![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/c/c4/Llen-Natur-1-transparent.png/640px-Llen-Natur-1-transparent.png&w=640&q=50)
Llên Natur
From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd yw Llên Natur . Mae'n wefan Gymraeg sy'n ymwneud â phopeth amgylcheddol, yng Nghymru a thramor, ddoe, heddiw ac yfory. Cymraeg yw iaith y prosiect, a'r wefan, ond ceir cyfraniadau mewn ieithoedd eraill gan gynnwys y Ffrangeg.[1] Ymhlith yr adnoddau sydd ar gael ar y wefan mae:
- Y Bwletin a'i holl ôl-rifynnau'r Bwletin a chyhoeddiadau eraill
- Y Tywyddiadur, sef cronoleg o 112,000 o gofnodion dyddiedig am y tywydd a chysylltiedig bethau
- Y Bywiadur (geiriadur Enwau a Thermau rhywogaethau a chymunedau llysieuol)
- Yr Oriel, sef archif o luniau
- amrywiol bytiau fideo
- recordiadau ("Llais")
- llyfrgell
![]() | |
Math | cymdeithas |
---|---|
Sefydlydd | Twm Elias, Duncan Brown |
Gwefan | http://llennatur.cymru/ ![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e7/Duncan_yn_Hacio%27r_Iaith.jpg/640px-Duncan_yn_Hacio%27r_Iaith.jpg)
a thu hwnt i'r wefan
- Grwp Facebook Cymuned Llên Natur
- dolenni yn cysylltu â thudalennau Wicipedia (o'r Bywiadur a thrwy ddadansoddi a chrynhoi gwybodaeth arall )
- presenoldeb ers Rhagfyr 2020 fel sianel ar blatfform cyfryngau creadigol AM
Trosglwyddwyd y prif gyfrifoldeb am gasglu a rhannu gwybodaeth am Enwau Lleoedd i Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn dilyn cynhadledd a gynhaliwyd gan Brosiect Llên Natur yn 2008 yn benodol i sefydlu cymdeithas o'r fath oherwydd amlygrwydd y bwlch.
Ymhellach i'r uchod mae'r prosiect yn defnyddio fwyfwy y platfformau cyhoeddus i rannu, casglu a chadw gwybodaeth, gan gynnwys Grwp Facebook Cymuned Llên Natur, Wicipedia, a chwnmnïau cofnodi bywyd gwyllt Cymru megis Cofnod' - Y Ganolfan Gofnodion Amgylcheddol Leol ar gyfer Gogledd Cymru .