From Wikipedia, the free encyclopedia
Tour de France 2014 oedd y 101af ras yn hanes y Tour de France. Dechreuodd y ras yn Leeds, Lloegr ar 5 Gorffennaf 2014, a bydd cymal yn gorffen yn Llundain hefyd cyn i'r ras ddychwelyd i Ffrainc.[1][2][3]. Yr Eidalwr, Vincenzo Nibali, oedd yn fuddugol gan ennill y ras gyda mantais o dros saith munud.
Enghraifft o'r canlynol | Tour de France |
---|---|
Rhan o | UCI World Tour 2014 |
Dechreuwyd | 5 Gorffennaf 2014 |
Daeth i ben | 27 Gorffennaf 2014 |
Rhagflaenwyd gan | 2013 Tour de France |
Olynwyd gan | Tour de France 2015 |
Yn cynnwys | 2014 Tour de France, Stage 1, 2014 Tour de France, Stage 2, 2014 Tour de France, Stage 3, 2014 Tour de France, Stage 4, 2014 Tour de France, Stage 5, 2014 Tour de France, Stage 6, 2014 Tour de France, Stage 7, 2014 Tour de France, Stage 8, 2014 Tour de France, Stage 9, 2014 Tour de France, Stage 10, 2014 Tour de France, Stage 11, 2014 Tour de France, Stage 12, 2014 Tour de France, Stage 13, 2014 Tour de France, Stage 14, 2014 Tour de France, Stage 15, 2014 Tour de France, Stage 16, 2014 Tour de France, Stage 17, 2014 Tour de France, Stage 18, 2014 Tour de France, Stage 19, 2014 Tour de France, Stage 20, 2014 Tour de France, Stage 21 |
Gwefan | http://www.letour.fr/le-tour/2014/us/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae disgwyl i pob un o'r 18 tîm ar Gylchdaith Broffesiynol yr UCI gymryd rhan yn y ras ac mae trefnwyr y ras hefyd wedi rhoi gwahoddiad i bum tîm sy'n rasio ar yr haen nesaf o feicio proffesiynol.
Ag2r-La Mondiale BMC Racing Team Cofidis† Giant-Shimano Lotto-Belisol Orica-GreenEDGE Team NetApp-Endura† Trek Factory Racing |
Astana Bretagne-Séché Environnement† FDJ.fr IAM Cycling† Movistar Team Team Europcar Team Sky |
Belkin Pro Cycling Cannondale Garmin-Sharp Lampre-Merida Omega Pharma-Quick Step Team Katusha Team Tinkoff-Saxo
|
†: timau sydd wedi derbyn gwahoddiad
Dyma'r pedwerydd tro i'r Tour de France ymweld â Lloegr yn dilyn ymweliadau yn 1974, 1994 a 2007. Mae 21 cymal gyda chyfanswm o 3656 km.
Cymal | Dyddiad | Cwrs | Pellter | Math | Enillydd | ||
---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | 5 Gorff | Leeds – Harrogate (Lloegr) | 190.5 km (118 mi) | Cymal gwastad | Marcel Kittel | ||
2 | 6 Gorff | York – Sheffield (Lloegr) | 201 km (125 mi) | Cymal mynyddig canolig | Vincenzo Nibali | ||
3 | 7 Gorff | Caergrawnt – Llundain (Lloegr) | 155 km (96 mi) | Cymal gwastad | Marcel Kittel | ||
4 | 8 Gorff | Le Touquet-Paris-Plage – Lille[5] | 163.5 km (102 mi) | Cymal mynyddig canolig | Marcel Kittel | ||
5 | 9 Gorff | Ypres (Gwlad Belg) – Arenberg Porte du Hainaut | 155.5 km (97 mi) | Cymal gwastad (gyda darn coblog) | Lars Boom | ||
6 | 10 Gorff | Arras – Reims | 194 km (121 mi) | Cymal gwastad | André Greipel | ||
7 | 11 Gorff | Épernay – Nancy | 234.5 km (146 mi) | Cymal gwastad | Matteo Trentin | ||
8 | 12 Gorff | Tomblaine – Gérardmer La Mauselaine | 161 km (100 mi) | Cymal mynyddig canolig | Blel Kadri | ||
