![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/86/Trawsfynydd%252C_Parc_Cenedlaethol_Eryri_National_Park%252C_Gwynedd%252C_Cymru_%2528Wales%2529_13.jpg/640px-Trawsfynydd%252C_Parc_Cenedlaethol_Eryri_National_Park%252C_Gwynedd%252C_Cymru_%2528Wales%2529_13.jpg&w=640&q=50)
Trawsfynydd
pentref a chymuned yng Ngwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru. yw Trawsfynydd ( ynganiad ). Mae'n gorwedd ar lan ddwyreiniol Llyn Trawsfynydd ar ochr cefnffordd de-gogledd yr A470. Mae'n adnabyddus fel man geni y bardd Hedd Wyn. Mae 81.7% o'r pentrefwyr yn medru'r Gymraeg. Cyfanswm arwynebedd y plwyf yw 12,830 hectar gyda phoblogaeth o 1000 o bobl.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/0/08/Trawsfynydd.jpg/640px-Trawsfynydd.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c7/Cross_Foxes%2C_Trawsfynydd.jpg/320px-Cross_Foxes%2C_Trawsfynydd.jpg)
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.9022°N 3.9238°W ![]() |
Cod SYG | W04000100 ![]() |
Cod OS | SH707356 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Adeiladwyd Atomfa Trawsfynydd ar lannau'r llyn yn y chwedegau a daeth â llawer o waith i'r ardal. Mae hi bellach yn cael ei datgomisiynu ers ei chau ym 1992. O safbwynt gwleidyddol, mae'r pentref yn rhan o ward ehangach Trawsfynydd ac yn cael ei chynrychioli ar Gyngor Gwynedd gan y Cynghorydd Thomas Ellis (Annibynnol). Mae ysgol gynradd yn y pentref o'r enw Ysgol Bro Hedd Wyn, sy'n rhan o ddalgylch Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Mae dwy dafarn yn y pentref o'r enw'r Cross Foxes a Rhiw Goch. Mae nifer o siopau yn y pentref gan gynnwys swyddfa bost, siop bapur, fferyllfa a chigydd. Mae dwy garej yn y pentref hefyd. Hefyd, mae canolfan treftadaeth, sy'n cynnwys hostel yn yr un adeilad.