De Ewrop
From Wikipedia, the free encyclopedia
Defnyddir y term De Ewrop i gyfeirio at yr holl wledydd yn ne Ewrop. Fodd bynnag, ar adegau gwahanol mae'r cysyniad o dde Ewrop wedi amrywio yn seiliedig ar gyd-destunau gwleidyddol, ieithyddol a diwylliannol yn ogystal ag elfennau megis daearyddiaeth neu hinsawdd. Mae'r mwyafrif o wledydd arfordirol yn ffinio â Môr y Canoldir. Yr eithriadau yw Portiwgal sydd ar fôr yr Iwerydd, Serbia a Gweriniaeth Macedonia sydd wedi'u hamgylchynu gan dir a Bwlgaria sy'n ffinio â'r Môr Du.
Diffiniad daearyddol

Yn ddaearyddol, de Ewrop yw hanner deheuol tir Ewrop. Mae'r diffiniad hwn fodd bynnag yn gymharol, heb ffiniau clir. Mae mynyddoedd yr Alpau a'r Massif Central yn creu ffin ffisegol rhwng yr Eidal a Ffrainc a gweddill Ewrop.
Yn ddaearyddol, ystyrir y gwledydd canlynol yn rhan o dde Ewrop:
Penrhyn Iberia
Penrhyn yr Eidal
Yr Eidal (yn cynnwys: Sardinia a Sisili)
San Marino
Dinas y Fatican
Balcanau
Albania
Bosnia a Hertsegofina
Bwlgaria
Croatia (o dan Sava a Kupa)
Groeg (yn cynnwys: Ynysoedd Aegean, Crete, a'r Ynysoedd Ionaidd)
Montenegro
Serbia (o dan Sava a'r Danube)
Gogledd Macedonia
Cosofo
Twrci (yn cynnwys: Dwyrain Thrace)
Eraill
Croatia (weithiau ystyrir ardaloedd gogleddol (Slavonia, Zagreb, Međimurje a Zagorje) fel Canol Ewrop)
Cyprus (yn ddaearyddol yn rhan o Asia ond fe'i ystyrir yn Ewropeaidd am resymau hanesyddol a diwylliannol)
Malta (yn cynnwys: Gozo)
Rwmania (ystyrir Northern Dobruja yn ne Ewrop ac weithiau Wallachia. Weithiau ystyrir Transylvania fel rhan o Ganol Ewrop)
Serbia (weithiau ystyrir y rhannau gogleddol o (Vojvodina, ogledd Belgrade, ardal Mačva) yn rhan o Ganol Ewrop)
Slofenia (ardal o Primorska)
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.