Sir y Fflint
prif ardal yng ngogledd-ddwyrain Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Un o'r 22 prif ardal Cymru yw Sir y Fflint (Saesneg: Flintshire), sy'n sir yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Llywodraethir y sir gan yr awdurdod llywodraeth leol Cyngor Sir y Fflint. Crëwyd y sir bresennol pan ad-drefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru yn 1996.

Daw'r enw "Sir y Fflint" o'r hen Sir y Fflint a sefydlwyd ym 1536 a barodd tan 1974 pan gafodd ei diddymu o dan Ddeddf Llywodraethu Lleol 1972. Cafodd ei hail-sefydlu ym 1996 o dan Ddeddf Llywodraethu Lleol (Cymru) 1994 ond nid yw'r ffiniau presennol yn dilyn yr un ffiniau ac mae'r sir bellach yn llai nag y bu.
Ymhlith siaradwyr Cymraeg yr ardal, tueddir i ollwng y fanod yn yr enw wrth gyfeirio at y sir - Sir Fflint. Mae tafodiaith unigryw iawn yn yr ardal sy' bellach dan fygythiad tafodieithoedd gorllewinol y Gymraeg. Mae rhai hen gyhoeddiadau yn cyfeirio at y sir fel Sir (neu Swydd) Gallestr.[1]
Remove ads
Hanes
Roedd yr hen sir yn llawer mwy sylweddol, yn cynnwys rhannau o'r Sir Ddinbych bresennol ac alldir - darn o'r sir ar wahân - ar y ffin â Lloegr sy'n rhan o Fwrdeistref Sirol Caerffili heddiw.
- Sir y Fflint yng Nghymru
- Sir y Fflint cyn 1974
- Sir y Fflint heddiw
Daearyddiaeth
Gorwedd y sir ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru, ar Lannau Dyfrdwy.
Trefi a chymunedau
Prif drefi a phentrefi
Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth
Rhennir y sir yn 34 o gymunedau.
Remove ads
Cestyll a hynafiaethau eraill
Oriel
- Machlud, Moel Famau
- Afon Dyfrdwy, Shotton
- Gwaith y Dyffryn, Rhydymwyn
- Capel Bethesda, Yr Wyddgrug
- Goleadau'r Nadolig, Yr Wyddgrug
- Goleudy'r Parlwr Du
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads



