prifathro a gwleidydd Llafur From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd James Idwal Jones (30 Mehefin 1900 – 18 Hydref 1982) yn brifathro ac yn wleidydd Plaid Lafur Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Wrecsam.[1]
James Idwal Jones | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mehefin 1900 Rhosllannerchrugog |
Bu farw | 18 Hydref 1982 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Ganwyd Jones yn y Ponciau yn fab i James Jones, glöwr ac Elizabeth (née Bowyer), ei wraig. Roedd AS Meirionydd, T. W. Jones, Arglwydd Maelor yn frawd hŷn iddo. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon, bu'n ddisgybl athro yn Ysgol Genedlaethol y Bers ym 1918[2] cyn cymhwyso fel athro trwyddedig yng Ngholeg y Normal, Bangor. Ym 1936 enillodd gradd BSc (Econ) fel efrydydd allanol ym Mhrifysgol Llundain.
Dechreuodd gweithio fel athro ym 1922 gan weithio mewn nifer o ysgolion yn ardal Wrecsam megis yr Holt, Pen y Cae ac Ysgol Uwchradd Fodern y Grango, Rhosllannerchrugog lle cafodd ei benodi'n brifathro ym 1938.[3]
Yn ogystal â bod yn athro roedd Jones hefyd yn Gweinidog lleyg ar Gapel Calfaria'r Bedyddwyr Albanaidd, y Rhos gan gael ei ordeinio ym 1924, parhaodd gyda'i ddyletswyddau fel gweinidog trwy gydol ei yrfa seneddol.[4]
Safodd Jones yn etholaeth Dinbych yn enw'r Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 1951 yn aflwyddiannus. Dewiswyd ef fel ymgeisydd Llafur etholaeth Wrecsam ar gyfer isetholiad a achoswyd drwy farwolaeth yr AS Llafur Robert Richards ar ddiwedd 1954 gan ddod yn fuddugol a chadw'r sedd o 1955 hyd ei ymddeoliad o'r senedd ym 1970. Gwasanaethodd fel Cadeirydd y Blaid Seneddol Gymreig (pwyllgor o holl ASau Cymru) ym 1957-1958, ac yn gadeirydd Grŵp Llafur Cymru ym 1960-1961; bu'n aelod o'r pwyllgor seneddol ar ddiwygio cyfraith etholiadol ym 1965[5] a arweiniodd at Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1969 a newidiodd yr oedran bleidleisio o 21 i 18 mlwydd oed, er bod Jones ei hun wedi siarad yn erbyn gostwng yr oedran yn y Senedd[6].
Fel ei frawd ystyrid J Idwal Jones yn un o griw "cenedlaetholgar" Y Blaid Lafur Seneddol ynghyd â Goronwy Roberts, Cledwyn Hughes, Jim Griffiths ac ati, er hynny fu'n galw am ymddiswyddiad Huw T. Edwards o'r Blaid Lafur am feirniadu Hugh Gaitskell am ei ddiffyg cefnogaeth i ddatganoli Gymreig a'r Iaith Gymraeg ac yn ystod isetholiad 1955 ysgrifennodd lythyr i'r Daily Post i ddweud nad oedd yn gweld manteision Senedd i Gymru.[7]
Cafodd trychineb glofa Gresffordd effaith mawr ar Jones gan iddo golli nifer o gydnabod, gan gynnwys rhai o'i gyn disgyblion yn y danchwa. Credai mai'r ffordd orau o amddiffyn y bobl rhag y fath erchylltra oedd datblygu diwydiannau amgen mwy diogel a bu'n weithgar yn ceisio denu diwydiannau newydd i ardal Wrecsam. Cafodd ei feirniadu gan rhai aelodau o'r Blaid Lafur ac Undeb y Glowyr am beidio gwneud digon i amddiffyn maes glo Gogledd Cymru a bu ymgais aflwyddiannus i'w ddad-ddewis fel yr ymgeisydd cyn etholiad 1966. Ymddeolodd o'r Senedd ar adeg etholiad 1970.[5]
Priododd Catherine Humphreys ym 1931 bu iddynt un mab ac un ferch, bu farw'r ferch yn ifanc. Roedd y teulu'n byw yn y Ponciau yn y tŷ drws nesaf i'w brawd.
Roedd Jones yn ffotograffydd ac arlunydd amatur, gan gael ei ddisgrifio gan yr AS Ceidwadol Geraint Morgan fel yr arlunydd amatur gorau yn Nhŷ'r Cyffredin[8]. Cyflwynwyd un o'i luniau Yr Afon Artro i'r Swyddfa Gymreig ym 1965, mae copi o'r llun i'w gweld ar wefan Casgliad Celf y llywodraeth Archifwyd 2012-08-03 yn y Peiriant Wayback. Bu'n llywydd y pwyllgor celf ar adeg ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol i Rhos ym 1945 a chafodd ei urddo i'r wisg wen yng Ngorsedd y Beirdd.
Bu farw yn ei gartref yn y Rhos ym 1982 a chladdwyd ei weddillion ym mynwent y pentref.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.