pentref a chymuned ym Mro Morgannwg From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Llancarfan. Saif rhwng Y Bont-faen a'r Barri.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 736, 741 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 23 metr |
Cyfesurynnau | 51.417°N 3.367°W |
Cod SYG | W04000655 |
Cod post | CF62 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au y DU | Alun Cairns (Ceidwadwr) |
Ganwyd yr hynafiaethydd a llenor Iolo Morganwg ym mhentref Pennon yn y plwyf.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[2]
Ymddengys mai'r hen enw oedd Nant Carfan a chyn hynny, o bosib, Nant Carw-fan, sef y tarddiad carw[3]. Ceir sawl nant neu afon gydag enwau anifeiliaid cyflym, sy'n disgrifio llif yr afon, gan gynnwys Afon Ceirw, Carnant a Maescar gyda cyfeiriad at y carw, Afon Garw (nail ai o 'carw' neu 'garw'), Yr Wybrnant (gwiber nant), Afon Caseg, Afon Arth, Afon Iwrch, Afon Twrch ayb.
Roedd Llancarfan yn adnabyddus yn y Gymru gynnar am ei glas (ar safle eglwys Llancarfan heddiw) neu fynachlog gynnar a sefydlwyd gan Sant Cadog yn y 6g. Ceir carreg ag arni arysgrif Ladin o'r 11g neu ddechrau'r ganrif olynnol yn yr eglwys. Yn ôl traddodiad, cedwid llyfr efengylau Gildas yma. Yma hefyd yr ysgrifennwyd Buchedd Sant Cadog yn Lladin gan y mynach Lifris ac ymddengys y bu'n ganolfan dysg bwysig yn yr Oesoedd Canol Cynnar. Yr enwocaf o lenorion mynachaidd Llancarfan yw Caradog o Lancarfan (fl. 1135), awdur nifer o fucheddau saint. Awgrymwyd o gyfnod y Dadeni ymlaen mai ef a ysgrifennodd Llyfr Llandaf a fersiwn gynharaf Brut y Tywysogion, ond diweddar yw'r traddodiadau hyn ac yn achos y Brut gwyddys bellach ei fod yn ffrwyth sawl awdur a chanolfan yn hytrach na gwaith unigolyn.
Cofnodir anrheithio'r clas gan fôr-ladron Llychlynaidd yn y flwyddyn 988, yn ôl yr Annales Cambriae. Pan feddianwyd Morgannwg gan y Normaniaid rhoddwyd Llancarfan i fynachlog Pedr Sant yng Nghaerloyw a darfu am y clas Cymreig.
Y gorffennol disglair hwn a barodd i Iolo Morgannwg lunio rhai o'i ffugiadau enwocaf sy'n rhoi ffug hanes Sant Cadog a'i fynachlog.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llancarfan (pob oed) (747) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llancarfan) (100) | 13.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llancarfan) (509) | 68.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llancarfan) (71) | 25.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.