Remove ads
bryngaer yn Sir Fynwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Bryngaer o Oes yr Haearn ym mhlwyf Llanmelin, ger Caer-went yn Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru, yw bryngaer Coed Llanmelin (neu fryngaer Llanmelin). Cyfeirnod OS (map 171) ST 460 925; mae ei harwynebedd yn 2.2 hectar.
Ymddengys ei bod yn gaer bwysig. Cafodd ei chloddio'n sylweddol yn 1930-32 ac mae canlyniadau'r cloddio'n dangos iddi ddatblygu o fod yn gaer un-mur i un â muriau dwbl consentrig tua'r flwyddyn 150 CC.[1] Yn ystod y ganrif a hanner nesaf ehangwyd y gaer yn sylweddol eto ac ychwanegwyd gwaith amddiffynnol allanol i warchod y brif fynedfa tua 50 CC. Mae crochenwaith a ddarganfuwyd yn y gwaith ychwanegol hyn yn debyg i grochenwaith o ardal Glastonbury yn yr un cyfnod.[2]
Mae'r gaer yn mwynhau sefyllfa naturiol cryf ar ben bryn 300 troedfedd o uchder ger arfordir Gwent yn edrych i lawr ar ardal Caer-went. Mae rhai archeolegwyr a haneswyr yn awgrymu iddi fod yn ddinas gaerog a wasanaethai fel canolfan llwyth y Silwriaid cyn yr oresgyniad Rhufeinig yng Nghymru, ond does dim tystiolaeth i brofi hynny'n derfynol. Ond mae'r ffaith fod y Rhufeiniaid wedi dewis Caer-went (Venta Silurum) fel "prifddinas" y Silwriad ar ôl y goncwest (OC 74-79) yn tueddu i ategu'r ddamcaniaeth honno.[2]
I'r de o'r gaer ceir amddiffynfa ychwanegol ac olion cytiau canoloesol. Ymddengys i'r gaer gael ei rhoi i fyny yn fuan ar ôl y goresgyniad Rhufeinig.[2]
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: MM024.[3] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.