Tennessee Williams
dramodydd americanaidd From Wikipedia, the free encyclopedia
dramodydd americanaidd From Wikipedia, the free encyclopedia
Dramodydd Americanaidd o dras Gymreig oedd Thomas Lanier Williams (26 Mawrth 1911 – 25 Chwefror 1983) a enillodd lawer iawn o wobrau uchaf am ei ddramâu. Newidiodd ei enw i "Tennessee", sef talaith enedigol ei dad yn 1939.
Tennessee Williams | |
---|---|
Ganwyd | Thomas Lanier Williams 26 Mawrth 1911 Columbus |
Bu farw | 25 Chwefror 1983 Dinas Efrog Newydd |
Man preswyl | Clarksdale, Columbus, Mississippi, New Orleans, St. Louis |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, nofelydd, sgriptiwr, bardd, llenor |
Swydd | Llywydd y Rheithgor yng Ngŵyl Cannes |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Pethe Brau, A Streetcar Named Desire, The Rose Tattoo, Cat on a Hot Tin Roof |
Arddull | drama llafar |
Prif ddylanwad | Anton Chekhov, August Strindberg, D. H. Lawrence, Hart Crane |
Tad | Cornelius Coffin Williams |
Mam | Edwina Estelle Dakin |
Gwobr/au | Gwobr Pulitzer am Ddrama, Tony Award for Best Play, Gwobr Pulitzer am Ddrama, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Anrhydedd y Kennedy Center, Hall of Fame Artistiaid Florida, Medal Rhyddid yr Arlywydd, star on Playwrights' Sidewalk |
llofnod | |
Enillodd Wobr Pulitzer am A Streetcar Named Desire yn 1948 ac am ei ddrama Cat on a Hot Tin Roof yn 1955. Enillodd The Glass Menagerie (1945) a The Night of the Iguana (1961) Wobr "New York Drama Critics' Circle]". Enillodd ei drama The Rose Tattoo Wobr Tony (Tony Award) am y ddrama gorau, yn 1952.
Nid yn Nhennessee ond yn Columbus, Mississippi, y'i ganwyd, a hynny ar 26 Mawrth, 1911 yn nhŷ ei daid a oedd yn werthwr teithiol. Daeth ei enw canol, Lanier o Virginia. Yn bump oed roedd yn sal iawn efo diphtheria. Roedd rhaid iddo aros yn ei wely am ddwy flynedd - ac yna y dechreuodd ddarllen o ddifri dan ddylanwad ei fam. Cornelius Williams oedd ei dad ac efallai oherwydd salwch ei fab cafodd Tennessee fawr o sylw ganddo; rhoddodd fwy o sylw i Dakin, brawd Williams.
Mam ddominyddol go iawn - fel ambell un o'i gymeriadau - oedd ei fam, Edwina Dakin Williams - ac roedd gan mwy nag un aelod o'r teulu broblemau meddyliol. Aeth i Brifysgol Missouri yn y tridegau lle bathwyd yr enw "Tennessee" gan y myfyrwyr eraill; mae stori arall amdano yn adrodd hanes y teulu yn ymladd yn erbyn brodorion Tennessee. Wedi iddo farw aeth ei holl arian i brifysgol yn Nhennessee. Erbyn diwedd y tridegau graddiodd ef o Brifysgol Iowa (ym 1938). Ei ddrama gynharaf oedd 'Cairo, Shanghai, Bombay!' a gynhyrchwyd yn 1935 ym Memphis, Tennessee.
Roedd Williams yn byw o 1939 yn y French Quarter, New Orleans, Louisiana. Yma yr ysgrifennodd ef ei ddramâu enwog The Glass Menagerie (1944), cyfieithiad Cymraeg Pethau Brau (1992) ac A Streetcar Named Desire (1947) a gyfieithwyd i'r Gymraeg dan yr enw Cab Chwant (1995) - y ddau drosiad gan Emyr Edwards. Symudodd wedyn i Key West, Florida, efo'i bartner oes, Frank Merlo, (bu farw ym 1963 o gancr yr ysgyfaint) roedd y berthynas rhyngddynt yn help mawr iddo oroesi cyfnodau o iselder. Ni chafodd gymaint o lwyddiant wedi marwolaeth ei gymar oes ym 1963 - ond ym mis Medi 2006 cynhyrchwyd ei ddrama 'heb ei gyhoeddi' The Parade, or Approaching the End of Summer, sy'n fath o hunangofiant. Cyhoeddwyd ei ddrama olaf A House Not Meant to Stand yn 2008. Roedd yn awdur straeon byrion cyn troi at ddrama. Ysgrifennodd hefyd tua 70 a ddramâu un act.
Erbyn heddiw - oherwydd enwogrwydd Tennessee Williams - mae Key West yn un o brif gymunedau hoyw yr Unol Daleithiau. Roedd ei chwaer Rose yn scitsoffrenaidd a dreuliodd ei bywyd mewn ysbytai - ac wedi iddi ddioddef lobotimi gwylltiodd Tennessee efo ei deulu. Roedd Williams ei hun yn gaeth i alcohol, amphetaminau a barbitiwradau. Bu farw dan eu dylanwad ym 1983.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.