[55] Yn Hammamet bu gwrthdaro: llosgwyd gorsaf yr heddlu, lladdwyd tri person yn cynnwys merch ac anafwyd nifer.[56] Cafwyd gwrthdaro mawr yn Nabeul hefyd. Yn Douz yn y De, saethwyd 4 neu 5 o brotestwyr heddychlon gan snipers yr heddlu; roedd y lladdedgion yn cynnwys Hatem Ben Taher, athro coleg adnabyddus o'r ddinas.[57] Roedd protestio yn Gabes hefyd gyda'r heddlu yn saethu nwy dagrau. Yn Sfax saethwyd bachgen 14 oed yn farw gan yr heddlu mewn protest swnllyd ond heddychlon.[58] Symudodd y Fyddin i mewn i Sousse ar ddiwrnod o wrthdaro a gydag adroddiadau fod grwpiau o gefnogwyr plaid Ben Ali yn creu trefysg er mwyn pardduo'r gwrthwynebiad a'r heddlu heb ymyrryd. Cafwyd tystiolaeth bod pethau tebyg yn digwydd mewn dinasoedd eraill hefyd.
Gyda'r nos daeth y cyrffiw mewn grym yn Nhiwnis, Sousse a rhai dinasoedd eraill. Cafwyd gwrthdaro ffyrnig yn y strydoedd ar draws Tiwnis a'i maesdrefi a barodd dros nos i oriau mân y bore. Bu ymladd ar y stryd, saethu a therfysg yn Bizerte. Roedd adroddiadau am brotestio a gwrthdaro gyda'r nos yn sawl dinas arall hefyd. Erbyn diwedd y dydd, amcangyfrifwyd bod 14 o brotestwyr wedi cael eu lladd gan yr heddlu. Cafwyd sawl adroddiad yn dweud bod yr heddlu yn ildio i'r protestwyr yn Kasserine a Jebiniana neu wedi cilio.[59][60]
Yn Nhiwnis] a'r cylch a sawl man arall parhaodd y gwrthdaro ar y strydoedd tan oriau mân y bore. Defnyddiwyd nwy dagrau a bwledi go iawn gan yr heddlu. Defnyddiodd yr heddlu bwledi a nwy dagrau yn erbyn protestwyr yn yr ardaloedd canlynol o Diwnis Fawr: La Marsa, Kram (yn agos i'r palas arlywyddol ger Carthage), Ariana, Manouba, Aouina (ger y maes awyr), Cité des Palmeraies, Mallacine; Cité Ibn Khaldoun, Omrane Supérieur, Ettdahame ac Ettahrir. Cafwyd nifer o tweets a negeseuon Facebook gan lygad-dystion yn adrodd am danau, mwg a sŵn saethu. Yn oriau mân y bore adroddwyd fod Maes Awyr Tiwnis-Carthage wedi'i gau i awyrennau sifil a chanslwyd sawl ffleit rhyngwladol. Yn ôl un ffynhonnell, roedd tri hofrenydd 17 sedd dan reolaeth cadfridog sy'n deyrngar i Ben Ali yn barod i'w defnyddio ar fyrdro gan yr arlywydd i ddianc i Malta pe bai'n rhaid.[61]
Adroddwyd bod "panig" yn nhalaith Ben Arous, ar gwr Tiwnis, ar ôl i'r llywodraethwr orchymyn i ffatrioedd a banciau gau erbyn 1400. Bu nifer o brotestiadau yn ystod y prynhawn a gyda'r nos. Adroddwyd fod grwpiau o gefnogwyr yr RCP, plaid lywodraethol Tiwnisia, gyda grwpiau o bobl a dalwyd ganddynt, yn ymosod ar eiddo a siopau mewn sawl dinas. Am 2000 amser lleol, darlledwyd araith gan yr arlywydd Zine Ben Ali ar TV7, sianel deledu swyddogol Tiwnisia. Dywedodd ei fod yn diswyddo'r llwyodraeth gyfan a rhoddodd y bai am y trais ar eraill gan honni na wybodd amdano. Gaddodd ryddid y wasg a'r rhyngrwyd. Cyhoeddodd na fyddai'n sefyll am yr arlywyddiaeth yn etholiad 2014. Bu dathlu mawr gan gefnogwyr yr arlywydd a'r RCP ond dywedodd arweinwyr y protestiadau nad oedd hynny'n ddigon a bod rhaid i Ben Ali fynd. Cadarnhaodd yr UGTT, cynghrair undebau llafur y wlad, y byddai protest mawr yn Nhiwnis a streic cyffredinol yn dal i ddigwydd ar ddydd Gwener. Dros nos bu rhagor o drais a gwrthdaro mewn sawl dinas.
