Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ras seiclo mwyaf poblogaidd y byd yw Le Tour de France ("Taith Ffrainc"). Mae'n ras ffordd 22 diwrnod, 20 cymal sydd fel arfer yn cael ei rhedeg dros lwybr o 3000 km. Mae'n mynd o amgylch y rhan fwyaf o Ffrainc, a weithiau, drwy wledydd cyfagos. Torrir y daith yn sawl cymal rhwng yr un dref a'r llall; mae pob cymal yn ras wahanol. Mae'r amser mae pob beiciwr yn ei gymryd i gyflawni pob cymal yn cael ei ychwanegu i wneud cyfanswm cronnus i benderfynu enillydd terfynol y Tour.
Enghraifft o'r canlynol | Grand Tours |
---|---|
Math | 2.PT, 2.UWT |
Rhan o | UCI World Tour |
Dechrau/Sefydlu | 1903 |
Gwefan | https://www.letour.fr/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tour de France | |
---|---|
Enw Lleol | Le Tour de France |
Ardal | Ffrainc a gwledydd cyfagos |
Dyddiad | 30 Mehefin i 22 Gorffennaf (2012) |
Math | Ras Gamau (Taith Mawr) |
Cyfarwyddwr Cyffredinol | Christian Prudhomme |
Hanes | |
Y ras gyntaf | 1903 |
Nifer o rasus | 99 (2012) |
Enillydd cyntaf | Maurice Garin |
Enillydd y nifer fwyaf o weithiau | Lance Armstrong (7) 1999-2005 |
Enillydd diweddaraf | Bradley Wiggins 2012 |
Enillydd y nifer fwyaf o Grysau Melyn | Eddy Merckx (96) (111 overall incl. half stages) |
Enillydd y nifer fwyaf o Gamau | Eddy Merckx (34) |
Ynghyd â'r Giro d'Italia (Taith yr Eidal) a Vuelta a España (Taith Sbaen), y Tour de France ydy un o dair brif ras cam, a'r hwyaf yng nghalendr yr Union Cycliste Internationale (UCI). Tra bod y ddwy ras arall yn weddol gyfarwydd yn Ewrop, maent yn gymharol ddi-sôn y tu allan i'r cyfandir, adnabyddir Pencampwriaethau Byd yr UCI i ddilynwyr seiclo. Mewn cyferbyniad, mae'r Tour de France wedi bod yn enw mawr ar yr aelwyd ar draws y byd, hyd yn oed i'r rhai sydd ddim fel arfer â diddordeb mewn seiclo.
Fel yn y rhan fwyaf o rasys seiclo, mae cystadleuwyr yn y Tour de France yn cymryd rhan fel aelod o dîm. Mae rhwng 20 a 22 o dimau a 9 reidiwr ym mhob un. Yn draddodiadol, ar wahoddiad yn unig y caiff y timau gystadlu, a gwahoddir timau proffesiynol gorau'r byd. Adnabyddir pob tîm gan enw ei gefnogwr ariannol, ac mae gan y beicwyr git nodedig. Mae'r beiciwr o fewn tîm yn helpu'r beiciwr penodedig gorau ac mae gan bob tîm 'gar tîm', sy'n dilyn y ras (fersiwn symudol o griwiau pit mewn rasio ceir).
