Bardd, marchog. 1567 – 24 Gorffennaf 1612 From Wikipedia, the free encyclopedia
Uchelwr, tirfeddiannwr, gwleidydd a bardd o Gymru oedd Syr John Salusbury (1567 – 24 Gorffennaf 1612). Ei elyn pennaf oedd Robert Devereux, Ail iarll Essex, Richard Trefor (1558 - 1638), Trefalun a'i ddilynwyr. Ef, yn dilyn dienyddio ei frawd hŷn, oedd etifedd stad a phlas Lleweni a leolir tua 3 km i'r gogledd-ddwyrain o dref Dinbych, Sir Ddinbych. Roedd yn fab i Syr John Salusbury (m. 1566) a Catrin o Ferain (1534 – 27 Awst 1591).
John Salusbury | |
---|---|
Ganwyd | 1565 Lleweni |
Bu farw | 24 Gorffennaf 1612, 1613 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, bardd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1601 |
Rhagflaenydd | John Salusbury |
Tad | John Salusbury |
Mam | Catrin o Ferain |
Plant | Henry Salusbury |
I Goleg yr Iesu, Rhydychen yr aeth, ar 24 Tachwedd 1581 - yn ddim ond 14 mlwydd oed. Yn Rhagfyr 1586 priododd Ursula Stanley, merch anghyfreithlon Henry Stanley, iarll Derby. Ymladdodd mewn gornest un-i-un gyda pherthynas iddo, sef y capten Owen Salusbury, o bentref Holt, yng Nghaer ym Mawrth 1593; clwyfodd Owen a dihangodd rhag y gyfraith. Ni wyddys i sicrwydd beth oedd wrth wraidd yr helynt hwn, a gofidia Siôn Tudur mewn cywydd am yr ymraniadau teuluol rhwng Salbriaid Llewenni a Salbriaid Rug.[1]. Ymhen dwy flynedd wedi hynny, 19 Mawrth 1594/5, aeth John i astudio'r gyfraith i'r Middle Temple, ac am y 10 mlynedd nesaf treuliodd lawn cymaint o'i amser yn Llundain ag yn ei sir ei hun. Gwasnaethai frenhines Lloegr fel squire of the body, swydd y penodwyd ef iddi yn 1595.
Ym Mehefin 1601 urddwyd ef yn farchog gan Elisabeth I, brenhines Lloegr, ac ar 16 Rhagfyr etholwyd ef yn Aelod Seneddol tros Sir Ddinbych — hynny wedi brwydr ffyrnig yn erbyn ei elynion yn y sir: Syr Richard Trefor (1558 - 1638), Trefalun, Syr John Lloyd, Llanrhaeadr, a'r capten John Salusbury, Y Rug.
Cyfrifai Syr John ei hun yn dipyn o fardd, a chyfansoddodd, yn null ei oes ac yn Saesneg, amryw o ganeuon serch a sonedau nad ydynt o fawr werth fel llenyddiaeth, ond serch hynny yn taflu goleuni ychwanegol ar beth o ganu Shakespeare a'r beirdd cyfoes eraill (gw. Carleton Brown, Poems by Sir John Salusbury and Robert Chester). Nid ymddengys iddo byth ddychwelyd i Lundain wedi marw Elisabeth, a chymylwyd ei flynyddoedd olaf gan ymdrechion ei elynion i'w ddifrïo yng ngolwg y brenin newydd a'i lys.[2]
Bu farw 24 Gorffennaf 1612 gan adael stad Llewenni i'w fab Henry Salusbury (1589 - 1632), a aeth fel ei dad yn fyfyriwr i'r Middle Temple, 27 Tachwedd 1607, ac a urddwyd yn farwnig, 10 Tachwedd 1619.
Wedi Gwrthryfel Essex ar 14 Mehefin 1601, gwnaed Salusbury yn farchog, fel gwobr am ddod a'r gwrthryfel i ben.[3] Roedd dau o'i gefndryd (Owen a John) yn ymladd ar yr ochr arall, a lladdwyd Owain.
Arweiniodd hyn at ysgarmes yn ystod etholiadau i'r Llywodraeth, sgarmes a elwir heddiw yn "Derfysg Wrecsam" yn Hydref 1601, gyda chefnogwyr John Salusbury ar y naill law a gweddillion cefnogwyr Essex, dan arweiniad Syr Richard Trevor, ar y llall. Trodd Salusbury at y Frenhines i gwyno, a chytunodd mai ef oedd wedi ennill yr etholiad, a gwnaed ef yn Aelod Seneddol.[4] Daeth yn Aelod Seneddol dros Sir Ddinbych yn Rhagfyr 1601, ond nid oedd yno'n hwy na chydig ddyddiau, cyn ei derfynu.[2]
Yn eironig, ar farwolaeth Elizabeth, cefnogodd Iago, brenin newydd Lloegr, Essex a John Trevor, ac ychydig iawn o amser dreuliodd Salusbury yn Llundain wedi hynny.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.