Wrocław
From Wikipedia, the free encyclopedia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yng ngorllewin Gwlad Pwyl yw Wrocław (Almaeneg: Breslau). Mae hi'n brifddinas rhanbarth Silesia Isaf, a dinas bwysicaf tiriogaeth Silesia. Saif ar afon Oder. Mae hi'n bedwaredd dinas Gwlad Pwyl o ran poblogaeth, gyda phoblogaeth o 638,401 yn 2003.
Math | dinas gyda grymoedd powiat |
---|---|
Enwyd ar ôl | Vratislaus I, Duke of Bohemia |
Poblogaeth | 672,929 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Jacek Sutryk |
Cylchfa amser | UTC+01:00, CET, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Lower Silesian Voivodeship |
Gwlad | Gwlad Pwyl |
Arwynebedd | 293 ±1 km² |
Uwch y môr | 111 metr |
Gerllaw | Afon Oder, Ślęza, Oława, Widawa, Bystrzyca |
Yn ffinio gyda | Gmina Wisznia Mała, Gmina Czernica, Gmina Długołęka, Gmina Kąty Wrocławskie, Gmina Kobierzyce, Gmina Miękinia, Gmina Oborniki Śląskie, Gmina Siechnice |
Cyfesurynnau | 51.11°N 17.0325°E |
Cod post | 50-041, 50-325 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Wroclaw |
Pennaeth y Llywodraeth | Jacek Sutryk |
Efallai i'r ddinas gael ei henw oddi wrth Vratislav I, brenin Bohemia (915-921). Vratislavia yw'r ffurf Ladin ar enw'r ddinas. Yn ddiweddarach, daeth dan reolaeth brenin Gwlad Pwyl. Daeth yn aelod o'r Cynghrair Hanseataidd pan ddaeth yn rhan o Bohemia gyda gweddill Silesia yn 1335. Sefydlwyd prifysgol yma yn 1526. Wedi'r Rhyfel Silesaidd Cyntaf, daeth yn rhan o deyrnas Prwsia, ac o 1871 ymlaen yn rhan o Ymerodraeth yr Almaen. Yn 1939, Breslau oedd trydedd dinas yr Almaen, gyda phoblogaeth dros 650,000. Yn 1945, wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, daeth yn eiddo Gwlad Pwyl fel Wrocław. Gorfodwyd llawer o'r trigolion Almaenig i adael y ddinas a symud tua'r gorllewin, i'r tiriogaethau oedd yn parhau yn rhan o'r Almaen.
Dynodwyd yr Jahrhunderthalle ("Neuadd y Canmlwyddiant") yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 2006.
Warsaw · Kraków · Łódź · Wrocław · Poznań · Gdańsk · Szczecin · Bydgoszcz · Lublin · Katowice · Białystok · Gdynia · Częstochowa · Radom · Sosnowiec · Toruń · Kielce · Gliwice · Rzeszów · Zabrze · Olsztyn · Bytom · Bielsko-Biała · Ruda Śląska · Rybnik · Tychy · Dąbrowa Górnicza · Gorzów Wielkopolski · Płock · Elbląg · Opole · Wałbrzych · Zielona Góra · Włocławek · Tarnów · Chorzów · Koszalin · Kalisz · Legnica ·
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.