Bu Dydd Gwener 14 Ionawr yn ddiwrnod hanesyddol. Cynhaliwyd y streic cyffredinol gan yr UGTT a daeth miloedd lawer o bobl i brotestio mewn rali y tu allan i bencadlys y Weinidogaeth Gartref ar Avenue Habib Bourguiba yng nghanol Tiwnis.[62] Ar ôl rhai oriau o wrthdystio swnllyd ond heddychlon ymosododd yr heddlu ar y dorf gyda nwy dagrau a batonau a thorwyd y brotest i fynny. Ymledodd y gwrthdaro trwy strydoedd canol Tiwnis gyda'r heddlu yn ymosod ar brotestwyr yn ffyrnig. Yng nghanol yr anhrefn, cyhoeddwyd gyflwr argyfwng cenedlaethol gan yr awdurdodau. Ar ddiwedd y pnawn ymddangosodd y prif weinidog Mohamed Ghannouchi ar TV7. Cyhoeddodd "nad oedd Ben Ali yn alluog i gyflawni ei ddyletswyddau fel arlywydd" a dywedodd ei fod yn cymryd drosodd yn ei le hyd nes y byddai'n bosibl i gynnal etholiad. Disgrifwyd hyn fel 'coup palas' gan sawl sylwebwr ar y cyfryngau. Roedd rhan y Fyddin yn y coup yn aneglur, ond roedd presenoldeb cymaint o filwyr yn y strydoedd a'r ffaith ei bod yn rheoli'r maes awyr a lleoedd strategol eraill yn awgrymu i rai sylwebwyr mai'r Fyddin oedd y gwir rym tu ôl i'r coup. Yn nes ymlaen adroddwyd fod Ben Ali, aelodau o'i deulu estynedig ac eraill, wedi gadael y wlad. Cafodd ei droi yn ôl o Baris ar ôl i Nicolas Sarkozy wrthod ei dderbyn a hedfanodd oddi yno i Cagliari lle cafodd yr awyren danwydd[63] i Jeddah yn Sawdi Arabia lle cafodd aros mewn un o balasau'r teulu brenhinol; beirniadwyd awdurdodau Saudi yn hallt am eu penderfyniad.[64] Deuddydd yn ddiweddarach, adroddwyd bod ei wraig Leila Ben Ali wedi cymryd 1.5 tonne o aur gyda hi pan adawodd Tiwnisia.[65]
Bu anhrefn ar draws Tiwnis gyda'r nos gydag adroddiadau am saethu, gwrthdaro a dwyn o sawl rhan o'r ddinas. Ymosodwyd ar adeiladau'r llywodraeth ac ar eiddo yn perthyn i "glan" Ben Ali. Aroddwyd bod nifer o gangau yn elwa ar y sefyllfa i dorri i mewn i dai a siopau a dwyn ac ysbeilio. Llosgwyd gorsaf reilffordd Tiwnis (Place Barcelone). Roedd y sefyllfa'n arbennig o ddrwg yn ardaloedd fel Carthage lle ceir nifer o dai drud. Am 2200 y nos darlledodd TV7 alwad ar y Fyddin i ymyrryd er mwyn amddiffyn trigolion yn Nhiwnis a lleoedd eraill. Gyda llawer o bobl Tiwnisia yn gweld Ghannouchi fel un o brif ffigyrau'r hen régime ac felly'n annerbyniol hyd yn oed fel arweinydd dros dro, galwodd arweinwyr y gwrthbleidiau ar y bobl i barhau gyda'r protestiadau. Cydnabu llywodraeth Ffrainc y lywodraeth newydd, i bob pwrpas, drwy ddweud bod yr hyn a ddigwyddodd yn "gyfansoddiadol".
