From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd Americanaidd oedd Harold Hart Crane (21 Gorffennaf 1899 – 27 Ebrill 1932). Ysgrifennodd barddoniaeth fodernaidd, a ellir ei hystyried yn rhan o'r mudiad ffurfiolaidd, o natur astrus, arddulliedig, ac uchelgeisiol ei maes. Dathliad o gyfoethogrwydd bywyd mae nifer o'i gerddi, sy'n disgrifio bywyd yr oes ddiwydiannol mewn geiriau dwys, gweledigaethol.[1] Cyfunodd dylanwadau llenyddol Ewrop a thechnegau mydryddu traddodiadol gyda theimladrwydd Americanaidd oedd yn olrhain i'r traddodiad Rhamantaidd (Walt Whitman a Ralph Waldo Emerson).[2][3]
Hart Crane | |
---|---|
Ganwyd | 21 Gorffennaf 1899 Garrettsville |
Bu farw | 27 Ebrill 1932 o boddi Florida |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Adnabyddus am | The Bridge |
Mudiad | Rhamantiaeth |
Tad | Clarence A. Crane |
Mam | Grace Edna Hart |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim |
llofnod | |
Ganwyd yn Garrettsville, Ohio, a threuliodd ei blentyndod yn Cleveland. Roedd priodas anhapus gan ei rieni, a chyfranodd at aflonyddwch emosiynol Crane am weddill ei fywyd. Darllennodd dramodyddion a beirdd oes Elisabeth (Shakespeare, Marlowe a Donne) a beirdd Ffrengig y 19g (Vildrac, Laforgue, a Rimbaud), a dechreuodd ysgrifennu yn ei arddegau.
Bu'n gweithio mewn amryw o swyddi yn Ninas Efrog Newydd a Cleveland tra'n ysgrifennu cerddi a'u danfon i gylchgronau. Pan lwyddodd i gyhoeddi peth o'i waith, penderfynodd symud i Efrog Newydd i fyw ym 1923. Cafodd ei daro gan fywiogrwydd ac egni swnllyd y ddinas a ysbrydolodd ei waith, yn enwedig y dilyniant a ensyniodd rhwng nodweddion y byd cyfoes a'r gorffennol epig. Er ei lwyddiant creadigol, parhaodd ei natur hunanddinistriol am weddill ei fywyd, a bu'n yfed yn drwm a hoetio ar ôl dynion.[1] Bu'n ymgysylltu â nifer o lenorion eraill oedd yn byw yn Efrog Newydd yn y cyfnod, gan gynnwys Allen Tate, Katherine Anne Porter, E. E. Cummings, a Jean Toomer, ond oherwydd ei dymer a'i or-yfed ni ffurfiodd cyfeillgarwch cryf gyda'r un ohonynt.
Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, White Buildings, ym 1926. Ymysg y casgliad hwn mae'r gerdd hir "For the Marriage of Faustus and Helen", ymateb Crane i'r besimistiaeth ddiwylliannol a welodd gan T. S. Eliot yn The Waste Land.
Dechreuodd Crane gynllunio cerdd epig o'r enw The Bridge ym 1924. Gan fanteisio ar gymorth ariannol gan ei dad a'r dyngarwr Otto H. Kahn, cwblhaodd Crane "The Bridge" 1930. Ei ymgais i greu myth epig o'r profiad Americanaidd yw'r gwaith hwn. Mewn rhan, roedd yn ymgais i wrthsefyll digalondid Eliot yn The Waste Land. Symbol o rym creadigol dyn wrth uno'r presennol a'r gorffennol yw pont y gerdd, a ysbrydolwyd mewn rhan gan Bont Brooklyn. Fel Eliot, defnyddia Crane y ddinaswedd fodern i greu barddoniaeth symbolaidd cryf, ond yn yr achos hon gweledigaeth optimistig a gwladgarol o bwysigrwydd hanesyddol ac ysbrydol America.[2] Geiriau dyrchafol a pherlewygol sy'n lliwio'r gerdd, gan greu delweddau a feirniadir yn aml am fod yn aneglur.[3] Pymtheg rhan sydd i'r gerdd hir hon, a defnyddiodd Crane strwythur y symffoni fel model wrth uno'r gwaith. Câi'r gerdd ei hystyried yn fethiant o genre'r epig o ganlyniad i'w natur ddigyswllt, ond yn ôl beirniaid llenyddol mae rhannau'r gerdd yn enghreifftiau o farddoniaeth Americanaidd orau'r 20g.[1]
Enillodd Crane Gymrodoriaeth Guggenheim ym 1931 a theithiodd i Ddinas Mecsico gyda'r bwriad o ysgrifennu cerdd epig a Mecsico yn ysbrydoliaeth iddi. Ni lwyddodd i wneud hyn, er iddo ysgrifennu'r gerdd The Broken Tower tra'n byw yno ym 1932. Ar ei fordaith yn ôl i Efrog Newydd, neidiodd o'r llong i mewn i Fôr y Caribî gan foddi.
Cyhoeddwyd casgliad o'i gerddi ym 1933, ac ym 1966 casgliad o'i holl gerddi a llythyron a rhyddiaith ddethol.
Roedd nifer o'i gyfoedion yn ei edmygu, gan gynnwys Eugene O'Neill, E. E. Cummings, Allen Tate, a William Carlos Williams. Dylanwadodd ei waith ar feirdd Americanaidd yng nghanol yr 20g megis John Berryman a Robert Lowell, a hefyd y dramodydd Tennessee Williams. Ymhlith ei edmygwyr modern mae'r bardd o Sant Lucia Derek Walcott, y beirniad Americanaidd Harold Bloom, y llenor Gwyddelig Colm Tóibín, a'r arlunydd Americanaidd Jasper Johns.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.