From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yn Awstria a phrifddinas talaith Salzburg yw Salzburg. Roedd y boblogaeth yn 2008 yn 147,159, sy'n ei gwneud yn bedwaredd dinas Awstria o ran poblogaeth. Mae'n fwyaf adnabyddus fel man geni Wolfgang Amadeus Mozart.
Math | dinas fawr, bwrdeistref yn Awstria, man gyda statws tref, dinas statudol yn Awstria, district of Austria |
---|---|
Enwyd ar ôl | diwydiant halen |
Poblogaeth | 155,021 |
Pennaeth llywodraeth | Harald Preuner |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Vilnius |
Daearyddiaeth | |
Sir | Salzburg |
Gwlad | Awstria |
Arwynebedd | 65.65 km² |
Uwch y môr | 424 metr |
Gerllaw | Afon Salzach, Alterbach, Saalach |
Yn ffinio gyda | Berchtesgadener Land, Salzburg-Umgebung District |
Cyfesurynnau | 47.8°N 13.045°E |
Cod post | 5020, 5023, 5026, 5061, 5071, 5081, 5082 |
Pennaeth y Llywodraeth | Harald Preuner |
Saif Salzburg ar afon Salzach yn ardal Flachgau, heb fod ymhell o'r ffîn a'r Almaen. Mae Abaty Benedictaidd Sant Pedr (Stift Sankt Peter) yn dyddio o 696. Hwn yw abaty hynaf Awstria, ac mae'n cynnwys llyfrgell hynaf y wlad. O ddiwedd yr 8g ymlaen, roedd yn ganolfan Archesgobaeth Salzburg. Ceir nifer fawr o adeiladau baroc yma, yn ei plith ye Eglwys Gadeiriol a chastell Hohensalzburg, ar fryn 120 m uwch y ddinas. Dynodwyd y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Daw nifer fawr o dwristiaid i Salzburg, gyda thŷ Mozart yn y Getreidegasse, sy'n awr yn amgueddfa, yn atyniad arbennig. Atyniad arall yw tŷ'r teulu Von Trapp, a anfarwolwyd yn y ffilm The Sound of Music.
Y prif dîm peldroed yw SV Austria Salzburg.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.