Cafodd Tiwnisia gyfan ddau ddiwrnod o ansicrwydd ar y strydoedd. Roedd cyrffiw llym mewn lle dros nos ac roedd y sefyllfa'n arbennig o argyfyngus yn Nhiwnis gyda sawl adeilad ar dân, sŵn saethu a gangiau'n ysbeilio er bod y Fyddin ar y strydoedd. Cafwyd adroddiadau am ysbeilio ac anhrefn o Sousse, Hammam Sousse, Kairouan a Nabeul. Adroddwyd fod y Fyddin yn cadw trefn yn Jendouba ond bod difrod sylweddol yn y ddinas. Yn Bizerte a Monastir diangodd carcharorion o'r carchardai; yn Bizerte rhoddwyd y bai am hynny ar yr heddlu eu hunain a honwyd eu bod yn gadael i'r carcharorion ysbeilio a chreu anhrefn. Llosgwyd carchar Monastir a bu farw 42. O gwmpas Palas yr Arlywydd yn ardal Carthage, Tiwnis, bu brwydro am 48 awr bron rhwng y Fyddin ac aelodau lluoedd diogelwch Ben Ali oedd yn dal allan yno gan ei ddefnyddio fel pencadlys i greu terfysg yn y ddinas. Daeth yr ymladd i ben gyda'r nos ar 16 Ionawr pan gipwyd y palas ac arestwyd rhai cannoedd.[65] Adroddwyd bod tua 1,700 o aelodau milisia a heddlu arbennig teyrngar i Ben Ali a'i blaid, ynghyd â rhai o'r teulu estynedig, wedi'u harestio dros weddill y wlad.[65]
Cyhoeddodd yr arlywydd dros dro Mohamed Ghannouchi ei fod wedi trosglwyddo'r arweinyddiaeth dros dro i Fouad Mebazaa, Llefarydd Senedd Tiwnisia, a'i fod yn ffurfio llywodraeth glymblaid dros dro ar ôl trafodaethau gyda'r brif wrthblaid swyddogol, y Parti Démocratique Progressiste.[66] Digwyddodd hynny ar ôl i Fethi Abdennadher, arweinydd Llys Cyfansoddiadol y wlad, ddatgan fod Ben Ali wedi gadael am byth ac o dan Gyfansoddiad Tiwnisia doedd gan Ghannouchi ddim hawl i rym a byddai Mebazaa yn cael 60 diwrnod i drefnu etholiad.[67] Dywedodd Mebazaa ei fod am ffurfio llywodraeth undeb cenedlaethol er mwyn y wlad.[68][69]
Ar 17 Ionawr cyhoeddodd Ghannouchi fod llywodraeth undeb cenedlaethol wedi'i sefydlu gyda'r bwriad o reoli'r wlad hyd at yr etholiad disgwyliedig. Cadwyd pedair gweinidogaeth allweddol yn nwylo'r RCP, sef y gweinidogaethau mewnol, tramor, amddiffyn a chyllid, yn ogystal â Ghanouchi sy'n parhau fel prif weinidog, ffaith a ddigiodd rhai o gefnogwyr y chwyldro a ofnai fod yr hen régime yn parhau mewn rhith newydd.[70] Rhoddwyd lle i dri aelod o'r gwrthbleidiau swyddogol yn y cabinet. Roedd seddi i gynrychiolwyr yr UGTT (cynghrair undebau llafur) a chyrff sifil eraill hefyd. Cyhoeddodd Ghanouchi gyfres o ddiwygiadau yn cynnwys rhyddid sylweddol i'r cyfryngau a'r gwrthbleidiau gwleidyddol, yn cynnwys rhai o'r pleidiau alltud ond nid Plaid Gomiwnyddol Tiwnisia a'r blaid Islamiaeth Ennahdha sy'n aros dan waharddiad o hyd, a rhyddhau carcharorion gwleidyddol.[70] Codwyd gwaharddiadau ar sawl grwp a mudiad yn cynnwys prif fudiad hawliau dynol Tiwnisia. Un o'r apwyntiadau i'r cabinet oedd y blogwr ac actifydd Slim Amamou, a arestwyd gan Ben Ali ddechrau Ionawr, a apwyntwyd yn Weinidog Ieuenctid a Chwareuon.[70]
