boneddiges o Gymraes From Wikipedia, the free encyclopedia
Boneddiges o Gymraes oedd Catrin o Ferain[1] (neu Catrin o'r Berain[2] ac weithiau Catrin Tudur[3]) (1534 – 27 Awst 1591). Ei llysenw oedd "Mam Cymru", ac roedd yn ferch ddeallus a phwerus iawn; bu farw yn 56 mlwydd oed. Nid oes cofeb iddi yn unman ac ni nodir ei henw ar garreg ym mynwent Llanefydd lle claddwyd hi.[4]
Catrin o Ferain | |
---|---|
Portread o Catrin o Ferain, mwy na thebyg gan Adriaen van Cronenburgh, arlunydd o ogledd yr Iseldiroedd. Mae'r benglog yn digwydd yn aml mewn portreadau o'r 16eg ganrif ac yn cynrychioli'r hyn sy'n ein hwynebu ar ddiwedd ein hoes h.y. ein marwoldeb. Cedwir y llun yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd wedi iddo am gyfnod fod yng nghasgliad Hermann Wilhelm Göring | |
Ganwyd | 1534 Berain |
Bu farw | 27 Awst 1591 Llanefydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweithiwr y llys |
Cysylltir gyda | Berain |
Tad | Tudur ap Robert Fychan ap Tudur ab Ieuan o Ferain |
Mam | Jane Velville |
Priod | Rhisiart Clwch, Morys Wynn ap John, John Salusbury, Edward Thelwall |
Plant | Thomas Salusbury, John Salusbury, Catrin ferch Richard Clough, Mary Clough, Jane Wynne |
Unig blentyn Tudur ap Robert Fychan a Jane Velville (merch Syr Rowland Filfel,[5] neu Roland de Velville) oedd Catrin. Honwyd bod Rowland Filfel yn fab gordderch i Harri Tudur drwy berthynas â Llydawes ddienw, ond nid yw hyn yn gywir.[6] Roedd Catrin yn berchen ar ystadau eang yn Nyffryn Clwyd, gan gynnwys ei phlasty teuluol yng Nghefn Berain, Sir Ddinbych ger Llanefydd a phlas Penmynydd, hen gartref Tuduriaid Môn.
Roedd Catrin yn adnabyddus fel noddwraig y beirdd. Canodd y bardd Wiliam Cynwal iddi fel 'cannwyll Gwynedd' mewn cwpled sydd bellach yn enwog. Dyma'r cwpled enwog, wedi'i ddilladu mewn orgraff fodern:
Bu farw ar 27 Awst, 1591 ac fe'i claddwyd yn Llanefydd ar y cyntaf o Fedi.
Yn The Celtic Peoples and Renaissance Europe (Llundain a New York, 1933), mae'r academydd Dr. David Matthew yn egluro sut y gwelir yn ei phedwar priodas y symud araf o'r grefydd Babyddol i'r grefydd Brotestannaidd.[8]
Ei phedwar gŵr:
Priododd John Salusbury (neu Siôn Salbri) pan oedd hi'n 22 oed. Roedd ef yn fab i Syr John Salusbury (m. 1578) o Lewenni a galwyd ef yn 'John yr Iengengaf'. Bu farw ym Mai neu Fehefin 1566, wedi priodas o 9 mlynedd.[9] Roedd ganddynt ddau fab: Thomas (g. c. 1564), a John (g. 1567).
Marsiandiwr cyfoethog iawn oedd Rhisiart, a sefydlodd y Royal Exchange yn Llundain gyda'i bartner busnes Sir Thomas Gresham.[10] Yn 1567 dychwelodd Rhisiart o Antwerp, lle bu'n gweithio a chododd ddau dŷ: Bachegraig a Phlas Clough. Dyma'r ddau dŷ cyntaf yng Nghymru i gael eu codi allan o frics. Wedi iddo farw, etifeddodd ei fab o'i briodas cyntaf Plas Clough.[11] Cafodd ddwy ferch o'i briodas gyda Chatrin o Ferain: Anne (g. 1568), a briododd Roger Salusbury, a Mary (g. 1569), a briododd William Wynn, Melai.
Wedi chwe mlynedd o briodas gyda Chatrin, bu farw. Mae'n fwy na phosibl iddo gael ei wenwyno gan ei fod yn gwneud gwaith ysbio ar ran Elizabeth I.[10]
Yn dilyn marwoaeth cynamserol Rhisiart, priododd Catrin Maurice Wynn[12] o Wydir, Dyffryn Conwy. Cawsant ddau o blant: Edward, a Jane. Roedd yn Siryf Sir Gaernarfon a phan fu farw, gadwyd Catrin yn un o bobl cyfoethocaf gwledydd Prydain.
Y bedwaredd briodas oedd i Edward Thelwall o Plas-y-ward; ni chawsant blant a bu farw Catrin o flaen Edward. Mab hynaf Simwnt Thelwall o'i briodas gyntaf oedd Edward. Ysgrifennodd y bardd Robert Parry, Henllan, (fl. 1540?-1612?), farwnad i Catrin yn dilyn ei marwolaeth.[13]
Cafodd chwech o blant ac un-deg-chwech o wyrion ac wyresau[3]: Dyma'r plant o'r 4 priodas:
Ceir tair nofel hanesyddol nodedig am Catrin a'i hoes gan R. Cyril Hughes, sef:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.