Tetovo
From Wikipedia, the free encyclopedia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Tetovo (Macedoneg:Тетово, IPA: [tɛtɔvɔ], Albaneg: Tetovë/Tetova; Twrceg: Kalkandelen) - dinas yng ngogledd orllewin Gogledd Macedonia sydd wrth droed mynyddoedd y Šar a'r afon Pena yn llifo drwyddi. Mae bwrdeisdref Tetovo yn 1080km2 ac ar uchder o 468m uwchben lefel y môr. Ei phoblogaeth yw 52,915.[1] Dinas Tetovo yw sedd Bwrdeisdref tetovo. Mae prifddinas Macedonia, Skopje 86 km i'r dwyrain, Prishtina a phrifddinas Cosofo 63 km i'r gogledd o bellter o'r ddinas. Tetovo yw prifddinas answyddogol yr ardal Albaneg ym Macedonia sy'n ymestyn fel arch ar hyd ochr orllewinnol y wladwriaeth o gyffiniau'r prifddinas, Skopje i lyn Ohrid.[2][3]. Mae'n gartref i'r Blaid Genedlaethol Ddemocrataidd, plaid genedlaetholaidd Albanaidd.[2]
Math | dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 63,176 |
Cylchfa amser | CET, CEST |
Gefeilldref/i | Konya |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Tetovo |
Gwlad | Gogledd Macedonia |
Arwynebedd | 261.89 km² |
Uwch y môr | 468 metr |
Cyfesurynnau | 42.0103°N 20.9714°E |
Cod post | 1200 |
Tetovo Тетово Tetovë Kalkandelen | |||
---|---|---|---|
Canol Tetovo, 2015 | |||
| |||
Location in Northwestern Macedonia. | |||
[[File:Nodyn:Location map Republic of Macedonia|210px|Tetovo is located in Nodyn:Location map Republic of Macedonia]] <div style="position: absolute; z-index: 2; top: Gwall mynegiad: Heb adnabod y nod atalnodi "[".%; left: Gwall mynegiad: Heb adnabod y nod atalnodi "[".%; height: 0; width: 0; margin: 0; padding: 0;"> <div style="font-size: 90%; line-height: 110%; position: relative; top: -1.5em; width: 6em; Gweithredydd < annisgwyl">Tetovo Location within Republic of Macedonia | |||
Cyfesurynnau: Script error: The function "coordinsert" does not exist. | |||
Country | Macedonia | ||
Municipality | Tetovo Municipality | ||
Llywodraeth | |||
• Maer | Teuta Arifi (Undeb Democrataidd dros Gydfyw, DUI) | ||
Arwynebedd | |||
• Cyfanswm | 1,068 km2 (412 mi sg) | ||
Uchder | 468 m (1,535 tr) | ||
Poblogaeth (2002)[1] | |||
• Cyfanswm | 52,915 | ||
Parth amser | CET (UTC+1) | ||
• Summer (DST) | CEST (UTC+2) | ||
Postal code | 1200 | ||
Cod ffôn | +389 044 | ||
Car plates | TE | ||
Climate | Cfb | ||
Website | tetovo.gov.mk . |
Yn ôl y chwedl Slafeg, golyga Tetovo "Lle Tetoo". Arwr chwedlonol oedd Tetoo a waredodd y dref o nadroedd.
Etymoleg arall i'r enw yw ei fod yn tarddu o'r gair Slafeg "hteti" sy'n golygu eisiau. O'r herwydd, mae'r enw Tetovo yn dod o hyd i fod yn heibio Htetovo neu "lle rydym ni eisiau byw". Roedd yr / h / cychwynnol yn cael ei golli yn rheolaidd yn Macedoneg. Mae'r amrywiant Albaneg yn addasiad uniongyrchol o'r enw Slafeg (gweler -ovo / -evo).
Dywedir hefyd fod y gair yn dod o'r Albaneg tet (wyth) ac ov (brwydr) wedi i'r trigolion Albanaidd gipio'r dref mewn wyth brwydr yn 1435.
Enw'r ddinas yn y Twrceg yw Kalkandelen.