Sefydlwyd y Tour fel digwyddiad cyhoeddusrwydd ar gyfer papur newydd L'Auto (rhagflaenydd papur newydd L'Équipe heddiw) gan ei olygydd, Henri Desgrange, i fynd gam ymhellach na ras Paris-Brest et retour (a noddwyd gan L'Auto hefyd).[1] Daeth y syniad o ras daith o amgylch Ffrainc gan brif ohebydd newyddion seiclo Desgrange, y dyn 26 oed, Géo Lefèvre[2]. Cafodd Desgrange ginio â Lefèvre mewn bwyty (heddiw 'TGI Friday') ym Montmartre, Paris, ar 20 Tachwedd 1902[2]. Datganodd L'Auto y ras ar 19 Ionawr 1903. Y cynllun oedd i drefnu taith pum wythnos o 31 Mai hyd 5 Gorffennaf; ond profodd hyn i fod yn rhy beichus. Gan na chafwyd ond 15 o ymgeiswyr, cwtogodd Desgrange ar hyd y ras felly i 19 diwrnod, gan newid y dyddiadau fel y byddai'r ras yn rhedeg o 1 hyd 19 Gorffennaf a chynnig dogn dyddiol. Denodd y cynllun newydd 60 o ymgeiswyr, gan gynnwys amaturiaid, rhai yn ddi-swydd, ac eraill ond yn fentrus. Y cymeriadau hyn a ddaliodd ddychymyg y cyhoedd[2]. Roedd natur galed y ras (gyda hyd cymhedrol pob 6 cam yn 400 km, disgwylwyd y reidwyr i seiclo drwy ddechrau'r nos weithiau[3], a phrofodd i fod yn boblogaidd. Roedd llwyddiant y ras gymaint fel y cynyddodd cylchrediad y papur, oedd tua 25,000 cyn Tour 1903, i 65,000 ar ôl y ras[2]. Erbyn 1908, roedd y ras wedi hybu'r papur at gylchrediad o dros chwarter miliwn, ac yn ystod Tour 1923, roedd yn gwerthu 500,000 copi y diwrnod. Honodd Desgrange mai 854,000 oedd record uchaf y cylchrediad, lefel a gyrhaeddwyd yn ystod Tour 1933[4] Erbyn heddiw, trefnir y ras gan y Société du Tour de France, rhan atodol o Amaury Sport Organisation (ASO), sydd yn ei dro yn ran o gwmni cyfryngau L'Équipe.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Prif amcan y reidwyr yw i ennill dosbarthiad cyffredinol y ras, ond mae tri cystadleuaeth ychwanegol o fewn y ras: y gystadleuaeth bwytiau, mynyddoedd a'r wobr ar gyfer y reidiwr ifanc gorau. Mae arweinydd pob cystadleuaeth yn gwisgo crys gwahanol. Pan fydd un reidiwr yn arwain mwy nag un cystadleuaeth mae'n derbyn pob crys ar ddiwedd y cymal, ond dim ond un crys gaiff ei wisgo y diwrnod canlynol. Mae'n gwisgo crys y gystadleuaeth pwysicaf (yn y drefn yma - melyn, gwyrdd, dot polca, gwyn).[5] Mae'r crysau eraill a ddeilir gan y reidiwr yn cael eu gwisgo gan y reidiwr sy'n ail yn y gystadlauaeth eilradd hwnnw (neu'r trydydd, pedwerydd reidiwr ayb. fel bo'r angen). Mae lliwiau crysau'r Tour wedi cael eu mabwysiadu gan rasys eraill ac â ystyr cyffredinol o fewn y byd seiclo. Er enghraifft, mae gan y Tour of Britain grysau melyn, gwyrdd, a dot polca gyda'r un ystyr a rhai'r Tour. Mae'r Giro d'Italia yn un o'r ychydig sydd yn wahanol, gan y trefnir gan y La Gazzetta dello Sport, a gaiff ei argraffu ar bapur pinc.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gwobrwyir y maillot vert (crys gwyrdd) ar gyfer pwytiau sbrint. Ac ar ddiwedd pob cam, bydd pob beiciwr sy'n gorffen yn gyntaf, yn ail, ayyb yn ennill pwyntiau. Gwobrwyir pwyntiau uwch ar gyfer camau gwastad, gan fod sbrintiau'n fwy debygol, a llai ar gyfer camau'r mynyddoedd lle mae dringwyr yn debygol o ennill.
