From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yng ngogledd-orllewin Gwlad Pwyl a phrifddinas talaith Gorllewin Pomerania yw Szczecin (Almaeneg: Stettin). Roedd y boblogaeth yn 2014 yn 408,113. Saif ar afon Oder, gyda chanol y ddinas ar y lan orllewinol. Er fod y môr 65 km i'r gogledd, mae llongau yn medru cyrraedd y ddinas, ac mae'n un o borthladdoedd pwysicaf Gwlad Pwyl. Mae hefyd yn ddinas brifysgol.
Math | dinas gyda grymoedd powiat, dinas, dinas Hanseatig, tref ar y ffin, dinas fawr, cyrchfan i dwristiaid |
---|---|
Cysylltir gyda | Ffordd Ewropeaidd E65 |
Poblogaeth | 396,168 |
Pennaeth llywodraeth | Alexander von Rammin, Piotr Krzystek |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | West Pomeranian Voivodeship |
Gwlad | Gwlad Pwyl |
Arwynebedd | 301 ±1 km² |
Uwch y môr | 131 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | Gmina Gryfino, Gmina Stare Czarnowo, Gmina Kobylanka, Gmina Goleniów, Gmina Police, Gmina Dobra, Gmina Kołbaskowo |
Cyfesurynnau | 53.4247°N 14.5553°E |
Cod post | 70-001–71-899 |
Pennaeth y Llywodraeth | Alexander von Rammin, Piotr Krzystek |
Szczecin oedd prifddinas tiriogaeth hanesyddol Pomerania. Yn y 5g, roedd caer yma ar gyfer masnach rhwng y Llychlynwyr a chanolbarth Ewrop. Yn 1181 daeth y ddinas yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, ac yn ddiweddarach yn aelod o'r Cynghrair Hanseataidd.
Daeth y ddinas yn eiddo brenin Sweden yn 1648 wedi'r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Yn 1721, gorfodwyd y Swediaid i ildio'r ddinas i deyrnas Prwsia, ac yn 1870, gyda gweddill Prwsia, daeth yn rhan o Ymerodraeth yr Almaen. Yn 1945, wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, rhoddwyd meddiant ar y ddinas i Wlad Pwyl.
Warsaw · Kraków · Łódź · Wrocław · Poznań · Gdańsk · Szczecin · Bydgoszcz · Lublin · Katowice · Białystok · Gdynia · Częstochowa · Radom · Sosnowiec · Toruń · Kielce · Gliwice · Rzeszów · Zabrze · Olsztyn · Bytom · Bielsko-Biała · Ruda Śląska · Rybnik · Tychy · Dąbrowa Górnicza · Gorzów Wielkopolski · Płock · Elbląg · Opole · Wałbrzych · Zielona Góra · Włocławek · Tarnów · Chorzów · Koszalin · Kalisz · Legnica ·
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.