9 | 13 Gorff | Gérardmer – Mulhouse | 170 km (106 mi) | Cymal mynyddig canolig | Tony Martin | ||
10 | 14 Gorff | Mulhouse – La Planche des Belles Filles | 161.5 km (100 mi) | Cymal mynyddig | Vincenzo Nibali | ||
15 Gorff | Diwrnod gorffwys | ||||||
11 | 16 Gorff | Besançon – Oyonnax | 187.5 km (117 mi) | Cymal mynyddig canolig | Tony Gallopin | ||
12 | 17 Gorff | Bourg-en-Bresse – Saint-Étienne | 185.5 km (115 mi) | Cymal gwastad | Alexander Kristoff | ||
13 | 18 Gorff | Saint-Étienne – Chamrousse | 197.5 km (123 mi) | Cymal mynyddig | Vincenzo Nibali | ||
14 | 19 Gorff | Grenoble – Risoul | 177 km (110 mi) | Cymal mynyddig | Rafał Majka | ||
15 | 20 Gorff | Tallard – Nîmes | 222 km (138 mi) | Cymal gwastad | Alexander Kristoff | ||
21 Gorff | Diwrnod gorffwys | ||||||
16 | 22 Gorff | Carcassonne – Bagnères-de-Luchon | 237.5 km (148 mi) | Cymal mynyddig | Michael Rogers | ||
17 | 23 Gorff | Saint-Gaudens – Saint-Lary-Soulan Pla d’Adet | 124.5 km (77 mi) | Cymal mynyddig | Rafał Majka | ||
18 | 24 Gorff | Pau – Hautacam | 145.5 km (90 mi) | Cymal mynyddig | Vincenzo Nibali | ||
19 | 25 Gorff | Maubourguet Pays du Val d’Adour – Bergerac | 208.5 km (130 mi) | Cymal gwastad | Ramūnas Navardauskas | ||
20 | 26 Gorff | Bergerac – Périgueux | 54 km (34 mi) | Ras unigol yn erbyn y cloc | Tony Martin | ||
21 | 27 Gorff | Évry – Paris | 137.5 km (85 mi) | Cymal gwastad | Marcel Kittel | ||
Roedd pedwar prif ddosbarth yn y Tour de France 2014 gyda'r dosbarthiad cyffredinol (Ffrengig: classement général) y pwysicaf. Cyfrifir y dosarthiad cyffredinol trwy adio amser pob beiciwr ar ddiwedd pob cymal. Y beiciwr gyda'r cyfanswm isaf o amser yw arweinydd y ras ac sy'n cael yr hawl i wisgo'r Crys Melyn (Ffrengig: Maillot Jaune).
Yn y dosbarthiad pwyntiau, lle mae'r arweinydd yn gwisgo'r Crys Gwyrdd (Ffrengig: Maillot Vert) mae'r beicwyr yn casglu pwyntiau am orffen ymysg y goreuon ar ddiwedd cymal a hefyd mewn rasys gwibio sydd yn digwydd mewn manau penodol yn ystod pob cymal.
Ceir pwyntiau tuag at y Crys Dot Polca (Ffrengig: Maillot à Pois) am gyrraedd copâu'r gwahanol ddringfeydd ar bob cymal. Ceir gwahanol gategoriau o ddringfeydd gyda'r hors catégorie - y categori uchaf - yn werth mwy o bwyntiau na'r dringfeydd categori cyntaf, ail, trydydd neu bedwerydd.
Nodir y beiciwr ifanc gorau yn y ras gyda'r Crys Gwyn (Ffrengig: Maillot Blanc) sy'n cael ei roi i'r beiciwr uchaf yn y dosbarthiad cyffredinol sydd wedi eu geni cyn neu ar 1 Ionawr 1989.
Ar gyfer dosbarthiad tîm, cymerir amser y tri beiciwr cyntaf o bob tîm i orffen pob cymal a'r tîm sydd ar y blaen yw'r tîm sydd â'r cyfanswm amser lleiaf. Mae'r tîm ar y blaen yn cael yr hawl i wisgo rhifau gyda chefndir melyn ar eu gwisgoedd.
Mae rheithgor yn cyfarfod ar ôl pob cymal er mwyn pleidleisio am y beiciwr maent yn ei ystyried sydd wedi brwydro'n fwy nag unrhyw un arall yn ystod y dydd.
