Y Lan Orllewinol yw'r enw ar un o Diriogaethau Palesteinaidd yn y Dwyrain Canol ar lan orllewinol Afon Iorddonen, rhwng Israel yn y gorllewin a Gwlad Iorddonen yn y dwyrain. Un o'r symbolau yn erbyn Israel yw merch ifanc o'r enw Ahed Tamimi, a garcharwyd heb dreial yn 2017 am herio plismyn arfog.
Math | tiriogaeth dan feddiant, tiriogaeth ddadleuol, rhan o Balesteina, rhanbarth |
---|---|
Enwyd ar ôl | gorllewin |
Prifddinas | Ramallah |
Poblogaeth | 2,881,687 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Mahmoud Abbas |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gwladwriaeth Palesteina, Tiriogaethau Palesteinaidd, Israeli-occupied territories, Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia |
Lleoliad | De Lefant |
Sir | Gwladwriaeth Palesteina |
Gwlad | Gwladwriaeth Palesteina |
Arwynebedd | 5,860 km² |
Gerllaw | Môr Marw, Afon Iorddonen, Môr Galilea |
Yn ffinio gyda | Israel, Gwlad Iorddonen, Green Line |
Cyfesurynnau | 32°N 35.35°E |
WBK | |
Pennaeth y Llywodraeth | Mahmoud Abbas |
Arian | Sicl newydd Israel |
Daearyddiaeth
Mae'n cynnwys bryniau Judaea a Samaria a rhan o ddinas Jeriwsalem. Mae prif ddinasoedd a threfi'r Lan Orllewinol yn cynnwys Jenin, Nablus, dwyrain Jeriwsalem, Bethlehem, Ramallah, Hebron a Jericho. Ceir hefyd ddinas newydd Rawabi.
Hanes
Yn rhan o Balesteina yn sgîl yr Ail Ryfel Byd, daeth i feddiant Gwlad Iorddonen ar ôl cadoediad 1949 a sefydlu gwladwriaeth Israel. Cafodd ei meddiannu eto gan Israel yn y Rhyfel Chwe Diwrnod Israel-Arabiaidd (1967).
Gweinyddiad
Newidiodd polisïau gweinyddiad y Lan Orllewinol yn sgil arwyddo cytundeb Oslo II ym 1995 gan Yasir Arafat a Yitzak Rabin. Rhannwyd y tir yn dri chategori gweinyddol ardaloedd A, B ac C (nid yw'r ardaloedd yn ddi-dor), ac 11 dalgylch. Ar hyn o bryd, mae ardaloedd A, B ac C yn cynrychioli 17%, 24% a 59% o'r arwynebedd yn ôl eu trefn. Mae awdurdod sifil llawn gan yr Awdurdod Cenedlaethol Palesteina yn ardal A, gweinyddir ardal B ar y cyd rhwng yr Awdurdod ac Israel, tra bod ardal C dan reolaeth Israelaidd llawn. Mae'n debyg fod 98% o boblogaeth Palesteina yn byw yn ardaloedd A a B. Erys nifer o drefedigaethau Israelaidd ar y tir mwyaf ffrwythlon yn y gorllewin. Mae Israel yn dal ei gafael ar y rhan fwyaf o'r trefedigaethau, nifer o'r ardaloedd gwledig, y ffyrdd, y cyflenwad dŵr, yr awyr uwch y Lan gyfan, a'r ardaloedd ar y ffiniau.
Mae Israel wedi codi mur rhyngddi a'r Lan Orllewinol.
Gweler hefyd
Dolenni allanol
- (Corëaeg) Fideo: "Israel Soldier - Palestinian Girl" Heddyches Americanaidd o dras Balesteinaidd yn ceisio atal milwyr IDF rhag saethu ar brotestwyr Palesteinaidd yn y Lan Orllewinol.
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.