pentref ym mwrdeistref sirol Conwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Capel Curig.[1][2] Fe'i lleolir yng nghanol Eryri ar groesffordd lle mae'r A4086 o/i gyfeiriad Nant Gwynant a Beddgelert yn ymuno â'r A5.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 206, 218 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 7,842.09 ha |
Gerllaw | Afon Llugwy (Powys), Afon Ogwen |
Cyfesurynnau | 53.105°N 3.913°W |
Cod SYG | W04000111 |
Cod OS | SH720582 |
Cod post | LL24 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Claire Hughes (Llafur) |
Enwir y pentref ar ôl y clas a sefydlwyd gan y sant Curig (fl. 550?) yno. Yn anffodus cafodd yr eglwys bresennol, sy'n sefyll mewn llan ger y pentref, ei hatgyweirio'n sylweddol yn y 19g. Eglwys fechan yw hi, 32 wrth 15 troedfedd gyda thransept sgwar diweddarach. Yn Oes y Tywysogion roedd yn perthyn i Briordy Beddgelert. Ceir llecyn o'r enw 'Gelli'r mynach' ar yr hen lôn i gyfeiriad Llyn Ogwen a Nant Ffrancon. Tu ôl i'r eglwys saif bryn isel Cefn y Capel. Cysegrir yr eglwys bresennol i Sant Cyriacus a'i fam Julitta.
Ar y ffordd i Fetws-y-Coed, 1 km ar ôl Pont Cyfyng i'r de-ddwyrain, ceir caer Rufeinig ar fferm Bryn-y-Gefeiliau, a sefydlwyd tua OC 90-100; fe'i henwyd Caer Llugwy gan yr archaeolegwyr a fu'n cloddio yno.
Mae'r pentref yn ymestyn o gwmpas y groesffordd ac ar hyd y lôn i gyfeiriad Betws-y-Coed i'r dwyrain. Mae'n dibynnu i raddau helaeth ar dwristiaeth ac mae siopau gweithgareddau awyr agored a gwestai yn amlwg yno.
Ceir golygfeydd bendigedig ac enwog o Lynnau Mymbyr a phedol Yr Wyddfa o Gapel. Trawiadol hefyd yw llethrau agored Moel Siabod i'r de-ddwyrain a mynyddoedd y Carneddau a rhan o'r Glyderau i'r gogledd. Yng Nghapel Curig y ganwyd Alwyn Rice Jones, Archesgob Cymru o 1991 hyd 1999.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Capel Curig (pob oed) (206) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Capel Curig) (113) | 57.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Capel Curig) (128) | 62.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Capel Curig) (20) | 22.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.