Tardda'r gair democratiaeth o'r Groeg δημοκρατία (democratia), δημος (demos) y werin + κρατειν (cratein) teyrnasu[1]. Golyga ffurf o lywodraeth a reolir gan boblogaeth y gymdeithas. Mae'r cysyniad hwn wedi cael ei ddehongli a'i ddatblygu mewn gwahanol ffurf trwy hanes ond fel arfer mae'n cynnwys elfen o bleidleisio dros berson neu blaid mewn etholiad er mwyn penodi cynrychiolwyr ar gyfer llywodraeth neu gynulliad.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Democratiaeth
Enghraifft o:math o lywodraeth, math o wladwriaeth Edit this on Wikidata
Mathsystem wleidyddol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebawtocratiaeth Edit this on Wikidata
Rhan opum math o lywodraeth Plato Edit this on Wikidata
Yn cynnwysdemocratiaeth uniongyrchol, democratiaeth gynrychiolaidd, corff etholiadol, arlywydd, ethnic democracy Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau

Caiff ei diffinio fel system sy'n caniatáu: (a:) llywodraeth sy'n cynrychioli mwyafrif ei phobol (b:) llywodraeth ble mae pwer y wlad yn nwylo ei phobl (yn hytrach na'r heddlu neu fyddin) a lle mae'r pwer hwnnw yn eu dwylo nhw yn cael ei weithredu o ddydd i ddydd yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy system o gyrychiolaeth[2].

Yn ôl Larry Diamond, mae'n cynnwys dwy elfen: "System wleidyddol er mwyn dewis llywodraeth drwy etholiadau rhydd a theg ac yn ail bod ei dinasyddion yn weithredol yn y system wleidyddol honno. Ynghlwm wrth y gair hwn hefyd mae parch at hawliau dynol pob un o'i dinasyddion a bod ei dinasyddion yn gweithredu mewn rhyw ffordd i sicrhau fod cyfreithiau yn eu lle sy'n rhoi hawliau cyfartal hyn i bawb".[3]

Merch yn bwrw'i phleidlais yn ail rownd ethol Arlywydd yn Ffrainc yn 2007

Mae'r term Groegaidd hwn, sy'n tarddu'n ôl i'r 5g CC, yn gwbwl groes i ἀριστοκρατία (aristokratía) "rheolaeth gan yr elit".[4] Dau air cwbwl groes mewn theori, ond yn ymarferol, mae tir cyffredin heddiw, fel ag yr oedd yn Athen y cynfyd ble rhoddwyd yr hawl i un carfan elitaidd i fod yn ddemocrataidd ac i bleidleisio ond nid y gweddill - y caethweision, merched ayb. Yng Ngwledydd Prydain, tan yr 20g, dim ond tirfeddiannwyr neu bobl ariannog oedd a'r hawl i bleidleisio. Nid oes gan garcharorion, heddiw, yr hawl hwn ychwaith, na phobl ifanc dan 18 oed.

Gweler hefyd

  • Genicratiaeth, ffurf o lywodraeth, sy'n hyrwyddo deallusrwydd fel maen prawf ar gyfer ethol llywodraeth.
  • Gerentocratiaeth, oedran cynrychiolwyr mewn llywodraeth.

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.