Ar 18 Ionawr ymddiswyddodd y tri aelod a oedd yn cynrychioli'r undebau llafur (UGTT) o'r llywodraeth a hynny am fod yr UGTT yn anfodlon ar safle pwerus y blaid RCP yn y llywodraeth newydd.[71] Yn ddiweddarach yn y dydd cyhoeddwyd bod Ghannouchi a'r arlywydd dros dro Fouad Mebazaa wedi gadael yr RCP.[71] Cafwyd protestiadau gan gefnogwyr y Chwyldro yng nghanol Tiwnis, a dorwyd i fyny'n dreisgar gan yr heddlu, ac yn Sfax a sawl dinas arall hefyd.[71] Gyda'r nos glaniodd y gwleidydd chwith-canol seciwlar Moncef Marzouki yn Nhiwnis ar ôl treulio blynyddoedd mewn alltudiaeth yn Ffrainc. Ym Maes Awyr Tiwnis-Carthage fe'i croesawyd gan gannoedd o gefnogwyr. Galwodd am undeb ac am ddulliau di-drais i barhau â'r Chwyldro Jasmin a galwodd hefyd ar Sawdi Arabia i anfon Ben Ali i Diwnis i sefyll prawf "am ei droseddau".[71]
Ar 19 Ionawr bu protestiadau yn erbyn y RCD yn Nhiwnis eto. Cyhoeddodd y llywodraeth dros dro fod "100 o bobl" wedi marw ers dechrau'r gwrthryfel ac y byddai ymchwiliad yn cael ei agor. Adroddwyd bod milwr wedi'i saethu gan sneipar. Dywedodd erlydwyr Tiwnisia eu bod am gynnal ymchwiliad i asedau Ben Ali a'i deulu estynedig, yn cynnwys cael manylion eu cyfrifon banc tramor. Ar 20 Ionawr, fel ymateb i'r protestiadau yn eu herbyn, dywedodd y RCD ei bod yn dileu pwyllgor canolog y blaid, sef ei chorff llywodraethol. Parhaodd y protestiadau gwrth-RCP er hynny gyda galwadau am gael gwared o bob aelod RCP yn y llywodraeth newydd; yn gynharach, saethodd milwyr dros bennau protestwyr i'w rhybuddio yn ystod protest tu allan i bencadlys y RCP yn Nhiwnis. Daeth tystiolaeth i'r amlwg yn dangos bod rhai gwefannau yn cael eu sensro unwaith eto, yn cynnwys fforwm trafod Al Jazeera.
Cafwyd tri diwrnod o alar cenedlaethol swyddogol dros y penwythnos 21-23 Ionawr. Yn ôl y llywodraeth dros dro, lladdwyd 78 o bobl yn y gwrthryfel ond yn ôl y CU collodd tua 100 eu bywydau ac mae rhai ffynonellau eraill yn sôn am tua 165 o farwolaethau. Cynhaliwyd ralïau er cof am y 'merthyron' hynny mewn sawl dinas, yn cynnwys Tiwnis. Ar 21 Ionawr cychwynodd gorymdaith brotest y "Carafan Rhyddid" o dref Menzel Bouzaiane yn nhalaith Sidi Bouzid, man cychwyn y 'Chwyldro Jasmin', i Diwnis. Cyrhaeddodd y protestwyr ar y Sul ac amgylchynasant swyddfeydd y prif weinigog Ghannouchi yn galw arno ef a phob aelod arall cysylltiedig â phlaid a llywodraeth Ben Ali i sefyll o'r neilltu. Arosodd y protestwyr yno yn eu miloedd gan herio'r cyrffiw nos.[72] Wrth iddynt gyrhaedd, cyhoeddodd y llywodraeth dro dro fod dau aelod amlwg o'r hen lywodraeth sef Abdelaziz Dhia (ymgynghorydd Ben Ali) ac Abdallah Qallal (cyn Weinidog Cartref) yn cael eu dal dan arest yn eu cartrefi. Arestwyd perchennog Hannibal TV am "gynllwyno i ddychwelyd Ben Ali" i reoli'r wlad ac am "hyrwyddo trais ac anhrefn" i'r perwyl hynny.
