From Wikipedia, the free encyclopedia
Beirniad llenyddol ac academydd o o'r Unol Daleithiau oedd Harold Bloom (11 Gorffennaf 1930 – 14 Hydref 2019).
Harold Bloom | |
---|---|
Ganwyd | 11 Gorffennaf 1930 Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 14 Hydref 2019 New Haven |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd llenyddiaeth, llenor, athro cadeiriol, beirniad llenyddol, newyddiadurwr, damcaniaethwr llenyddol, academydd |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | Ralph Waldo Emerson, Samuel Johnson |
Mudiad | Esthetiaeth, Rhamantiaeth |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Cymrodoriaeth MacArthur, Gwobr Ryngwladol Catalwnia, Gwobr John Addison Porter, Sterling Professor, Alfonso Reyes International Prize |
Gwefan | https://english.yale.edu/people/tenured-and-tenure-track-faculty-professors/harold-bloom |
Ganed Harold Bloom ar 11 Gorffennaf 1930 yn Nwyrain y Bronx i deulu o Iddewon Uniongred, ac Iddew-Almaeneg oedd iaith yr aelwyd. Mewnfudwyr o Ddwyrain Ewrop oedd ei rieni, William Bloom a Paula Lev, ac a Harold oedd eu pumed plentyn. Cafodd ei fagu mewn cymdogaeth Iddewig, yn gyfagos i ardal Wyddelig, a bu cwffio ar y strydoedd rhwng llanciau'r ddwy gymuned.[1]
Dysgodd Harold i ddarllen Iddew-Almaeneg yn 3 oed, ac Hebraeg yn 4 oed, cyn iddo fedru'r Saesneg. Yn ei fachgendod daeth yn gyfarwydd â beirdd megis Hart Crane, William Blake, W. H. Auden, a T. S. Eliot yn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd yn y Bronx. Mynychodd Uwchysgol Wyddoniaeth y Bronx.
Enillodd ysgoloriaeth o Brifysgol Cornell, a derbyniodd ei radd baglor yno yn 1951. Aeth i Brifysgol Yale am ei astudiaethau ôl-raddedig. Enillodd ei ddoethuriaeth ar bwnc Rhamantiaeth, ac addasodd y traethawd hwnnw yn llyfr, Shelley's Mythmaking (1959).
Gweithiodd Bloom yn athro yn adran Saesneg Yale hyd at 1977. Fe'i penodwyd yn athro De Vane dros y dyniaethau, ac yn ddiweddarach yn athro Sterling y dyniaethau, sef y rheng academaidd uchaf ym Mhrifysgol Yale. Yn 1988 dechreuodd Bloom addysgu Saesneg yn Mhrifysgol Efrog Newydd hefyd yn swydd athro Berg.[2]
Priododd â Jeanne Gould yn 1958 a chawsant ddau fab, Daniel a David. Bu farw Harold Bloom yn yr ysbyty yn New Haven, Connecticut, ar 14 Hydref 2019, yn 89 oed.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.