Gogledd Macedonia

gwlad yn Ne-Dwyrain Ewrop From Wikipedia, the free encyclopedia

Gogledd Macedonia

Gwlad yn ne-ddwyrain Ewrop ar Orynys y Balcanau yw Gogledd Macedonia a arfer cael ei galw yn Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia (neu Weriniaeth Macedonia). Newidiwyd yr enw yn swyddogol ar 12 Chwefror 2019 er mwyn cydymffurfio â Chytundeb Prespa drwy'r Cenhedloedd Unedig â Gwlad Groeg.[1]

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...
Gogledd Macedonia
Republlika Severna Makedonija (Macedoneg)
Thumb
ArwyddairDiamser yw Gogledd Macedonia 
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad 
Enwyd ar ôlgogledd, Macedonia 
PrifddinasSkopje 
Poblogaeth1,836,713 
Sefydlwyd8 Medi 1991 (Annibyniaeth oddi wrth Iwgoslafia)
AnthemHeddiw dros Macedonia 
Pennaeth llywodraethHristijan Mickoski 
Cylchfa amserUTC+01:00 
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Macedoneg, Albaneg 
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe Ddwyrain Ewrop, gwladwriaethau ôl-Iwgoslafia, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi 
Arwynebedd25,713 km² 
Yn ffinio gydaAlbania, Serbia, Bwlgaria, Gwlad Groeg, yr Undeb Ewropeaidd, Cosofo 
Cyfesurynnau41.65°N 21.71667°E 
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Macedonia 
Corff deddfwriaetholCynulliad Gweriniaeth Macedonia 
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Llywydd Gweriniaeth Macedonia 
Pennaeth y wladwriaethGordana Siljanovska-Davkova 
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Gweriniaeth Macedonia 
Pennaeth y LlywodraethHristijan Mickoski 
Thumb
Thumb
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$13,825 million, $13,563 million 
Ariandenar (Macedonia) 
Canran y diwaith17.414, 16.575, 15.801, 14.477 
Cyfartaledd plant1.524 
Mynegai Datblygiad Dynol0.77 
Cau

Mae'n llenwi tua 38% o diriogaeth rhanbarth hanesyddol Macedonia. Mae'n rhannu ffiniau â Serbia i'r gogledd, Bwlgaria i'r dwyrain, Gwlad Groeg i'r de ac Albania i'r gorllwein. Tan 8 Medi 1991, roedd yn rhan o Iwgoslafia. Tynnodd allan o ffederasiwn Iwgoslafia yn ddiweddarach na Slofenia a Chroatia. Ei phrifddinas yw Skopje, dinas o tua 600,000 o drigolion. Prif ddinasoedd eraill y wlad yw Bitola, Prilep, Tetovo, Kumanovo, Ohrid, Veles, Štip a Strumica. Mae poblogaeth Macedonia yn gymysg iawn. Y grŵp mwyaf yw'r Macedoniaid (Slafonaidd) (1,300,000, tua 64% o'r boblogaeth), ond mae hefyd leiafrif sylweddol Albaniaid (500,000, tua 25% o'r boblogaeth) a lleiafrifoedd llai o Dwrciaid, Sipswn a Serbiaid. Mae'r berthynas rhwng y ddau grŵp mwyaf wedi bod yn anodd ond mae'n gwella ers 2001, pryd cytunodd llywodraeth Macedonia dderbyn llu cadw heddwch o'r Cenhedloedd Unedig ac i ddatganoli grym i'r lleiafrif Albaneg. Yr iaith swyddogol yw Macedoneg.

Mae Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, ac yn ymgeisydd i ddod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Derbyniwyd cais gweriniaeth i ymaelodu â NATO ar 6 Chwefror 2019.[2] fel rhan o'r Cytundeb drwy'r Cenhedloedd Unedig ar newid enw'r wladwriaeth i 'Gweriniaeth Gogledd Macedonia'.

Enw'r wlad

Ar hyn o bryd mae Macedonia (Macedoneg: Македонија/Makedonija) yn defnyddio dau enw. Enw swyddogol y wlad yw Gweriniaeth Macedonia (Macedoneg: Република Македониjа/Republika Makedonija). Nid oedd yr enw hwn yn dderbyniol gan lywodraeth Gwlad Groeg, gan fod gan wlad Groeg ranbarth o'r un enw. Felly mae Macedonia wedi cytuno i ddefnyddio'r enw Cyn-Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia (Macedoneg: Поранешна Југословенска Република Македонија/Poranešna Jugoslovenska Republika Makedonija) fel enw dros dro yn y Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, ac mewn mudiadau rhyngwladol eraill. Cytunwyd ar yw enw Gweriniaeth Gogledd Macedonia ar 12 Chwefror 2019.[1]

Oriel

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.