pentref a chymuned yn Sir Benfro From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Benfro, Cymru, yw Treamlod[1] (Saesneg: Ambleston). Saif yng nghanolbarth y sir, 11 milltir i'r gogledd o dref Hwlffordd ac i'r dwyrain o'r briffordd A40. Credir fod yr enw yn deillio o dir oedd yn eiddo i ryw "Amelot", enw Hen Ffrangeg. Ail-adeiladwyd Eglwys y Santes Fair yn 1906, ond mae'r tŵr o'r 12g.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 382, 392 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,557.37 ha |
Cyfesurynnau | 51.8948°N 4.9064°W |
Cod SYG | W04000408 |
Cod OS | SN0025 |
Cod post | SA62 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
Heblaw Treamlod ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys penrefi Wstog a Wallis. Mae Capel Wstog yn nodedig am mai yma, yn 1755, y cynhaliwyd gwasanaeth cymun am y tro cyntaf yn un o gapeli'r Wesleaid yng Nghymru. Y ffîn ogleddol yw hen drac sy'n arwain tua Tyddewi; arferai fod yn ffin ogleddol cantref Daugleddau, a dywed George Owen yn 1602 mai yma yr oedd ffin ieithyddol Sir Benfro. Dywed ef fod Treamlod yn ddwyieithog.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[3]
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 367.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Treamlod (pob oed) (382) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Treamlod) (129) | 34.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Treamlod) (257) | 67.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Treamlod) (39) | 28.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.