From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a phlwyf yng nghymuned Y Barri, Bro Morgannwg, Cymru, yw Merthyr Dyfan.[1][2] Fe'i lleolir ar gwr gogleddol Y Barri ar bwys ffordd yr A4050, tua 6 milltir i'r de-orllewin o ddinas Caerdydd.
Math | cymdogaeth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4206°N 3.2708°W |
Cod OS | ST117698 |
Cod post | CF62 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au y DU | Alun Cairns (Ceidwadwr) |
Enwir y pentref ar ôl Sant Dyfan a cheir eglwys a gysegrir iddo yn y pentref. Gall y gair merthyr yn y Gymraeg olygu "eglwys (er cof am sant neu ar ei fedd)" a dyna a geir yma; ceir enwau lleol tebyg eraill yn ne Cymru, e.e. Merthyr Tudful, Merthyr Cynog, a Merthyr Mawr, a cheir yr enwau cytras merther yn y Gernyweg a merzher yn Llydaweg hefyd, i gyd mewn enwau lleoedd.[3]
Honnir mai dyma un o'r canolfannau Cristnogol cynharaf yng Nghymru. Yn ôl traddodiad, cafodd ei seyfydlu yn 180 OC pan anfonwyd Dyfan a Ffagan i Gymru gan y Pab Eleutherius. Cysylltir yr eglwys gyda Sant Teilo hefyd, sy'n nawddsant y plwyf gyda Dyfan. Cafodd ei difrodi yn sylweddol yng nghyfnod y Diwygiad Protestannaidd a'i hadfer yn y 19g.[4]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[5] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.