Parhaodd protestiadau yn erbyn presenoldeb pobl gysylltiedig â'r hen régime a'r blaid RCD yn y llywodraeth dros dro drwy'r wythnos 24-28 Ionawr. Yn y kasbah ar gwr medina Tiwnis arosodd rhai miloedd o brotestwyr y "Carafan Rhyddid" tu allan i swyddfeydd y llywodraeth. Yn Sfax ar ddydd Mercher 26 Ionawr bu hyd at 50,000 ar y stryd yn protestio yn erbyn yr RCD fel rhan o streic cyffredinol yn y ddinas. Bu streic cyffredinol yn Sidi Bouzid ar ddydd Iau 27 Ionawr.[73]
Ar 26 Ionawr dywedodd Lazhar Karoui Chebbi, Gweinidog Cyfiawnder Tiwnisia, fod Tiwnisia wedi cyhoeddi warant arest rhyngwladol, a'i roi i Interpol, yn galw am arestio Ben Ali, ei wraig Leïla ac aelodau eraill o'i deulu estynedig "am gael gafael ar eiddo cyhoeddus yn anghyfreithlon" ac "am drosglwyddo arian dramor yn anghyfreithlon". Cyhoeddwyd warant arall i arestio chwech aelod o'r cyn warchodlu arlywyddol, yn cynnwys ei phennaeth Ali Seriati, "am gynllwyno yn erbyn diogelwch y Wladwriaeth ac am annog trais arfog".[73]
Un o alwadau'r protestwyr oedd rhyddid gwybodaeth mewn gwlad a fu'n gweithredu polisi o sensoriaeth eang. Gwaethygodd y sensoriaeth swyddogol ar bob lefel yn ail hanner mis Rhagfyr 2010. Cafodd copiau o ddau o'r ychydig newyddiaduron sy'n feirniadol o'r llywodraeth ei rhwystro. Dechreuodd y llwyodraeth flocio nifer o wefannau, yn cynnwys tudlennau am y digwyddiadau yn Nhiwnisia ar Al-Jazeera, y BBC ac eraill. Erbyn dechrau Ionawr, roedd polisi o sensoriaeth dynn yn weithredol. Adroddwyd yng gwasg Algeria fod yr awdurdodau'n gwrthod gadael i newyddiadurwyr tramor ddod i mewn i'r wlad a bod rheolaeth "llym iawn" ar symudiadau newyddiadurwyr Tiwnisia o fewn y wlad ei hun.[25]
Ar 5 Ionawr, mewn llythyr agored at yr Arlywydd Zine Ben Ali, galwodd y Committee to Protect Journalists ar lywodraeth Tiwnisia i roi'r gorau i'w sensoriaeth o'r sefyllfa yn y wlad, i atal ei sensoriaeth o wefannau sy'n adrodd ar y protestiadau ac i sicrhau fod newyddiadurwyr yn medru gwneud eu gwaith yn ddirwystr.[74] Beirniadwyd yn hallt yr hacio o gyfrifon ebost a Facebook cefnogwyr y protestiadau, yn cynnwys gosod sgript java gan awdurdodau Tiwnisia ar wefannau fel Facebook i gasglu cyfeiriadau ebost a chyfrineiriau blogwyr, newyddiadurwyr annibynnol, actifwyr a phrotestwyr er mwyn hel gwybodaeth a hacio cyfrifon.[74] Un canlyniad o'r hacio anghyfreithlon hyn oedd dileu nifer o grwpiau, tudalennau, lluniau, adroddiadau a chyfrifon gan Diwnisiaid ar Facebook, yn cynnwys rhai yn perthyn i newyddiadurwyr Tiwnisaidd arlein.