Remove ads
Taleithiau Ymerodraeth Otomanaidd From Wikipedia, the free encyclopedia
Yr enw ar daleithiau o fewn Ymerodraeth Otomanaidd, wedi Diwygiad 1864, oedd Vilayet. Disodlodd y gyfundrefn newydd yr eyalet fel uned lywodraethu. Roedd y vilayet newydd wedi ei seilio ar Département gwladwriaeth Ffrainc. Gweinyddwyd y Vilayets gan Lywodraethwr (Vali). Islaw y Vilayet roedd dau neu fwy sanjak (fyddai'n cyfateb yn fras i sir yng Nghymru).
Gweithrwdwyr yr egwyddor o ddiwygiad llywodraeth lleol yn gyntaf yn 1864 gan greu Vilayet y Donaw (Danube) a ddaeth i fod yn egin tywysogaeth annibynnol Bwlgaria yn 1878. Rhwng 1867 ac 1884 ymestynwyd yr egwyddor ar draws yr ymerodraeth. Mewn rhai achosion fe barhaodd rhai siroedd (sanjak) yn annibynnol o'r vilayet ond gan cael eu rheoli'n uniongyrchol gan y llywodraeth ganolog am resymau'n ymwneud â gwleidyddiaeth, crefydd neu rhesymau strategol.
Daw'r gair Vilayet o'r Twrceg, sydd yn ei dro'n tarddu o'r Arabeg (Arabeg: ولاية wilaya|wilāya, Ffarsi: ولايت;).
Roedd yr Ymerodraeth Otomanaidd eisoes wedi dechrau moderneiddio'r weinyddiaeth a rheoleiddio ei daleithiau yn y 1840au. Mae'n bwysig cofio bod ffiniau ac enwau nifer y vilayets wedi newid rhwng eu sefydlu yn yr 1870au a diwedd yr Ymerodraeth yn 1918. Gwnaed hyn, fel ymhob gwladwriaeth arall, oherwydd rhesymau'n ymwneud â demograffeg, gwleidyddiaeth ac economeg. Estynnodd y Gyfraith Vilayet i diriogaeth gyfan y Swltan gydag hierarchaeth unedau gweinyddol:
Y vali oedd cynrychiolydd y Sultan yn y vilayet, ac o ganlyniad rheolwr goruchaf y weinyddiaeth. Fe'i cynorthwywyd gan nifer o ysgrifenyddion, yn gyfrifol am gyllid (defterdar), gohebiaeth ac archifau (mektubci), cysylltiadau rhyngwladol, gwaith cyhoeddus, amaethyddiaeth a masnach, a benodwyd gan y gweinidogion priodol. Gyda llywydd y Goruchaf Lys (Mufettis-i hukka-i Seri'a), ffurfiodd y swyddogion hyn gyngor gweithredol y vilayet. Yn ogystal, roedd cyngor taleithiol etholedig o bedwar aelod: dau Fwslimiaid a dau nad oeddynt yn Fwslimiaid.
Vilayets yr Ymerodraeth Otomanaidd yn 1900. Noder bod Bwlgaria, lle'r lleolwyd y vilayet gyntaf, wedi dod yn wlad annibynnol erbyn 1900.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.