pentef ar Ynys Môn From Wikipedia, the free encyclopedia
Plwyf eglwysif a phentrefan yng nghymuned Bodorgan, Ynys Môn yw Trefdraeth. Mae 129.6 milltir (208.6 km) o Gaerdydd a 214.5 milltir (345.2 km) o Lundain.
Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.205°N 4.388°W, 53.2°N 4.4°W |
Cod OS | SH406702 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Saif y plwyf yn hen gwmwd Malltraeth, ac mae'n rhan o Ddeoniaeth Menai a Malltraeth. Llangwyfan yw eglwys y plwyf.
Mae'r enw Trefdraeth yn golygu "tref yn ymyl y traeth". Roedd yn lle pwysig gynt yn ystod Oes y Tywysogion am ei fod mor agos i Aberffraw a llys tywysogion Gwynedd. Yn yr Oesoedd Canol rhennid y dref rhwng Tref(draeth) Ddisteiniaid a Thref(draeth) Wastrodion, sef tir a berthynai i'r distain ("stiward" y llys) ac i'r gwastrod ("gofalwr y meirch" yn y llys).
Roedd Trefdraeth gynt yn rhan o gwmwd Malltraeth a oedd yn ei dro, gyda chwmwd Llifon, yn rhan o gantref Aberffraw (gweler Cantrefi a Chymydau Cymru).
Roedd gan Meilyr Brydydd a'i ddisgynyddion Gwalchmai ap Meilyr, Meilyr ap Gwalchmai, Einion ap Gwalchmai, ac efallai Elidir Sais yn ogystal, ddaliadau tir yn Nhrefdraeth.
Mae Trefignath yn siambr gladdu Neolithig ger Trearddur, Gaergybi ar yr Ynys Sanctaidd
Mae Eglwys Sant Beuno yn eglwys plwyf, ganoloesol a cheir cofnod gan Angharad Llwyd (1780–1866) i'r egwlys wreiddiol gan ei godi yma yn 616. Ond nid oes unrhyw ran o unrhyw strwythur ohoni'n tarddu o'r 7g wedi goroesi; mae'r rhannau hynaf o'r adeilad presennol o'r 13g. Gwnaed newidiadau yn y canrifoedd dilynol gydag ychydig ohonynt yn ystod y 19g, adeg pan gafodd nifer o eglwysi eraill Ynys Môn eu hailadeiladu neu eu hadfer.
Cynrychiolir Trefdraeth yn Senedd Cymru gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Llinos Medi (Plaid Cymru).[1][2][3][4]
Cafoddei gofrestru yn Gradd II* gan Cadw.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.