parth o amgylch y seren gyda phosibiliadau cryf ar gyfer dŵr hylif From Wikipedia, the free encyclopedia
Term mewn seryddiaeth yw'r parth cyfannedd sy'n cyfeirio at y parth o amgylch seren lle y byddai orbit planed yn caniatáu bywyd ar ei hwyneb[1][2]. (Neu o leiaf unrhyw fywyd y byddai'n ymdebygu i'r hyn y profwn ar y ddaear.) Y nodwedd bwysicaf yw'r amgylchiadau sy'n caniatáu dŵr hylif i fodoli ar ei hwyneb[3]. Yn agosach i'r seren, mi fyddai ei wres yn anweddu'r dŵr mewn modd y byddai'n arwain iddo ddiflannu i'r gofod. Yn bellach o'r seren ac mi fyddai holl ddŵr y blaned wedi rhewi - gan nacáu adweithiau biocemegol. Yn aml, cyfeirir at y parth yma fel y "parth Elen Penfelyn", er cof am y stori i blant o Loegr, Goldilocks and the three bears[4]. Crybwyllwyd y syniad yn ffurfiol yn gyntaf ym 1953 yn annibynnol gan Hubertus Strughold[5][6] a Harlow Shapely[7], er bod cyfeiriadau cyffredinol ato yn gynharach. Bellach mae cryn ddiddordeb mewn planedau allheulol sy'n troelli mewn parth o'r fath o amgylch sêr y tu hwnt i'r haul. Ystyrir hwynt yn gynefinoedd posibl i fywyd y tu hwnt i gysawd yr haul.
Delwedd artist o Barth Cyfannedd (gwyrdd) planed yn cylchdroi seren. | |
Enghraifft o'r canlynol | parth |
---|---|
Math | parth |
Rhan o | system blanedol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.