Rwmaneg

iaith genedlaethol Rwmania a Moldofa From Wikipedia, the free encyclopedia

Rwmaneg (Rwmaneg: română) yw iaith genedlaethol Rwmania a Moldofa. Mae'n perthyn i'r ieithoedd Romáwns yn y teulu Indo-Ewropeaidd o ieithoedd. Mae tua 24 miliwn o bobl yn siarad yr iaith, yn bennaf yn Rwmania. Mae Rwmaneg yn nodweddiadol am fod yn yr unig iaith Romáwns i gadw olion o ogwyddiad Lladin. Mae hi'n iaith sydd wedi'i dylanwadu'n fawr gan yr ieithoedd Slafeg.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Rwmaneg
Enghraifft o:iaith naturiol, iaith fyw 
MathRomáwns y Dwyrain 
Enw brodorollimba română 
Nifer y siaradwyr 
  • 24,300,000 (2019)[1]
  • cod ISO 639-1ro 
    cod ISO 639-2ron, rum 
    cod ISO 639-3ron 
    GwladwriaethRwmania, Moldofa, Serbia, Wcráin 
    System ysgrifennuyr wyddor Ladin 
    Corff rheoleiddioAcademi Rwmania 
    Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Cau
    Rhagor o wybodaeth Statws swyddogol, Codau iaith ...
    Rwmaneg (română)
    Siaredir yn: Rwmania.
    Parth: Ewrop
    Cyfanswm o siaradwyr: 24 miliwn
    Safle yn ôl nifer siaradwyr: 36
    Achrestr ieithyddol: Indo-Ewropeg

     Italeg
      Romáwns
       Italeg Dwyreiniol
        Dwyreiniol
         Rwmaneg

    Statws swyddogol
    Iaith swyddogol yn: Rwmania
    Rheolir gan: Academia Română
    Codau iaith
    ISO 639-1ro
    ISO 639-2rum (B) /ron (T)
    ISO 639-3ron
    Gweler hefyd: Iaith Rhestr ieithoedd
    Cau

    Moldofeg

    Yn ystod y cyfnod Sofietaidd ym Moldofa, cyfeiriwyd at yr iaith frodorol fel Moldofeg (лимба молдовеняскэ) yn hytrach na Rwmaneg, ac fe'i hysgrifennwyd gyda'r wyddor Gyrilig yn hytrach na'r wyddor Ladin. O 1989, yr wyddor Ladin sy'n cael ei defnyddio yn Moldofa fel yn Rwmania, ac fe ddefnyddir y ddau enw, Rwmaneg a Moldofeg, i gyfeirio at yr un iaith. Yn Transnistria er hynny, ble mae'n un o'r ieithoedd swyddogol, enw'r iaith yw Moldofeg, a defnyddir yr wyddor Gyrilig o hyd.

    Tu hwnt i Rwmania a Moldofa

    Siaradir Rwmaneg gan leiafrif yn Serbia, er enghraifft yn ardal Vojvodina.

    Oherwydd mudo, fe'i siaradir hefyd yn Israel, yn ogystal ac yn yr Eidal, Ffrainc, Sbaen, a Portiwgal.

    Yng nghyfnod Ceaușescu yn Rwmania, daeth llawer o bobl o'r Dwyrain Canol i astudio yn y wlad - mae'n debyg felly fod nifer sydd wedi symud yn ôl i Libanus, Syria, Palesteina, Irac, Yr Aifft, Swdan a Gwlad Iorddonen yn medru'r iaith o hyd.

    Ymadroddion cyffredin

    Loading related searches...

    Wikiwand - on

    Seamless Wikipedia browsing. On steroids.