[75] Mae'r defnydd o'r rhyngrwyd o cybercafes yn cael ei fonitro ac mewn rhai llefydd mae rhaid i bobl ddangos eu cardiau adnabod (sy'n orfodol) er mwyn cael defnyddio'r caffis hynny. Yn ogystal, mae pob darn o wybodaeth a drosglwyddir dros y we, fel negeseuon ebost, yn mynd trwy wasanaethyddion rhyngrwyd canolog a reolir gan yr awdurdodau er mwyn atal newyddion a chasglu gwybodaeth.[76] Am 0630 y bore ar 06 Ionawr arestiwyd y rapiwr "El General" a'r blogger adnabyddus "Hamadi Kaloutcha" (ffugenw), sy'n weithgar ar Facebook yn bennaf. Cipwyd "Kaloutcha" gan heddlu mewn dillad sifil a chymerwyd ei gyfrifiadur.[29] Roedd sôn am ymgyrchwyr rhyngrwyd eraill a oedd wedi'u harestio neu wedi "diflannu".
Ar 2 Rhagfyr 2011 dechreuodd hactifwyr Anonymous ar gyfres o ymosodiadau DDoS yn erbyn gwefannau llywodraeth Tiwnisia; rhwystrwyd prif wefan y llywodraeth a gwefan yr Arlywydd Ben Ali. Dywedodd neges gan y gymuned honno eu bod yn gweithredu am fod llywodraeth Tiwnisia yn sensro gwefannau fel WikiLeaks. Dywedwyd:
Hacwyd gwefan y prif weinidog hefyd a rhoddwyd logo Anonymous a neges ar y brif dudalen. Dywedwyd y byddai gwefannau cwmniau a gysylltir gyda'r régime yn cael eu targedu hefyd.[78] Yn ôl Al-Jazeera, blocwyd o leiaf wyth o wefannau'r llywodraeth yn ogystal â chyfnewidfa stoc Tiwnis.[18] Yn ôl datganiad gan 'Operation Tiwnisia' Anonymous, blocwyd prif wasanaethydd DNS swyddogol Tiwnisia hefyd, a olygai na allai unrhyw wefan gyda'r parth .tn weithio. Datganwyd fod y grwp wedi cymryd camrau i alluogi pobl Tiwnisia i gael fynediad i'r rhyngrwyd heb wynebu sensoriaeth a gwyliadwriaeth gudd yr awdurdodau.[79]
Gyda llwyddiant cyntaf y 'Chwyldro Jasmin' ar 14 Ionawr a sefydlu llywodraeth dros dro llacwyd y sensoriaeth yn sylweddol ond roedd llawer o gefnogwyr y llywodraeth yn cwyno bod sensoriaeth rhyngrwyd yn parhau o hyd, er bod y sefyllfa wedi gwella cryn dipyn. Addawyd rhyddid y wasg ac erbyn 23 Ionawr roedd papurau newydd Tiwnisia fel La Presse wedi newydd eu gwedd gyda newyddiadurwyr yn elwa ar eu rhyddid newydd ac roedd llyfrau a waharddwyd gan régime Ben Ali ar werth yn siopau llyfrau Tiwnis. Roedd pobl yn rhydd i leisio barn ar y teledu a'r radio hefyd.[80]
Erbyn 04 Ionawr 2011, bron i dair wythnos ar ôl i'r protestiadau gychwyn, roedd llywodraethau'r Unol Daleithiau, Ffrainc a'r DU heb wneud unrhyw sylw am y sefyllfa.
