Goronwy Roberts
gwleidydd Llafur From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd ac Aelod Seneddol Llafur Cymreig oedd Goronwy Owen Roberts, Barwn Goronwy-Roberts (20 Medi 1913 – 23 Gorffennaf 1981). Bu'n Aelod Seneddol dros etholaeth Sir Gaernarfon ac yna etholaeth Caernarfon o 1945 hyd 1974.
Goronwy Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 20 Medi 1913 Bethesda |
Bu farw | 23 Gorffennaf 1981 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Gweinidog dros Fasnach |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Roedd yn frodor o Benrhos, Bangor. Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Cymru a Phrifysgol Llundain.
Daeth yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon yn 1945, fel olynydd i'r Rhyddfrydwr Goronwy Owen yna o 1950 dros etholaeth Caernarfon. Yn Etholiad Cyffredinol Chwefror 1974, collodd ei sedd i Dafydd Wigley. Yn ystod ei gyfnod yn y Senedd, daliodd nifer o swyddi. Cymerodd ran amlwg yn yr Ymgyrch Senedd i Gymru, ac yn 1957 cyflwynodd ddeiseb yn galw am senedd ddeddfwriaethol etholedig wedi'i harwyddo gan tua 250,000 o bobl i senedd San Steffan.
Gwnaed ef yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi yn 1974 fel "Barwn Goronwy-Roberts", a bu'n is-arweinydd Ty'r Arglwyddi o 1975 hyd 1979.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Goronwy Owen |
Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon 1945 – 1950 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: David Price-White |
Aelod Seneddol dros Gaernarfon 1950 – 1974 |
Olynydd: Dafydd Wigley |
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.