ffigwr canolog Cristnogaeth ( -33) From Wikipedia, the free encyclopedia
Iesu o Nasareth (c. 6CC - c. 27), a elwir hefyd Iesu (neu Isa gan Fwslimiaid; Iesu Grist neu Crist gan Gristnogion), yw'r unigolyn canolog mewn Cristnogaeth. Mae'n golygu gwahanol bethau i wahanol bobl:
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol yn y Beibl, bod dynol |
---|---|
Y gwrthwyneb | Anghrist |
Mamiaith | Tafodiaith galileaidd, hebraeg beiblaidd |
Crefydd | Iddewiaeth, essenes |
Genre | dameg |
Olynydd | Simon of Cyrene |
Aelod o'r canlynol | y Drindod |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Iddew oedd Iesu Grist yn byw ym Mhalesteina tua dwy fil o flynyddoedd yn ôl. Yn draddodiadol, cymerwyd dyddiad geni Iesu ar 25 Rhagfyr yn y flwyddyn 1 CC yn ôl y drefn Anno Domini a grewyd gan Dionysius Exiguus yn 525. Cred rhai ysgolheigion mai 1 OC oedd Dionysius yn ei fwriadu fel blwyddyn geni Iesu. Mae'r hanes yn yr Efengylau yn awgrymu dyddiad ychydig cynharach, gan fod cyfeiriad at Herod Fawr a fu farw yn 4 CC.
Ganed ef yn nhref Bethlehem, ond treuliodd ei ieuenctid yn Nasareth, Galilea. Roedd yr Iddewon yn cael eu rheoli gan y Rhufeiniaid, ac roedd yn gas ganddynt hyn ac yn credu bod y proffwydi wedi rhag-ddweud y byddai y Meseia yn dod i'w rhyddhau. Daeth llawer ohonynt i gredu mai Iesu Grist oedd y Meseia hwnnw. Crwydrodd o gwmpas Palesteina yn pregethu a dysgu'r bobl gyda deuddeg disgybl yn ei helpu. Roedd hefyd yn iacháu pobl ac yn gwneud gwyrthiau. Am ei fod mor boblogaidd roedd yr awdurdodau crefyddol Iddewig yn ofni bod Iesu Grist yn cael gormod o ddylanwad ar y bobl ac roeddent am gael gwared ohono. Yn y fe lwyddon nhw i berswadio Pontius Pilat , y rhaglaw Rhufeinig, i gytuno i'w groeshoelio am ei fod, yn ôl yr awdurdodau Iddewig, yn fygythiad i awdurdod Rhufain.
Mae'r Efengylau yn dweud wrthym fod Iesu Grist wedi codi o'r bedd ar y trydydd dydd ar ôl ei groeshoelio.
Roedd Iesu Grist wedi gofyn i'r disgyblion barhau gyda'r gwaith o ddysgu'r bobl am Dduw. Dau berson pwysig a wnaeth lawer i sicrhau y byddai Cristnogaeth yn tyfu oedd Pedr a Paul a weithiasant fel cenhadon dros y ffydd newydd yn y Lefant ac Asia Leiaf.
Ceir sawl hanes a thraddodiad apocryffaidd am yr Iesu yn y traddodiad Cristnogol. Y llyfr apocryffaidd enwocaf amdano yng Nghymru'r Oesoedd Canol yw Mabinogi Iesu Grist.
Yn Islam, ystyrir fod Isa (Arabeg: عيسى) yn broffwyd annwyl gan Dduw ac yn Feseia. Yn ôl y Coran ganwyd Isa heb dad biolegol i Miriam (neu Maryam: y Forwyn Fair) trwy ewyllys Allah (Duw). Felly fe'i gelwir Isa ibn Maryam (Iesu mab Mair), gan ddefnyddio'r enw mamiarchaidd am nad oes ganddo dad (Coran 3:45, 19:21, 19:35, 21:91). Fel y proffwydi eraill roedd bywyd Isa yn ddi-fai. Roedd yn garedig i bobl ac anifeiliaid ac yn byw mewn tlodi a phurdeb.
Roedd yn medru gwneud gwyrthiau ond dim ond trwy ewyllys Duw; dyn oedd ef, nid Mab Duw. Mae'r Coran yn rhybuddio yn erbyn credu mewn dwyfolaeth Isa (Coran 3:59, 4:171, 5:116-117). Dyw Mwslemiaid ddim yn credu yn y croeshoeliad ac aberth Iesu; credant mai hud a lledrith gan Dduw oedd hynny i dwyllo gelynion Isa a'i fod wedi'i ddwyn yn syth i'r nef (Coran 4:157-158).
Ceir sawl traddodiad apocryffaidd ynglŷn ag Isa. Roedd yn gwrthod alcohol ac yn llyseuwr. Credir bod Isa wedi derbyn efengyl o'r enw Injil gan Dduw a bod honno'n cyfateb i'r Testament Newydd, ond ei fod wedi cael ei llygru gydag amser.
Gan ddilyn rhai o'r dywediadau a briodolir i Mohamed, mae rhai Mwslemiaid yn credu y daw Isa yn ôl yn y cnawd ar ôl Imam Mahdi (y proffwyd ail olaf) i drechu'r Dajjal ("Y Twyllwr"; ffigwr Gwrth-Grist). Bydd yn disgyn yn Damascus o'r nef ac yn byw gweddill ei oed naturiol yn ymladd drygioni. Mae Mwslemiaid Sunni yn credu y bydd yn cael ei gladdu ym Medina, yn ymyl Mohamed. Nid yw pawb yn derbyn hynny o bell ffordd.
Mae enwad fach yr Ahmadiyyaid yn credu bod Isa wedi goroesi'r croesholiad a theithio i Kashmir lle bu farw fel proffwyd dan yr new Yuz Asaf a chael ei gladdu yn Srinagar: mae hyn yn heresi i'r mwyafrif o Foslemiaid.
Mae sawl awdur wedi ystyried yr Iesu yng ngoleuni mytholeg gymharol ac yn honni bod elfennau o gredoau a thraddodiadau paganaidd y cyfnod wedi eu benthyg, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, gan yr eglwys gynnar.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.