Cymal | Enillydd | Dosbarthiad cyffredinol Maillot jaune |
Dosbarthiad Pwyntiau Maillot vert |
Brenin y Mynyddoedd Maillot à pois rouges |
Reidiwr Ifanc Maillot blanc |
Dosbarthiad Tîm Classement par équipe |
Gwobr Brwydrol Prix de combativité |
---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Marcel Kittel | Marcel Kittel | Marcel Kittel | Jens Voigt | Peter Sagan | Team Sky | Jens Voigt |
2 | Vincenzo Nibali | Vincenzo Nibali | Peter Sagan | Cyril Lemoine | Blel Kadri | ||
3 | Marcel Kittel | Jan Bárta | |||||
4 | Marcel Kittel | Thomas Voeckler | |||||
5 | Lars Boom | Astana | Lieuwe Westra | ||||
6 | André Greipel | Luis Ángel Maté | |||||
7 | Matteo Trentin | Martin Elmiger | |||||
8 | Blel Kadri | Blel Kadri | Michał Kwiatkowski | Blel Kadri | |||
9 | Tony Martin | Tony Gallopin | Tony Martin | Tony Martin | |||
10 | Vincenzo Nibali | Vincenzo Nibali | Joaquim Rodríguez | Romain Bardet | Ag2r-La Mondiale | Tony Martin | |
11 | Tony Gallopin | Nicolas Roche | |||||
12 | Alexander Kristoff | Simon Clarke | |||||
13 | Vincenzo Nibali | Vincenzo Nibali | Alessandro De Marchi | ||||
14 | Rafał Majka | Joaquim Rodríguez | Alessandro De Marchi | ||||
15 | Alexander Kristoff | Martin Elmiger | |||||
16 | Michael Rogers | Rafał Majka | Thibaut Pinot | Cyril Gautier | |||
17 | Rafał Majka | Romain Bardet | |||||
18 | Vincenzo Nibali | Mikel Nieve | |||||
19 | Ramūnas Navardauskas | Tom-Jelter Slagter | |||||
20 | Tony Martin | Dim Gwobr | |||||
21 | Marcel Kittel | ||||||
Terfynol | Vincenzo Nibali | Peter Sagan | Rafał Majka | Thibaut Pinot | Ag2r-La Mondiale | Alessandro De Marchi |
Eglurhad | |||
---|---|---|---|
Dynodi arweinydd y Dosbarthiad cyffredinol | Dynodi arweinydd Brenin y mynyddoedd | ||
Dynodi arweinydd Dosbarthiad y pwyntiau | Dynodi arweinydd dosbarthiad y reidiwr ifanc | ||
Dynodi arweinydd Dosbarthiad tîm |
Beiciwr | Tîm | Amser | |
---|---|---|---|
1 | Vincenzo Nibali | Astana | 89a 59' 06" |
2 | Jean Péraud | Ag2r-La Mondiale | + 7'37" |
3 | Thibaut Pinot | FDJ.fr | + 8' 15" |
4 | Alejandro Valverde | Movistar Team | + 9' 40" |
5 | Tejay van Garderen | BMC Racing Team | + 11' 24" |
6 | Romain Bardet | Ag2r-La Mondiale | + 11' 26" |
7 | Leopold König | Team NetApp-Endura | + 14' 32" |
8 | Haimar Zubeldia | Trek Factory Racing | + 17' 57" |
9 | Laurens ten Dam | Belkin Pro Cycling | + 18' 12" |
10 | Bauke Mollema | Belkin Pro Cycling | + 21' 15" |
Beiciwr | Tîm | Pwyntiau | |
---|---|---|---|
1 | Peter Sagan | Cannondale | 431 |
2 | Alexander Kristoff | Team Katusha | 282 |
3 | Bryan Coquard | Team Europcar | 271 |
4 | Marcel Kittel | Giant-Shimano | 222 |
5 | Mark Renshaw | Omega Pharma-Quick Step | 211 |
Beiciwr | Tîm | Pwyntiau | |
---|---|---|---|
1 | Rafał Majka | Team Tinkoff-Saxo | 181 |
2 | Vincenzo Nibali | Astana | 168 |
3 | Joaquim Rodriguez | Team Katusha | 112 |
4 | Thibaut Pinot | FDJ.fr | 89 |
5 | Jean Péraud | Ag2r-La Mondiale | 85 |
Beiciwr | Tîm | Amser | |
---|---|---|---|
1 | Thibaut Pinot | FDJ.fr | 90a 07' 21" |
2 | Romain Bardet | Ag2r-La Mondiale | + 3' 11" |
3 | Michał Kwiatkowski | Omega Pharma-Quick Step | + 1a 13' 38" |
4 | Tom Dumoulin | Giant-Shimano | + 1a 39' 45" |
5 | Jon Izagirre | Movistar Team | + 38' 07" |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.