Cyhuddwyd cyfryngau torfol y Gorllewin o anwybyddu'r digwyddiadau yn Nhiwnisia i raddau helaeth. Ar 5 Ionawr, nododd Marietje Schaake, ASE o'r Iseldiroedd:
Ar ddechrau'r wythnnos galwodd Kofi Annan, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, am "ddeialog rhwng y ddwy ochr" a beirniadodd y drais yn erbyn protestwyr. Cyhoeddodd yr Undeb Ewropeaidd y byddai sefyllfa Tiwnisia yn cael ei drafod mewn sesiwn arbennig ar ddydd Sadwrn (15 Ionawr). Yn hwyr ar ddydd Mawrth 11 Ionawr, ar ôl dros dair wythnos heb ymateb, cyhoeddodd Nicolas Sarkozy fod Ffrainc yn gresynu'r drais yn Nhiwnisia ond yn hytrach na beirniadu llywodraeth Zine Ben Ali ac yn y senedd dywedodd ei Gweinidog Tramor Michèle Alliot-Marie y byddai Ffrainc yn "rhannu arbenigedd eu lluoedd diogelwch" gyda Thiwnisa er mwyn "cynorthwyo lluoedd diogelwch Tiwnisia i adfer heddwch"[81]; cafwyd protestiadau ym Mharis gan rai miloedd o Diwnisiaid alltud yn syth ar ôl clywed y cyhoeddiad hwnnw. Hefyd ar 11 Ionawr, galwodd Navy Pillay, Uwch Gomisiynydd Dros Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig, am "ymchwiliad llawn" i'r hyn a alwodd yn "or-ddefnydd o drais yn erbyn safonau rhyngwladol" gan heddlu Tiwnisia yn erbyn protestiadau a oedd, yn gyffredinol, "yn heddychlon".[82]
Ar 03 Ionawr roedd adroddiadau am brotestiadau tramor i gefnogi protestwyr Tiwnisia yn Amman (Gwlad Iorddonen), Beirut (Libanus)a dinasoedd eraill yn y byd Arabaidd. Bu protestiadau gan gefnogwyr yr intifada mewn rhannau o Ewrop hefyd, fel Ffrainc a'r Almaen. Cyhoeddwyd 6 Ionawr 2011 yn Ddiwrnod Cefnogaeth Ryngwladol i'r protestiadau gyda gwrthdystiadau i'w cynnal yn Ewrop a Canada, yn cynnwys Paris, Genefa, Lille, Montréal, Quebec, Rhufain, Napoli, Brwsel, Nantes, Lyon, Toulouse, Marseille a Strasbourg, yn ogystal ag yn Alger, prifddinas Algeria.[22] Yn ystod hanner cyntaf Ionawr cynhaliwyd sawl rali protest yn cefnogi'r chwyldro o gwmpas y byd.
Comdemniodd yr International Federation for Human Rights "the use of firearms by the Tunisian security forces, and calls for an independent inquiry to cast light on these events, to hold those responsible accountable and to guarantee the right to peaceful protest."[9] Cafwyd y negeseuon o gefnogaeth cyntaf gan Aelodau Senedd Ewrop gan yr ASEau Marietje Schaake (Democrats'99, Yr Iseldiroedd) a Joe Higgins (Plaid Sosialaidd Iwerddon)[83]
Ar 5 Ionawr, mewn llythyr agored at yr Arlywydd Zine Ben Ali, galwodd y Committee to Protect Journalists ar lywodraeth Tiwnisia i roi'r gorau i'w sensoriaeth o'r sefyllfa yn y wlad, i atal ei sensoriaeth o wefannau sy'n adrodd ar y protestiadau ac i sicrhau fod newyddiadurwyr yn medru gwneud eu gwaith yn ddirwystr.[74] Beirniadwyd yn hallt yr hacio o gyfrifon ebost a Facebook cefnogwyr y protestiadau, yn cynnwys gosod sgript java gan awdurdodau Tiwnisia ar wefannau fel Facebook i gasglu cyfeiriadau ebost a chyfrineiriau blogwyr, newyddiadurwyr annibynnol, actifwyr a phrotestwyr er mwyn hel gwybodaeth a hacio cyfrifon.[74]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.