Hedd Wyn
Bardd o Gymro a bu farw ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele / From Wikipedia, the free encyclopedia
Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans (13 Ionawr 1887 – 31 Gorffennaf 1917), bardd o bentref Trawsfynydd, Gwynedd a ddaeth yn symbol o golli cenhedlaeth o ieuenctid Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Lladdwyd ef ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol 1917 ar ôl ei farwolaeth.
- Am y ffilm o'r un enw gweler Hedd Wyn (ffilm)
Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...
Hedd Wyn | |
---|---|
Ffugenw | Hedd Wyn ![]() |
Ganwyd | Ellis Humphrey Evans ![]() 13 Ionawr 1887 ![]() Trawsfynydd ![]() |
Bu farw | 31 Gorffennaf 1917 ![]() Ieper ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr ![]() |
Cysylltir gyda | Yr Ysgwrn ![]() |
Perthnasau | Gerald Williams ![]() |
Gwobr/au | Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ![]() |
Cau
Ffeithiau sydyn Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma, Y Rhyfel Byd Cyntaf: Hedd Wyn Yr Arwr, Hedd Wyn ...
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
Llyfrgell Genedlaethol Cymru | |
Y Rhyfel Byd Cyntaf: Hedd Wyn | |
HWB | |
Hedd Wyn | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Cau
Mae ymhlith cenhedlaeth o feirdd a llenorion a fu’n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn cael ei weld fel un o ‘feirdd rhyfel’ yr adeg honno. Roedd rhyfel wedi eu hysgogi i ysgrifennu barddoniaeth a llenyddiaeth a oedd yn cyfleu erchylltra’r ymladd ac oferedd rhyfela.[1]