Ysgol y Moelwyn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysgol uwchradd Gymraeg ym Mlaenau Ffestiniog, Gwynedd, ydy Ysgol y Moelwyn.
Ffeithiau sydyn Arwyddair, Sefydlwyd ...
Ysgol y Moelwyn | |
---|---|
Arwyddair | Amser Dyn yw ei Gynysgaeth |
Sefydlwyd | 1895 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mrs Eleri Moss |
Lleoliad | Heol Wynne, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, Cymru, LL41 3DW |
AALl | Cyngor Gwynedd |
Staff | 41 |
Disgyblion | 880 (1996)
360 (2021) |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–16 |
Lliwiau | Glas a Melyn |
Cau
Mae'r ysgol yn darparu addysg i ddisgyblion o oedran 11 i 16, yng nghyfnod allweddol 3 a 4, hyd nes iddynt gwblhau cymhwysterau TGAU, fel rheol.
Mae'r ysgol yn gwasanaethu Ffestiniog ac ardaloedd cyfagos, fel Trawsfynydd. Er ystyrir yr ardal yn un ddifreintiedig, arferai'r ysgol fod a record o ddarparu addysg safonol o'i chymharu ag ysgolion eraill yng Ngwynedd a thu hwnt.[1]
Caiff disgyblion eu penodi un o bedwar 'tŷ' : Bowydd, Prysor, Cynfal a Dwyryd. Rhain yw dosbarthiadau cofrestru y disgyblion o fewn eu blwyddyn yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.