Camau gwastad: Rhoddir 35, 30, 26, 24, 22, 20, 19, 18, 17, 16, 15, 14, 13, 12, 11, 10, 9, 8, 7, 6, 5, 4, 3, 2 ac 1 o bwyntiau i'r 25 reidiwr cyntaf i orffen.
Camau mynyddoedd canolig: Rhoddir25, 22, 20, 18, 16, 15, 14, 13, 12, 11, 10, 9, 8, 7, 6, 5, 4, 3, 2 ac 1 o bwyntiau i'r 20 reidiwr cyntaf i orffen.
Camau mynyddoedd uchel: Rhoddir 20, 17, 15, 13, 12, 10, 9, 8, 7, 6, 5, 4, 3, 2 ac 1 o bwyntiau i'r 15 reidiwr cyntaf i orffen.
Time-trial: Rhoddir 15, 12, 10, 8, 6, 5, 4, 3, 2 ac 1 o bwyntiau i'r 10 reidiwr cyflymaf yn y cam.
Sprintiau canolraddol: Rhoddir 6, 4, a 2 o bwyntiau i'r 3 reidiwr cyntaf i orffen.
Os yw nifer o feicwyr yn gyfartal o ran nifer o bwyntiau yn y safle cyntaf, mae'r nifer o fuddugoliaethau cam yn penderfynu enillyd y Grys Gwyrdd, ac yna nifer o fuddugoliaethau yn y sbrintiau canolraddol os yw'r beicwyr yn dal yn gyfartal, wedyn safle'r reidiwr yn y dosbarth cyffredinol.
Mae "Brenin y Mynyddoedd" yn gwisgo crys gwyn gyda smotiau coch (maillot à pois rouges), a gyfeirir ati fel y "crys dot polka" a ysbrydolwyd gan grys a welodd y cyn-drefnwr, Félix Lévitan, tra yn nhrac Vélodrome d'Hiver, Paris yn ei ieuenctid. Penderfynnir y gystadleuaeth gan bwyntiau a wobrwyir i'r reidwyr cyntaf i gyrraedd copa elltydd a mynyddoedd penodedig, gyda'r nifer mwyaf o bwyntiau ar gael ar y dringiadau caletaf.
Dringiadau yn y "Hors Catégorie" (HC): 20, 18, 16, 14, 12, 10, 8, 7, 6 and 5 points for the first 10 riders to the summit.
Dringiadau Categori 1: Rhoddir 15, 13, 11, 9, 8, 7, 6 ac 5 o bwyntiau ar gyfer y 8 reidiwr cyntaf i'r copa.
Dringiadau Categori 2: Rhoddir 10, 9, 8, 7, 6, ac 5 o bwyntiau ar gyfer y 6 reidiwr cyntaf i'r copa.
Dringiadau Categori 3: Rhoddir 4, 3, 2 ac 1 o bwyntiau ar gyfer y 4 reidiwr cyntaf i'r copa.
Dringiadau Categori 4: Rhoddir 3, 2 ac 1 o bwyntiau ar gyfer y 3 reidiwr cyntaf i'r copa.
NODYN: Ar gyfer dringiad olaf cam, bydd y pwyntiau'n cael eu dwblu (ar gyfer dringiadau HC, Cat 1 a Cat 2 yn unig).
Os bydd cwlwm rhwng nifer o bwyntiau'r safle gyntaf, bydd y nifer o fuddugoliaethau ar ddringiadau HC yn penderfynu enillydd y Grys Dot Polca, ac yna nifer buddugoliaethau dringiadau Categori 1 os oes dal cwlwm ac yna Categori 2, ayb. ...
Er i'r gystadleuaeth gael ei chyflwyno yn 1933, ni chyflwynwyd y grys tan 1975.
Rhwng 1975 a 1989, ac ers 2000, bu cystadleuaeth ar gyfer y reidiwr ifanc gorau. Caiff y reidiwr o dan 26 oed sydd â'r safle gorau yn y dosbarthiad cyffredinol wisgo crys gwyn (maillot blanc).
