Sir y Fflint
prif ardal yng ngogledd-ddwyrain Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
prif ardal yng ngogledd-ddwyrain Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Sir yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Sir y Fflint (Saesneg: Flintshire). Llywodraethir y sir gan yr awdurdod llywodraeth leol Cyngor Sir y Fflint. Crëwyd y sir bresennol pan ad-drefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru yn 1996.
Arwyddair | GOROU TARIAN, CYFIAWNDER |
---|---|
Math | prif ardal |
Poblogaeth | 155,593 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Menden (Sauerland), Murata |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 437.4901 km² |
Gerllaw | Bae Lerpwl, Aber Afon Dyfrdwy |
Yn ffinio gyda | Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Sir Ddinbych, Bwrdeistref Fetropolitan Cilgwri, Wrecsam, Swydd Gaer |
Cyfesurynnau | 53.2175°N 3.1432°W |
Cod SYG | W06000005 |
GB-FLN | |
Daw'r enw "Sir y Fflint" o'r hen sir a sefydlwyd ym 1536 a barodd tan 1974 pan gafodd ei diddymu o dan Ddeddf Llywodraethu Lleol 1972. Cafodd ei hail-sefydlu ym 1996 o dan Ddeddf Llywodraethu Lleol (Cymru) 1994 ond nid yw'r ffiniau presenol yn dilyn yr un ffiniau ac mae'r sir bellach yn llai nag y bu.
Ymhlith siaradwyr Cymraeg yr ardal, tueddir i ollwng y fanod yn yr enw wrth gyfeirio at y sir - Sir Fflint. Mae tafodiaith unigryw iawn yn yr ardal sy' bellach dan fygythiad tafodieithoedd gorllewinol y Gymraeg. Mae rhai hen gyhoeddiadau yn cyfeirio at y sir fel Sir (neu Swydd) Gallestr.[1]
Roedd yr hen sir yn llawer mwy sylweddol, yn cynnwys rhannau o'r Sir Ddinbych bresennol ac alldir - darn o'r sir ar wahân - ar y ffin â Lloegr sy'n rhan o fwrdeistref sirol Wrecsam heddiw.
Gorwedd y sir ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru, ar Lannau Dyfrdwy.
Rhennir y sir yn 34 o gymunedau.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.