pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Rhosllannerchrugog[1] (weithiau Rhosllanerchrugog; Y Rhos neu Rhos ar lafar).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Andrew Ranger (Llafur).[2][3]
Roedd Rhosllannerchrugog yn rhan o hen blwyf Rhiwabon. Yr hen enw yr ardal oedd 'Morton uwch y Clawdd' (Saesneg: Morton Above the Dyke) neu yn gynt, yn Lladin, Morton Wallichorum (Saesneg: Welsh Morton). Ffurfiwyd plwyf newydd Rhosllannerchrugog yn 1844, a oedd yn cynnwys pentrefi Rhosllannerchrugog, Ponciau, Pant a Tre Ioan (Johnstown). Roedd Rhosllannerchrugog yn yr hen Sir Ddinbych tan 1974 ac yn Sir Clwyd rhwng 1974 a 1996, ond mae ym mwrdeistref sirol Wrecsam er 1996.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Rhosllannerchrugog ym 1945 a 1961. Am wybodaeth bellach gweler:
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Rhosllannerchrugog (pob oed) (9,694) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Rhosllannerchrugog) (2,210) | 24% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Rhosllannerchrugog) (7939) | 81.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Rhosllannerchrugog) (1,668) | 39.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Ceir dau gôr meibion:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.