Serbo-Croateg

iaith neu grŵp o ieithoedd De Slafonaidd From Wikipedia, the free encyclopedia

Serbo-Croateg

Iaith neu grŵp o ieithoedd De Slafonaidd yw Serbo-Croateg, sy'n cynnwys Croateg, Serbeg, Bosnieg a Montenegreg. Yn ddiweddar, defnyddir enwau gwahanol arni, gan gynnwys BCMS[2], sy'n cyfeirio'n glir at y Fosnieg a'r Fontenegreg yn ogystal.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Serbo-Croateg
Thumb
Enghraifft o:iaith naturiol, macroiaith, iaith fyw, pluricentric language Edit this on Wikidata
MathWestern South Slavic Edit this on Wikidata
Enw brodorolsrpskohrvatski jezik Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 19,000,000 (2022)[1]
  • cod ISO 639-1sh Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3hbs Edit this on Wikidata
    GwladwriaethBosnia a Hertsegofina, Serbia, Croatia, Montenegro Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuGaj's Latin alphabet, Serbian Cyrillic alphabet, Yr wyddor Gyrilig, yr wyddor Ladin Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Cau
    Thumb
    Thumb
    Amrywiadau o Croateg, Serbeg a Bosnieg. (2006)

    Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel un iaith, ac mae llawer o ieithyddwyr yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Serbo-Croateg oedd iaith swyddogol Iwgoslafia. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Serbeg, Bosnieg a Chroateg fel ieithoedd ar wahân, er bod cywair safonol pob un yn seiliedig ar yr un dafodiaith yn union. Gellid disgrifio Serbeg, Bosnieg a Montenegreg fel amrywiaethau ieithyddol, sydd ag enw gwahanol ac wedi eu safoni ar wahân.

    Enw

    Yn Serbo-Croateg, weithiau defnyddir yr enw "naš jezik" ("ein hiaith") neu "naški" ("ni-eg, ein hun ni"). Ond fel arfer, mae enw'r iaith yn Serbo-Croateg yn dibynnu ar hunaniaeth y siaradwr. Mae'r rhan fwyaf o Bosniaciaid yn cyfeirio at eu hiaith fel Bosneg (bosanski / босански), y rhan fwyaf o Croatiaid yn cyfeirio at eu hiaith fel Croateg (hrvatski), y rhan fwyaf o Serbiaid yn cyfeirio at eu hiaith fel Serbeg (српски / srpski), y rhan fwyaf o bobl Montenegro yn cyfeirio at eu hiaith unai fel Montenegreg (crnogorski, црногорски) neu Serbeg, a'r rhan fwyaf o Bunjevci yn cyfeirio at eu hiaith fel bunjevački neu fel Croateg.

    Gwahaniaethau rhwng amrywiadau o Serbo-Croateg

    Wikiwand in your browser!

    Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

    Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

    Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.