Pentref a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Caer-went[1] (weithiau Caerwent). Pan goncrwyd llwyth y Silwriaid gan y Rhufeiniaid, crëwyd canolfan a thref farchnad iddynt dan yr enw Venta Silurum yn fuan wedi'r flwyddyn 78 gan y Llywodraethwr Rhufeinig Julius Frontinus. Cyn hynny roedd gan y Silwriaid fryngaer bwysig gerllaw yng Nghoed Llanmelin. Venta Silurum yw'r dref Rufeinig y gwyddys mwyaf amdani yng Nghymru, a'r ail fwyaf adnabyddus ym Mhrydain ar ôl Calleva Atrebatum (Silchester).
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,211 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6113°N 2.7684°W |
Cod SYG | W04001058 |
Cod OS | ST470905 |
Cod post | NP26 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Catherine Fookes (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[3]
Hanes
Caerwent Rufeinig
Roedd y dref Rufeinig yn dilyn y patrwm arferol, gyda dwy brif ffordd yn ffurfio croes a mur a ffos o'i hamgylch. Gydag arwynebedd o 300 - 350 medr sgwâr roedd yn dref gymharol fechan. Yn y canol roedd y Fforwm, gyda sgwâr agored a siopau a Basilica o'i amgylch. I'r dwyrain o'r Fforwm mae teml Rufeinig, a oedd, mae'n debyg, wedi ei chysegru i'r duw Mawrth, ac i'r gogledd mae Amffitheatr. Roedd o leiaf ddau faddondy yn y dref. Ar bob ochr i'r briffordd a redai drwy'r dref roedd yna resi o siopau a sawl teml. Mae darnau sylweddol o'r mur Rhufeinig i'w gweld o hyd, hyd at 5 medr o uchder mewn mannau. Atgyfnerthwyd y muriau hynny â thyrau lle y cedwid arfau. Y tu allan i'r muriau y ceid y mynwentydd. Mae tai'r pentref modern yn gorchuddio rhan o'r hen safle Rhufeinig.
Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid
Credir i'r boblogaeth adael y dref yn y 5g, fel gyda llawer o ddinasoedd a threfi Rhufeinig Prydain, ond mae'n bosibl i Gaerwent barhau fel canolfan i Deyrnas Gwent ar ôl y cyfnod Rhufeinig. Sefydlwyd clas yng Nghaerwent gan sant o Wyddel o'r enw Tatheus tua'r 5ed ganrif. Ar ôl y Goncwest Normanaidd codwyd castell mwnt a beili ar y safle.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Caer-went (pob oed) (1,791) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Caer-went) (151) | 8.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Caer-went) (1058) | 59.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Caer-went) (221) | 30.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Darllen pellach
- O.E. Craster, Caerwent Roman City (Llundain: HMSO, 1951; sawl argraffiad ers hynny)
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.