Vilnius

prifddinas Lithwania From Wikipedia, the free encyclopedia

Vilnius

Prifddinas a dinas fwyaf Lithwania yw Vilnius (pwyleg: Wilno), gyda phoblogaeth o 555,613 (847,954 yn cynnwys Swydd Vilnius) yn 2008. Mae'n ganolfan weinyddol Dinas Vilnius, Dosbarth Dinesig Vilnius, a Swydd Vilnius. Yn 2009 Vilnius oedd Prifddinas Diwylliant Ewrop, ynghyd â Linz, Awstria.

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...
Vilnius
Thumb
Thumb
ArwyddairUnitas, Iustitia, Spes 
Mathdinas, dinas fawr 
Enwyd ar ôlAfon Vilnia 
Poblogaeth581,475 
Sefydlwyd
  • 13 g 
Pennaeth llywodraethRemigijus Šimašius 
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Dinas Vilnius 
Gwlad Lithwania
Arwynebedd401 km² 
Uwch y môr112 metr, 98 metr 
GerllawNeris, Afon Vilnia 
Cyfesurynnau54.6872°N 25.28°E 
Cod post01001 
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Vilnius 
Pennaeth y LlywodraethRemigijus Šimašius 
Thumb
Cau
Thumb
Vilnius

Gorwedd y ddinas ar gyfaber afonydd Vilnia a Neris yn ne-ddwyrain Lithwania. Tybir fod ei henw yn deillio o enw afon Vilnia. Nid yw'n gorwedd yng nghanol Lithwania heddiw ond yn hanesyddol roedd yn gorwedd yng nghanol Dugiaeth Fawr Lithwania. Lleolir Vilnius tua 312 km (194 milltir) o lan y Môr Baltig a Memel (Klaipeda), prif borthladd Lithwania. Cyslltir Vilnius gan draffyrdd i rai o ddinasoedd mawr eraill y wlad, fel Cawnas (102 km/63 milltir i ffwrdd), Šiauliai (214 km/133 milltir) a Panevėžys (135 km/84 miltir).

Adeiladau a chofadeiladau

  • Amgueddfa Genedlaethol Lithwania
  • Eglwys Gadeiriol y Theotokos
  • Eglwys Sant Anne
  • Llyfrgell Martynas Mažvydas
  • Tŵr Gediminas

Enwogion

  • Jascha Heifetz (1901-1987), cerddor
  • Romain Gary (1914-1980), awdur

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Lithwania. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.