Mae gan Tetovo boblogaeth o 52,915 (Cyfrifiad: 2002).[4] Maent yn byw mewn 12,920 preswylfa gyda 4 peson ar gyfartaledd mewn preswylfa. Ethnigrwydd
Mamiaith
Crefydd
Gellir dod o hyd i olion cyntaf anheddiad dynol yn y ddinas o'r hynafiaeth. Ei enw yn ystod y cyfnod Rhufeinig oedd Euneum o fen talaith Illyricum. Canfuwyd cerflun hynaf y rhanbarth yn Tetovo yn 1933, sef efydd 9 cm o hyd a 4 cm o led o'r 6g CC. Dyma'r canfyddiad archeolegol hynaf yn y rhanbarth. Mae bellach yn amgueddfa ddinas.[5]
Concrwyd y dref gan Ymerodraeth Otomoanaidd ar ddiwedd 15g wedi marwolaeth yr arweinydd Albanaidd, Skanderbeg. Galwyd y drefn yn Kalkandelen gan y Twrciaid. Nodwyd ganddynt fod y dref yn y 15g yn cynnwys masnachwyr a chreffrwyr ac wedi tyfu ers y goncwest. Yn 1470, ysgrifennodd teithiwr Twrcaidd fod Tetovo yn dechrau edrych fel dinas. Cyfeirir at Tetovo fel "dinas" ar y tro cyntaf yn 1689.[6]. Yn ystod y cyfnod Otomanaidd sefydlwyd canolfannau diwylliannol pwysig, gan gynnwys llyfrgell Arabati-Tekke o'r 18g a'r 19g, Hammam (baddon Twrcaidd) a'r Mosg Liwgar.[7]. Yn ystod teyrnasiaid yr Otomaniaid roedd Tetovo yn rhan o Vilayet (talaith) Cosofo.
Chwraeodd Tetovo ei rhan yn nhwf yr ymdeimlad genedlaethol a welwyd yn y Balcan trwy gydol y 19g. Yn 1844 cafwyd gwrthryfel Albaniaid erbyn gor-ganoli a threthi uchel yr Ymerodraeth Otomanaidd. Ar ôl y gorchfygiad y gwrthryfel, carcharwyd llawer o ddinasyddion Albaneg Tetovo neu eu halltudio i Asia Leiaf.[8]
Gyda cwymp yr Ymerodraeth Otomanaidd cipiwyd y ddinas gan yr Albaniad, Hassan Prishtina, ond bu ymgiprys rhwng yr Albaniaid, Serbiaid a Bwlgariaid am y ddinas (a Macedonia). Erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf daeth Macedonia yn rhan o wladwriaeth newydd Iwgoslafia. Daeth y ddinas yn rhan o Banovina (talaith) Vardar o 1929 i 1941.
Yn 1941 meddiannwyd Iwgoslafia gan bwerau'r Echel (Axis) a daeth Tetovo o dan reolaeth Albania Fawr a sefydlwyd o dan caniatâd Mussolini gyda'r Balli Kombëtar yn rheoli gyda chefnogaeth milwrol ac ariannol Ffasgwyr yr Eidal a Natsiaid yr Almaen. Codwyd baner Albania, daeth y Franc Albanaidd yn arian swyddogol ac Albaneg oedd iaith swyddogol y weinyddiaeth ac addysg. Gyda'r rhod yn troi yn y Rhyfel, sefydlwyd Plaid Gomiwnyddol Macedonia gan y Serbiaid ar 19 Mawrth 1943 yn Tetovo ond roedd Plaid Gomiwnyddol Albania eisoes wedi ei sefydlu yn y dref. Er gwaethaf buddugoliaeth y Cadfridog Tito a Chomiwnyddion Iwglosalfia yn y rhyfel, roedd cefnogwyr y Balli Kombëtar yn parhau yn y ddinas a parhawyd i ymladd nes 1948.
Er i tai a ffyrdd cael eu codi yn ystod y cyfnod Comiwnyddol, gwelwyd gwrthdaro cyson rhwng Albaniaid yn Tetovo a'r awdurdodau Slaf Comiwnyddol. Yn 1968 mynnodd Albaniaid Tetovo bod ardaloedd Albaniaid Gweriniaeth Sosialaidd Macedonia yn cael eu hatodi i Cosofo a'u cyd-drefnu ar y cyd fel seithfed weriniaeth Iwgoslafia.[9]. Gwrthododd yr awdurdodau hyn ond yn ei le, cytunwyd i awdurdodi'r gwaith o adolygu meysydd llafur a gwerslyfrau er mwyn rhwystro'r hyn a elwir yn "Treiddiad tueddiadau Albanaidd cenedlaetholaidd, iredentaidd a gwrth-chwyldroadol drwy llyfrau testun print a llenyddiaeth." Yn 1974, cadarnhaoedd y cyfansoddiad ffederal a lleihawyd y tensiwn.
Nodyn:Message galerie
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.