Ers cyflwyniad y crys ym 1975, mae wedi cael ei gwisgo gan 29 o wahanol reidwyr. Enillodd chwech ohonynt y dosbarthiad cyffredinol ar rhyw adeg (Fignon, LeMond, Pantani, Ullrich, Contador ac A. Schleck). Dim ond pedwar gwaith mae'r reidiwr ifanc gorau hefyd wedi ennill y dosbarthiad cyffredinol yr un flwyddyn, sef Fignon ym 1983, Ullrich ym 1997, Contador yn 2007 ac A. Schleck yn 2010.
Mae dau reidiwr wedi ennill y gystadleuaeth tair gwaith:
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Yn 1983, rhyddhaodd y grŵp Almaeneg, Kraftwerk, sengl o'r enw Tour de France, a ddisgrifiwyd fel "melding of man and machine" minimalaidd.[6] Yn ddiweddarach rhyddhawyd y sengl ar record Kraftwerk yn ymroddedig i'r ras, sef albwm Tour de France Soundtracks, 2003.
Heblaw marwolaethau reidwyr, mae pump damwain marwol arall wedi digwydd.
Y record o weithiau mae un reidiwr wedi ennill y Tour yw 7:
Reidwyr eraill a enillodd y Tour 5 gwaith:
Reidwyr eraill a enillodd y Tour 3 gwaith:
Yr enilydd ieuengaf oedd Henri Cornet, yn 19 oed yn 1904. Y nesaf oedd Romain Maes yn 21 oed yn 1935.
Yr enillydd hynaf oedd Firmin Lambot, yn 36 oed yn 1922. Y hynaf nesaf oedd Henri Pelissier (1923), Gino Bartali (1948) a Cadel Evans (2011), roedd y ddau yn 34 oed.
Mae Gino Bartali yn dal y record am yr amser hiraf rhwng buddugoliaethau yn y Tour, gan ennill ei fuddugoliaeth cyntaf ac olaf yn y Tour 10 mlynedd arwahan (yn 1938 a 1948).
Reidwyr o Ffrainc sydd wedi ennill y nifer fwyaf o'r Tour (36), gyda Gwlad Belg yn dilyn (18), Sbaen (11), yr Unol Dalieithau (10), yr Eidal (9), Luxembourg (5), ac yna'r Swistir a'r Iseldiroedd (2 yr un) ac Iwerddon, Denmarc, Almaen a'r Awstralia (1 yr un).
Mae un reidiwr wedi ennill y gystadleuaeth bwyntiau, nifer record, 6 o weithiau:
Mae un reidiwr wedi ennill cystadleuaeth "Brenin y Mynyddoedd", nifer record, 7 o weithiau:
Mae un reidiwr wedi ennill cystadleuaeth "Brenin y Mynyddoedd" 6 gwaith:
Mae un reidiwr wedi ennill cystadleuaeth "Brenin y Mynyddoedd", y gystadleuaeth bwyntiau a'r Tour ei hun i gyd yn yr un flwyddyn:
Deilydd record y nifer fwyaf o weithiau i reidio'r Tour ydy Joop Zoetemelk, gyda 16 ymddangosiad a heb rhoi i fyny unwaith. Mae tri reidiwr, (Lucien Van Impe, Guy Nulens a Viatcheslav Ekimov) wedi gwneud 15 ymddangosiad; gorffennodd Van Impe a Ekimov y Tour yn ystod pob un o'r 15 ymddangosiad, gorffennodd Nulens 13 gwaith a rhoddodd i fynnu ddwywaith.
