From Wikipedia, the free encyclopedia
Cawr seren yw Aldebaran. Gorwedd ryw 65 blwyddyn golau o'r ddaear ac ymddengys yng nghytser y Tarw (Taurus), lle cynrychiola llygad chwith yr anifail. Aldebaran yw seren fwyaf llachar y cytser hwnnw (α Tauri) a'r bedwaredd seren fwyaf llachar ar ddeg yn y ffurfafen[1]. Mae hi, hefyd, yn rhan o seren glwstwr yr Hyades. Dyma un o'r sêr mwyaf amlwg i'w canfod o Gymru gyda maintioli (gweledol) yn amrywio'n afreolaidd yn hanesyddol o 0.95 i 0.75. Dengys ei liw oren (dosbarth K5[2]) bod i'w hwyneb (ffotosffer) dymheredd o 3,910 K (ychydig yn oerach na'r haul - 5778 K). Tua 1.7 gwaith màs yr haul yw Aldebaran, ond oherwydd ei diamedr, tua 44 gwaith un yr haul, mae dros 400 gwaith yn fwy disglair (luminous) na'r haul (dosbarth III). Mae'n troi ar ei hechel bob 520 diwrnod (o'i chymharu â thua 27 diwrnod yr Haul). Ymddengys bod iddi o leiaf un blaned, Aldebaran b, sydd o leiaf 5.8 màs y blaned Iau. Pan fu Aldebaran yn rhan o'r sêr brif ddilyniant (main-sequence) mae'n ymddangos y byddai Aldebaran b wedi bod yn y "Parth Elen Benfelyn" (Parth Cyfannedd) lle y byddai cynnal bywyd yn bosibl. Mae'r seren ei hun, bellach, wedi disbyddu'r tanwydd hydrogen yn ei chraidd ac wedi symud o'r prif ddilyniant i'r gangen cawr coch.
Enghraifft o'r canlynol | seren ddwbl, navigational star |
---|---|
Yn cynnwys | Alpha Tauri B, Aldébaran |
Cytser | Taurus |
Pellter o'r Ddaear | 65.1 blwyddyn golau |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daw enw traddodiadol Aldebaran o'r Arabeg نير الضبران (Nā᾽ir al Dabarān) "un llachar y dilynwr". Mae'n debyg am ei bod yn "dilyn" seren glwstwr amlwg y Twr Tewdws (y Pleiades) ar draws y ffurfafen[3]. Oherwydd amrywiaeth yn y defnydd, dim ond yn 2016 cytunwyd yn derfynol ar y sillafu swyddogol gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol[4].
Oherwydd ei ddisgleirdeb, mae'n sicr y sylwyd ar Aldebaran ers y cyfnod cynhanes. Mae sôn amdani yn llenyddiaeth hynafol Tsieina, India a Rhufain. Cytser y Tarw, mae'n rhan amlwg ohono, oedd un o'r cytser gyntaf i'w canfod. O bosib yn dyddio i gyfnod cyn yr Oes Efydd[1]. Ceir disgrifiad o'r lleuad yn ei chuddio (occultation) o Athen yng ngwlad Groeg ar 11 Mawrth 509[5]. Cymharodd y seryddwr o Sais, Edmond Halley (1656-1742)[6], yr arsylliad yma i brofi bod Aldebaran wedi symud ychydig yn y ffurfafen erbyn 1718. Hyn, ynghyd ac ymddygiad tebyg gan y sêr Sirius ac Arcturus, a arweiniodd i ddarganfod bod y sêr yn symud[7]. (Y gred hanesyddol bod y sêr yn "ansefydlog" o'u cymharu â'r planedau a oedd yn "crwydro".)
Bu i Aldebaran le pwysig arall yn hanes seryddiaeth[8]. Yn yr 1860au adeiladodd y Sais cefnog William Huggins (1824-1910)[9] arsyllfa yn ei ardd yn Tulse Hill, Llundain. Ynghyd a'i gymydog William Allen Miller (1817-1870)[10] (a oedd yn athro Cemeg yng Ngholeg King's Llundain) aeth ati i ddefnyddio technoleg newydd spectrosgopeg i ddadansoddi cemeg y sêr. (Y Sais William Hyde Wollaston (1766-1828)[11] oedd y gyntaf i sylwi ar linellau yn sbectrwm goleuni'r haul, ond Joseph von Fraunhofer (1787-1826)[12] oedd y gyntaf i'w hastudio yn fanwl yn 1814. Tua hanner can mlynedd wedyn cafwyd esboniad ohonynt gan y Sacson Robert Bunsen (1811-1899)[13] a'r Prwsiad Gustav Kirchhoff (1824-1887)[14].) Oherwydd ei disgleirdeb dewisodd Huggins a Miller troi eu telesgop i ddechrau i gyfeiriad Aldebaran. Canfuwyd dros 70 o linellau sbectrwm. Yn dilyn Bunsen a Kirchhoff adnabuwyd tarddiad nifer ohonynt - gan gynnwys naw elfen gemegol; sodiwm, magnesiwm, hydrogen, calsiwm, haearn, bismwth, telwriwm, antimoni ac arian byw. Wrth dangos bod yr elfennau "daearol" yma yn bodoli yn y sêr diflannodd unrhyw amheuaeth nad gwrthrychau tebyg i'r haul oedd y sêr. Aeth Huggins ymlaen i fesur newid Doppler yn llinellau Sirius - y seryddwr gyntaf i wneud hynny. Erbyn diwedd y ganrif, defnyddiwyd y dechneg hon gan Hermann Vogel[15] a Julius Scheiner[16] yn Arsyllfa Potsdam, ger Berlin, i ddangos bod Aldebaran yn symud oddi wrthym ar gyflymdra o 30 milltir yr eiliad[17].
Yn ein hoes ni, defnyddiwyd Aldebaran i gwyro offer Telesgop Gofod Hubble.