pentref ar Ynys Môn From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Ynys Môn yw Llanfair Pwllgwyngyll,[1][2] hefyd Llanfairpwllgwyngyll ( ynganiad ) a Llanfairpwll (ar lafar yn lleol). Fe'i lleolir ar ffordd yr A5 tua 3 milltir i'r gorllewin o Borthaethwy.
Math | pentref |
---|---|
Poblogaeth | 3,107 |
Gefeilldref/i | Y, Ie, Enna |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanfair Pwllgwyngyll |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 38 metr |
Cyfesurynnau | 53.22333°N 4.19944°W |
Cod OS | SH528716 |
Cod post | LL61 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch yw enw gwneud y pentref (cyfieithiad i'r Saesneg: "St Mary's church in the hollow of the white hazel, near to the fierce whirlpool of St Tysilio of the red cave"). Ei enw gwreiddiol oedd Llanfair Pwllgwyngyll ond fe'i estynnwyd gan ddyn lleol yn y 19g, ar ôl i'r rheilffordd gyrraedd yr ynys (1846–1850) i geisio denu twristiaid. Yn ôl Syr John Morris-Jones, teiliwr lleol a ddyfeisiodd yr enw, ond nid yw'n ei enwi. Dyma'r enw hiraf yng Nghymru, a'r trydydd hiraf yn y byd. Does fawr neb ond y Bwrdd Croeso yn defnyddio'r enw hir. Fel arfer mae'r pentref yn cael ei alw yn Llanfairpwll (gan siaradwyr Cymraeg) neu Llanfair PG (gan siaradwyr Saesneg). Pwllgwyngyll oedd enw'r dreflan ganoloesol lle safai'r eglwys yn yr Oesoedd Canol (pwll + yr ansoddair gwyn + coed cyll). Cyfeiria "Llantysilio" at blwyf eglwysig Llandysilio.
Yn yr Oesoedd Canol roedd plwyf (Llanfair) Pwllgwyngyll yn rhan o gwmwd Dindaethwy, yng nghantref Menai.
Yn y pentref hwn y dechreuodd mudiad Sefydliad y Merched yn 1915.[3] Cychwynnodd y Sefydliad yng Nghanada a chyrhaeddodd y wlad yma yn ystod yr rhyfel byd cyntaf gyda'r Cyrnol Richard Stapleton-Cotton oedd yn byw yn Llanfairpwll. Cafodd cyfarfod gyntaf Sefydliad y Merched ei gynnal yn 1915 yn Llanfairpwll a chafwyd anerchiad gan Mrs Alfred Watt a oedd yn ffrind i'r Cyrnol. I ddechrau, roedd y Sefydliad yn canolbwyntio ar grefftau domestig a chreu pethau i gefnogi'r rhyfel. Ar ôl y rhyfel cynhaliwyd ymgyrchoedd dros gyflenwadau dŵr pibell, ciosg ffônau a draeniad. Maen nhw nawr yn ystyried eu hunain fel grŵp pwysau, gan ymgyrchu dros wragedd tŷ anabl, gwell hawl at dâl mamolaeth, cadw Prydain yn lân, iechyd i blant a thros bil trafnidiaeth. Erbyn heddiw mae yna amgueddfa ar safle'r cyfarfod cyntaf.
Roedd HMS Conwy yn ysgol hyfforddi llynges a gafodd ei sefydlu yn 1859 ar long rhyfel bren. Roedd y llong yn wreiddiol wedi ei ddocio ar afon Merswy ger Lerpwl, a chafodd ei symud i'r Fenai yn ystod yr Ail ryfel byd. Wrth gael ei dynnu'n ôl o Benbedw i gaeil ei hailffitio yn 1953, cafodd hi ei dinistro. Symudodd yr ysgol i Ynys Môn ble am 20 mlynedd arall.
Mae'n debyg bod y gell grefyddol gynharaf ar y safle hwn yn dyddio o'r 7fed Ganrif. Safai eglwys ganoloesol yma ond fe'i dymchwelwyd yn 1852. Cwblhawyd eglwys newydd a gynlluniwyd gan Henry Kennedy ym 1853 ar gost o £950. Y rheithor ar y pryd oedd Y Parchedig Thomas Jones Williams M.A. sydd wedi ei gladdu yn y fynwent islaw ffenestr ddwyreiniol y gangell. Cysegrwyd yr eglwys gan Esgob Bangor ar y 7fed o Fedi 1853. Ychwanegwyd festri fechan gyda'i drws ei hun yn 1880au. Mae gan yr eglwys ffenestri gwydr lliw gan gynnwys ffenestr fodern yn wal y gogledd sy'n coffau gwaith Ysgol Hyfforddi Indefatigable rhwng 1864-1995.
Mae Cofrestrau Plwyfi Archifau Môn yn dyddio'n ôl i 1679 sy'n cynnwys bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau.[4]
Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1805 gan ei adeiladu yn 1839. Gwnaethpwyd gwaith adnewyddu ac ychwanegu ysgoldy yn 1993.
Mae achos y Methodistiaid yn Llanfairpwll yn dyddio o tua 1785 pan ddechreuwyd cynnal Ysgol Sul. Adeiladwyd y capel cyntaf yn Nryll y Bowl (yn y pentref uchaf). Yn ddiweddarach daeth Capel Bethpeor, ac fe adeiladwyd Capel Rhos y Gad yn 1873. Yn 1896 ychwanegwyd ysgoldy ac ystafelloedd arall. Cafwyd Ty ar gyfer y gwenidog yn 1899. Atgyweirwyd yr adeiladau yn 1922 ac yn 1932 pan osodwyd trydan ynddynt.
Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1805. Adeiladwyd yn 1896. Erbyn hyn mae'r adeilad yn dŷ annedd. [5]
Mae gorsaf reilffordd yma, ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru, ond mae mwyafrif y trenau yn mynd trwyddo i Gaergybi neu i Fangor heb aros.
Mae fferyllfa Rowlands ar hyn o bryd (2023) wedi’i lleoli yn yr adeilad o’r enw Peveril ar London Road, Llanfairpwll ond yn y 1950au-1970au roedd yn cael ei redeg gan yr optegydd offthalmig William Prytherch Parry. Nid oedd unrhyw fferyllwyr wedi'u rhestru yng nghyfeirlyfr Sutton's Trade 1889 ond roedd J.S Thomas yn meddiannu'r adeilad (c. 1915) sydd bellach yn salon trin gwallt.
Yn 2011, roedd Llanfairpwll yn ganolbwynt dadl ynghylch yr hawl i siarad Cymraeg ar ôl i berchennog bwyty Carreg Môn yn y pentref wahardd ei staff rhag siarad Cymraeg tra'n gweithio yno, gan ddweud mai dim ond Saesneg y dylent siarad.[6][7]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanfair Pwllgwyngyll (pob oed) (3,107) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfair Pwllgwyngyll) (2,171) | 71.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfair Pwllgwyngyll) (2371) | 76.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfair Pwllgwyngyll) (428) | 33.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.