1903 Maurice Garin · 1904 Henri Cornet · 1905 Louis Trousselier · 1906 René Pottier · 1907 · - 1908 Lucien Petit-Breton · 1909 François Faber · 1910 Octave Lapize · 1911 Gustave Garrigou · 1912 Odile Defraye · 1913 & 1914 Philippe Thys · 1915-1918 Rhyfel Byd Cyntaf · 1919 Firmin Lambot · 1920 Philippe Thys · 1921 Léon Scieur · 1922 Firmin Lambot · 1923 Henri Pélissier · 1924 & 1925 Ottavio Bottecchia · 1926 Lucien Buysse · 1927 & 1928 Nicolas Frantz · 1929 Maurice De Waele · 1930 André Leducq · 1931 Antonin Magne · 1932 André Leducq · 1933 Georges Speicher · 1934 Antonin Magne · 1935 Romain Maes · 1936 Sylvère Maes · 1937 Roger Lapébie · 1938 Gino Bartali · 1939 Sylvère Maes · 1940-1946 Ail Ryfel Byd · 1947 Jean Robic · 1948 Gino Bartali · 1949 Fausto Coppi · 1950 Ferdinand Kübler · 1951 Hugo Koblet · 1952 Fausto Coppi · 1953, 1954 & 1955 Louison Bobet · 1956 Roger Walkowiak · 1957 Jacques Anquetil · 1958 Charly Gaul · 1959 Federico Bahamontes · 1960 Gastone Nencini · 1961, 1962, 1963 & 1964 Jacques Anquetil · 1965 Felice Gimondi · 1966 Lucien Aimar · 1967 Roger Pingeon · 1968 Jan Janssen · 1969, 1970, 1971 & 1972 Eddy Merckx · 1973 Luis Ocaña · 1974 Eddy Merckx · 1975 Bernard Thévenet · 1976 Lucien Van Impe · 1977 Bernard Thévenet · 1978 & 1979 Bernard Hinault · 1980 Joop Zoetemelk · 1981 & 1982 Bernard Hinault · 1983 & 1984 Laurent Fignon · 1985 Bernard Hinault · 1986 Greg LeMond · 1987 Stephen Roche · 1988 Pedro Delgado · 1989 & 1990 Greg LeMond · 1991, 1992, 1993, 1994 & 1995 Miguel Indurain · 1996 Bjarne Riis · 1997 Jan Ullrich · 1998 Marco Pantani · 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004 & 2005 Lance Armstrong · 2006 Óscar Pereiro · 2007 Alberto Contador · 2008 Carlos Sastre · 2009 Alberto Contador · 2010 Andy Schleck · 2011 Cadel Evans · 2012 Bradley Wiggins · 2013 Christopher Froome · 2014 Vincenzo Nibali · 2015 & 2016 & 2017 Christopher Froome · 2018 Geraint Thomas · 2019 Egan Bernal · 2020 & 2021 Tadej Pogačar · |
1953 Fritz Schär · 1954 Ferdinand Kübler · 1955-1956 Stan Ockers · 1957 Jean Forestier · 1958 Jean Graczyk · 1959 André Darrigade · 1960 Jean Graczyk · 1961 André Darrigade · 1962 Rudi Altig · 1963 Rik van Looy · 1964-1965 Jan Janssen · 1966 Willy Planckaert · 1967 Jan Janssen · 1968 Franco Bitossi · 1969 Eddy Merckx · 1970 Walter Godefroot · 1971-1972 Eddy Merckx · 1973 Herman van Springel · 1974 Patrick Sercu · 1975 Rik Van Linden · 1976 Freddy Maertens · 1977 Jacques Esclassan · 1978 Freddy Maertens · 1979 Bernard Hinault · 1980 Rudy Pevenage · 1981 Freddy Maertens · 1982-1983 Seán Kelly · 1984 Frank Hoste · 1985 Seán Kelly · 1986 Eric Vanderaerden · 1987 Jean-Paul van Poppel · 1988 Eddy Planckaert · 1989 Seán Kelly · 1990 Olaf Ludwig · 1991 Djamolidine Abdoujaparov · 1992 Laurent Jalabert · 1993-1994 Djamolidine Abdoujaparov · 1995 Laurent Jalabert · 1996-2001 Erik Zabel · 2002 Robbie McEwen · 2003 Baden Cooke · 2004 Robbie McEwen · 2005 Thor Hushovd · 2006 Robbie McEwen · 2007 Tom Boonen · 2008 Óscar Freire · 2009 Thor Hushovd · 2010 Alessandro Petacchi · 2011 Mark Cavendish · |
