Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Bethlehem yn ddinas yn y Dwyrain Canol ar y Lan Orllewinol, lle cafodd Iesu Grist ei eni ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, yn ôl y traddodiad Beiblaidd. Yng ngwlad Judea oedd hi yn amser Crist, gwlad yr Iddewon, ond mae mwyafrif y boblogaeth nawr yn Arabiaid ac mae'r ddinas dan reolaeth Awdurdod Palesteina. Ystyr Bethlehem mewn Hebraeg safonol yw "tŷ bara".
Math | dinas, Bwrdeistrefi Gwladwriaeth Palesteina, holy city of Christianity |
---|---|
Poblogaeth | 36,000 |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Burlington, Marrickville, Steyr, Belém, Belo Horizonte, Natal, Valinhos, São Pedro do Butiá, Villa Alemana, Concepción, Třebechovice pod Orebem, Haapsalu City, Chartres, Grenoble, Paray-le-Monial, Strasbwrg, Cwlen, Athen, Kalocsa, Assisi, Brescia, Civitavecchia, Conversano, Fflorens, Greccio, Lazio, Milan, Montevarchi, Orvieto, Pavia, Pratovecchio, san Miniato, Sant'Anastasia, Umbria, Verona, Madaba, Għajnsielem, Monterrey, Rabat, Den Haag, Sarpsborg, Cuzco, Częstochowa, Lisbon, St Petersburg, Pretoria, Córdoba, Leganés, Zaragoza, Yalvaç, Abu Dhabi, Glasgow, Joplin, Orlando, Sacramento, Benevento, Gaeta, Montpellier, Gallipoli, Montesarchio, Barranquilla, Palermo, Vladimir |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llywodraethiaeth Bethlehem |
Gwlad | Gwladwriaeth Palesteina |
Arwynebedd | 30 km² |
Uwch y môr | 775 metr |
Yn ffinio gyda | Jeriwsalem |
Cyfesurynnau | 31.7044°N 35.2061°E |
Gorwedd safle traddodiadol Beddrod Rachel, sy'n safle cysegredig pwysig yn Iddewiaeth, ar ymyl y ddinas. Mae Bethlehem yn gartref i un o'r cymunedau Cristnogol Arabaidd mwyaf yn y Dwyrain Canol. Mae'r ddinas yn gorwedd tua 10 km (6 milltir) i'r de o Jeriwsalem, ar uchder o tua 765 m (2,510 troedfedd) uwchben lefel y môr. Mae cylch dinesig Bethlehem yn cynnwys trefi llai Beit Jala a Beit Sahour.
Saif Eglwys y Geni, a godwyd gan yr ymerodr Rhufeinig Cystennin Mawr yn y flwyddyn 330, yng nghanol Bethlehem dros ogof a elwir y Crypt Sanctaidd, man geni traddodiadol Iesu Grist. Hon efallai yw'r eglwys Gristnogol hynaf yn y byd sy'n dal i sefyll. Gerllaw y mae ogof arall lle treuliodd Sant Jerome, un o dadau'r eglwys, 30 mlynedd o'i oes yn cyfieithu'r Ysgrythurau i Ladin gan osod sylfaen y Beibl Fwlgat.
Mae Bethlehem yn gartref i Brifysgol Bethlehem, sefydliad Catholig pwysig a sefydlwyd gan y Fatican.
Ers rhai blynyddoedd mae Mur Diogelwch Israel yn rhwystr rhwng y ddinas a Jeriwsalem ac yn creu problemau economaidd mawr yn y ddinas. Mae twristiaeth yn arbennig wedi dioddef yn enbyd mewn canlyniad.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.