dull o drefnu odl a chytseiniaid ym marddoniaeth Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia
Dull o drefnu geiriau ac odl mewn barddoniaeth er mwyn iddynt swnio'n bersain ac er mwyn i'r farddoniaeth fod yn gofiadwy ydy cynghanedd. Mae'n system o roi trefn arbennig ar gytseiniaid ac mae'n unigryw i'r Gymraeg, (er i farddoniaeth Llydaweg Canol hefyd gael system eitha tebyg). Mae'r gynghanedd fel cyfundrefn yn dyddio'n ôl i'r 14g gyda'r twf sydyn ym mhoblogrwydd mesur y cywydd, ond mae trefnu seiniau o fewn llinell a rhwng llinellau yn draddodiad llawer hŷn. Ceir cyseinedd yng ngwaith y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd, e.e. Hi hen eleni ganed, sy'n llinell o gynghanedd draws allan o Ganu Llywarch Hen a gyfansoddwyd, fe dybir, tua chanol y 9g, a'r llinell Gwedi boregad, briwgig o waith Taliesin (6g).
Pan fo cerdd yn cynnwys cynghanedd, dywedir ei bod yn gerdd gaeth.
Mae 4 prif fath o gynghanedd:
Mae'r pedwar prif fath o gynghanedd yn rhannu i mewn i'r is-ddosbarthiadau hyn:
Nid yw cynghanedd bengoll yn gynghanedd gywir ond rhwng gair cyrch ac ail linell englyn yn ôl rheolau heddiw.
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Defnyddir y gynghanedd ym mhob un o'r pedwar mesur ar hugain. Cyfundrefnwyd y mesurau gan Ddafydd ab Edmwnd yn Eisteddfod Caerfyrddin 1451, pan geisiodd gyflwyno dau fesur astrus, gorchest beirdd a chadwynfyr i ddisodli'r englyn milwr a'r englyn penfyr.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.