Deunydd adeiladu yw'r fricsen (ll. 'brics' neu 'briciau') a ddefnyddir i wneud waliau, palmentydd ac elfennau eraill mewn gwaith adeiladu carreg. Yn draddodiadol, cyfeiria'r term "bricsen" at uned sy'n cynnwys clai, ond fe'i defnyddir bellach i ddynodi unrhyw unedau petryal wedi'u gosod mewn morter. Gall brics gynnwys pridd, tywod a chalch, neu ddeunyddiau concrit. Gellir grwpio briciau i nifer o ddosbarthiadau gan gynnwys: mathau, deunyddiau a meintiau sy'n amrywio yn ôl ardaloedd a chyfnod, ac fe'u cynhyrchir mewn symiau mawr. Mae dau gategori sylfaenol o friciau: rhai wedi'u tanio (neu grasu) a brics sydd heb eu tanio.
Math | defnydd adeiladu, brick |
---|---|
Deunydd | clay, loam, clinker brick |
Gwneuthurwr | gwneuthurwr brics |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir deunydd o siap tebyg (petryal) a elwir yn 'floc' (ll. 'blociau') hefyd, ac mae'r rhain, fel arfer, wedi'u gwneud o goncrid, ond sydd o faint ychydig mwy na'r fricsen. Ceir hefyd frics a blocs ysgafn a wneir o glai a cherrig mân.
Mae brics wedi'u tanio yn un o'r deunyddiau adeiladu sy'n para hiraf heb weld llawer o ddirywiad ynddynt. Cyfeirir atynt weithiau fel "cerrig artiffisial", ac fe'u defnyddiwyd ers oddeutu 4000 CC. Crewyd brics wedi'u sychu yn yr awyr agored, a elwir hefyd yn "friciau mwd", sawl canrif cyn y brics wedi'u tanio. Yn aml, ychwanegwyd gwellt yn y clai er mwyn ei gryfhau.
Gosodir briciau mewn "cyrsiau" a cheir nifer o batrymau a elwir yn "fondiau", a elwir ar lafar gwlad yn "waith brics". Gall y morter sy'n eu cadw at ei gilydd amrywio'n fawr.
Hanes
Y Dwyrain Canol a De Asia
Yn yr awyr agored y sychwyd y brics cynharaf a cheir enghreifftiau ohonynt sy'n dyddio i 7500 CC, yn Tell Aswad, yn rhanbarth uchaf y Tigris ac yn ne-ddwyrain Anatolia yn agos at Diyarbakir. Mwd neu glai oedd y deunydd crai.[1] Ceir canfyddiadau mwy diweddar, dyddiedig rhwng 7,000 a 6,395 CC, o Jericho, Catal Hüyük, caer hynafol Buhen, yn yr Aifft, a dinasoedd hynafol Mohenjo-daro, Harappa, a Mehrgarh.[2][3] Defnyddiwyd brics cerameg mor gynnar â 3000 CC yn ninasoedd Cymoedd yr Indus e.e. Kalibangan.[4]
Cymru
Un o'r adeiladau hynaf i'w godi o frics oedd Bachegraig, rhwng Dinbych a Threfnant yn Nyffryn Clwyd, sef plasty a godwyd gan Rhisiart Clwch yn [1567].[5][6]
- Bricsen Rufeinig a ganfuwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru
- Fferm y Castell, Rhaglan; tua 1630
- Gwaith brics Cemaes
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.