Remove ads
pentref a chymuned ym Mro Morgannwg From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Llanddunwyd (Saesneg: Welsh St Donats). Gorwedd yn y bryniau isel tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Y Bont-faen, rhwng Aberthin a Phendeulwyn.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 534, 520 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,201.61 ha |
Cyfesurynnau | 51.475088°N 3.401187°W |
Cod SYG | W04000923 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au y DU | Alun Cairns (Ceidwadwr) |
Cysgegrir yr eglwys i Sant Dunwyd. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn gapel yn perthyn i eglwys Llanfleiddan. Galwyd y pentref yn Eglwys Llanddunwyd i wahaniaethu rhyngddo â Sain Dunwyd (English St Donats) ar yr arfordir.
Bu Llandunwyd yn un o gadarnleoedd olaf yr iaith Gymraeg yn y Fro, gyda gwasanaethau Cymraeg yn yr eglwys.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[2]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanddunwyd (pob oed) (534) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanddunwyd) (93) | 18.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanddunwyd) (369) | 69.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanddunwyd) (56) | 28.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.