1933 Vicente Trueba ·
1934 René Vietto ·
1935 Félicien Vervaecke ·
1936 Julian Berrendero ·
1937 Félicien Vervaecke ·
1938 Gino Bartali ·
1939 Sylvère Maes ·
1947 Pierre Brambilla ·
1948 Gino Bartali ·
1949 Fausto Coppi ·
1950 Louison Bobet ·
1951 Raphaël Géminiani ·
1952 Fausto Coppi ·
1953 Jésus Lorono ·
1954 Federico Bahamontes ·
1955 Charly Gaul ·
1956 Charly Gaul ·
1957 Gastone Nencini ·
1958 Federico Bahamontes ·
1959 Federico Bahamontes ·
1960 Imerio Massignan ·
1961 Imerio Massignan ·
1962 Federico Bahamontes ·
1963 Federico Bahamontes ·
1964 Federico Bahamontes ·
1965 Julio Jimenez ·
1966 Julio Jimenez ·
1967 Julio Jimenez ·
1968 Aurelio Gonzalez ·
1969 Eddy Merckx ·
1970 Eddy Merckx ·
1971 Lucien Van Impe ·
1972 Lucien Van Impe ·
1973 Pedro Torres ·
1974 Domingo Perurena ·
1975 Lucien Van Impe ·
1976 Giancarlo Bellini ·
1977 Lucien Van Impe ·
1978 Mariano Martinez ·
1979 Giovanni Battaglin ·
1980 Raymond Martin ·
1981 Lucien Van Impe ·
1982 Bernard Vallett ·
1983 Lucien Van Impe ·
1984 Robert Millar ·
1985 Luis Herrera ·
1986 Bernard Hinault ·
1987 Luis Herrera ·
1988 Steven Rooks ·
1989 Gert-Jan Theunisse ·
1990 Thierry Claveyrolat ·
1991 Claudio Chiappucci ·
1992 Claudio Chiappucci ·
1993 Tony Rominger ·
1994 Richard Virenque ·
1995 Richard Virenque ·
1996 Richard Virenque ·
1997 Richard Virenque ·
1998 Christophe Rinero ·
1999 Richard Virenque ·
2000 Santiago Botero ·
2001 Laurent Jalabert ·
2002 Laurent Jalabert ·
2003 Richard Virenque ·
2004 Richard Virenque ·
2005 Michael Rasmussen ·
2006 Michael Rasmussen ·
2007 Mauricio Soler ·
2008 |
1975: Francesco Moser | 1976: Enrique Martinez-Heredia | 1977: Dietrich Thurau | 1978: Henk Lubberding | 1979: Jean-Rene Bernaudeau | 1980: Johan Van der Velde | 1981: Peter Winnen | 1982: Phil Anderson | 1983: Laurent Fignon | 1984: Greg LeMond | 1985: Fabio Parra | 1986: Andrew Hampsten | 1987: Raúl Alcalá | 1988: Erik Breukink | 1989: Fabrice Philipot | 1990: Gilles Delion | 1991: Alvaro Enrique Mejia | 1992: Eddy Bouwmans | 1993: Antonio Martín | 1994–1995: Marco Pantani | 1996–1998: Jan Ullrich | 1999: Benoît Salmon | 2000: Francisco Mancebo | 2001: Óscar Sevilla | 2002: Ivan Basso | 2003: Denis Menchov | 2004: Vladimir Karpets | 2005: Yaroslav Popovych | 2006: Damiano Cunego | 2007: Alberto Contador | 2008, 2009, 2010: Andy Schleck | 2011: Pierre Rolland |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.