Plas-y-ward
tŷ rhestredig Gradd II yn Llanynys From Wikipedia, the free encyclopedia
tŷ rhestredig Gradd II yn Llanynys From Wikipedia, the free encyclopedia
Plasty a fferm hynafol ger Rhuthun, Sir Ddinbych yw Plas-y-ward a gofrestwryd yn Radd II ar 18 Awst 1999 (rhif 22150). Saif 1.6 km i'r dwyrain o bentref Rhewl.
Dyma gartref teulu'r Thelwall am rai blynyddoedd, gan gynnwys Edward Thelwall (sef gŵr Catrin o Ferain) ac Elizabeth Salusbury (1720-1756) (merch Norfolk Salusbury). Roedd John Thelwall (27 Gorffennaf 1764 – 17 Chwefror 1834) yn awdur ac yn heddychwr cynnar.[1] Mae'r tŷ presennol yn dyddio i ddiwedd y 17g pan ddymchwelwyd yr hen blasdy pren.
Apwyntiwyd Richard Thelwall yn un o Gomisiynwyr Brenhines Lloegr yn Eisteddfod Caerwys yn 1568, a bu farw yno yn yr Eisteddfod ychydig wedyn. Bu erlynydd y Catholigion sef Simon Thelwall (1526 - 1586) hefyd yn byw yma, fe'i gwnaed yn fargyfreithiwr ar 8 Chwefror 1568, ac yn aelod seneddol dros Sir Ddinbych; roedd yn ddirprwy-farnwr Caer yn 1584 ac ef a ddyfarnodd Rhisiart Gwyn y merthyr Catholig o Lanidloes i'w farwolaeth. Ond yr enwocaf o drigolion y cartref hwn oedd Catrin o Ferain a fu'n byw yma o 1586 hyd at ei marwolaeth yn 1591.
Bu sawl un o'r trigolion hefyd yn Uwch Siryfion Sir Ddinbych yn 1572, 1590, 1612 a 1670.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.