pentref ym Mwrdeistref Sirol Conwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yng nghymuned Bro Machno, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Penmachno.[1][2] Saif ynghanol cwm Penmachno, 3 milltir (5 km) i'r gogledd-ddwyrain o bentrefan Cwm Penmachno, a 4 milltir i'r de o Fetws-y-Coed. Llifa afon Machno trwy'r pentref.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0333°N 3.8°W |
Cod OS | SH790505 |
Cod post | LL24 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Claire Hughes (Llafur) |
Ganed yr Esgob William Morgan (1545-1604) yn Nhŷ Mawr Wybrnant, heb fod ymhell o'r pentref. Mae'r tŷ yn awr yn perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gellir ymweld ag ef a gweld arddangosfa ar gyfieithu'r Beibl i'r iaith Gymraeg.
Yn eglwys Sant Tudclud yn y pentref mae pum carreg gerfiedig cynnar sy'n dyddio o Oes y Seintiau yn y bumed a'r 6g. Y bwysicaf o'r rhain yw carreg fedd o ddiwedd y 5g sy'n coffáu gŵr o'r enw Cantiorix, a ddisgrifir yn yr arysgrif Ladin fel hyn: Cantiorix hic iacit / Venedotis cives fuit / consobrinos Magli magistrati, neu mewn Cymraeg "Yma y gorwedd Cantiorix. Roedd yn ddinesydd o Wynedd ac yn gefnder i Maglos yr ynad". Mae'r cyfeiriadau at "cives" a "magistratus" yn awgrymu parhad y drefn Rufeinig yng Ngwynedd am gyfnod ar ôl i'r llengoedd Rhufeinig adael.
Cedwir yr eglwys ar glo bellach, ac i weld y cerrig rhaid gofyn am yr allwedd o dŷ cyfagos.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.