From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas gaerog yn département Aude yn Languedoc-Roussillon, de Ffrainc, yw Carcassonne (Ocsitaneg: Carcassona). Saif tua 90 km (56 milltir) i'r de-ddwyrain o Toulouse. Mae dwy ran i'r dref fodern, y rhan gaerog, Cité de Carcassonne, a'r dref tu allan i'r muriau, y ville basse. Llifa Afon Aude heibio i'r dref.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 46,218 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Eggenfelden, Baeza, Tallinn |
Daearyddiaeth | |
Sir | canton of Carcassonne-Est, canton of Carcassonne-Centre, canton of Carcassonne-Nord, canton of Carcassonne-Sud, Aude, arrondissement of Carcassonne |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 65.08 km² |
Uwch y môr | 81 ±1 metr, 250 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Aude, Fresquel |
Yn ffinio gyda | Berriac, Caux-et-Sauzens, Cavanac, Cazilhac, Couffoulens, Fontiès-d'Aude, Lavalette, Montirat, Palaja, Pennautier, Pezens, Roullens, Trèbes, Villedubert, Villemoustaussou |
Cyfesurynnau | 43.2158°N 2.3514°E |
Cod post | 11000 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Carcassonne |
Sefydlwyd y safle fel oppidum Celtaidd dan yr enw Carsac. Adeiladodd y Rhufeiniaid amddiffynfeydd yma, ac enwi'r dref yn Colonia Julia Carsaco. Adeiladwyd amddiffynfeydd eraill gan Theodoric II, brenin y Fisigothiaid, a feddiannodd y dref yn 453.
Daeth Carcassonne yn adnabyddus am ei rhan yn y Groesgad Albigensaidd, pan amddiffynid y gaer gan y Cathariaid. Yn Awst 1209 cipiwyd y ddinas gan fyddin Simon de Montfort.
Adferwyd yr amddiffynfeydd o 1853 ymlaen gan y pensaer Eugène Viollet-le-Duc, ac yn 1997 fe'u henwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.